Wales Biodiversity Partnership

Cadwraeth Adar Cymru

Cyflwyniad

Mae cynefinoedd amrywiol Cymru yn cynnal nifer o’r adar cyffredin a geir ym Mhrydain. Mae tingochion a gwybedogion brith yn nodweddiadol o goetiroedd derw Cymru a gellir gweld brain coesgoch yn bridio o amgylch yr arfordir lle y ceir glaswelltir arfordirol byr a chlogwyni creigiog. Un o lwyddiannau Cymru yw’r barcud coch (Milvus milvus) ac, fel y bwncath, mae wedi ymledu tua’r dwyrain i rannau eraill o Brydain. Mae nythfeydd Cymru o adar môr yn genedlaethol ac yn rhyngwladol bwysig. Gyda’i gilydd, mae nythfeydd adar môr Sgomer, Sgogwm, Enlli a Gwales yn cynnal palod, gwylogod, llursod, huganod ac oddeutu 45,000 pâr o adar drycin Manaw sy’n bridio – y boblogaeth fridio fwyaf yn y byd.
Mae rhywfaint o wyddau talcenwyn yr Ynys Las yn gaeafu yn Aber Afon Dyfi o fis Hydref ymlaen – mae gwarchodfa Ynys Hir yr RSPB yn lle da i’w gweld. Mae aberoedd Dyfi a Glaslyn yn cynnal gweilch y pysgod sy’n bridio. Ceir cyfleusterau gwylio adar ar gyfer y cyhoedd ar y ddau safle, gyda’r cyntaf o’r rhain yng Nghors Dyfi, sef gwarchodfa natur Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn.
Gwelir bod niferoedd rhai o adar tir fferm Cymru yn gostwng, gan adlewyrchu’r dirywiad yng ngweddill Prydain. Er enghraifft, dim ond yn nyffrynnoedd Nant Ffrancon ac Ogwen yng ngogledd Eryri y mae llinos y mynydd i’w chael, gydag oddeutu 16 pâr sy’n gwasgaru i’r arfordir yn ystod y gaeaf. Mae dirywiad tebyg o ran niferoedd a thiriogaeth i’w weld yn nifer o’n rhywogaethau tir fferm eraill, fel golfan y mynydd, y bras melyn a’r ddrudwen.

Gwarchod Adar yng Nghymru

Caiff 51 o fathau o adar eu cynnwys ar y rhestr o rywogaethau â blaenoriaeth ar gyfer Cymru (rhestr adran 7). Mae sefydliadau’r sector gwirfoddol yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac asiantaethau statudol, fel Cyfoeth Naturiol Cymru, i warchod adar yng Nghymru. Mae gan gynlluniau amaeth-amgylcheddol y potensial o fod o fudd i adar gan gynnwys petris, breision melyn, llinosiaid a golfanod y mynydd. Mae’r sefydliadau yn y sector gwirfoddol sy’n gysylltiedig â gwarchod adar Cymru yn cynnwys Ymddiriedolaeth Adareg Prydain, yr RSPB, Ymddiriedolaethau Natur Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir, yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adar Hela a Bywyd Gwyllt a Chymdeithas Adaregol Cymru. Enghraifft o’r dull hwn o weithio mewn partneriaeth yw Fforwm Cadwraeth Adar Cymru, sef grŵp gwirfoddol sy’n dwyn ynghyd arbenigedd o CNC a phartneriaid mewn Sefydliadau Anllywodraethol er mwyn hyrwyddo cadwraeth adar yng Nghymru.
Mae’r adroddiad o Gyflwr Adar y DU yn dwyn ynghyd ganlyniadau arolygon blynyddol, cyfnodol ac unigryw gan gynnwys yr Arolwg Blynyddol o Adar sy’n Bridio er mwyn cynnig golwg gyffredinol gyfamserol ar iechyd poblogaethau adar yn y DU. Mae cyfraniad cofnodwyr gwirfoddol yn hollbwysig wrth gasglu’r data. Yng Nghymru, dengys canlyniadau arolygon adar sy’n bridio fod telorion Cetti bellach wedi ymledu o amgylch arfordir de Cymru ac wedi cytrefu yn Ynys Môn ac ar arfordir cyfagos gogledd Cymru. Fodd bynnag, mae’r gnocell werdd, yr arferid ei gweld dros ardal eang yng ngorllewin Cymru, wedi diflannu i raddau helaeth yn ystod y deugain mlynedd ddiwethaf, gan adlewyrchu’r golled mewn cornchwiglod, cudyllod coch a drudwennod sy’n bridio. Ymhellach, mae niferoedd gylfinirod sy’n bridio wedi gostwng yn sylweddol yng ngorllewin Cymru.


Môr-wennol bigddu © Mike Hammett/CNC


Cornchwiglen © CNC


Pâl Sean McHugh/PBC