Natur yn Bro Morgannwg

Sir wledig yw Bro Morgannwg yn bennaf, sy’n cynnwys iseldir tonnog, a ffinnir i’r de gan yr arfordir, sy’n cynnwys darn 19km o Arfordir Treftadaeth dynodedig. Mae’r rhanbarth yn cynnwys dros 22 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Er mai tir amaethyddol ydyw’n bennaf, mae’r Fro’n cynnal bioamrywiaeth gyfoethog iawn ac amrywiaeth eang o gynefinoedd a rhywogaethau, gan gynnwys ambell rywogaeth sydd dan fygythiad yn fyd-eang a chenedlaethol, fel tafolen y traeth, y fritheg frown a’r fadfall ddŵr gribog.

Grant Cymunedol Partneriaeth Natur Leol

Mae Partneriaeth Natur Bro Morgannwg yn chwilio am brosiectau a fydd yn cyflawni ein nod o gynnal a chyfoethogi bioamrywiaeth a hyrwyddo gwydnwch ecosystemau.

Manylion pellach yma

Argynnis adippe, Britheg frown

Amdanom ni

Cynhyrchwyd Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Bro Morgannwg yn 2002 mewn ymgynghoriad agos â phartneriaeth LBAP y Fro. Ar ôl adfywiad dan enw Partneriaeth Natur y Fro ar ôl rhoi Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru ar waith, mae’r bartneriaeth yn cynnwys unigolion, busnesau, cyrff anllywodraethol, grwpiau cymunedol, cofnodwyr a sefydliadau cyhoeddus.

Cysylltwch â Chydlynydd Partneriaeth Natur Leol y Fro i ddysgu mwy am y Bartneriaeth Natur Leol a sut allwch chi helpu byd natur yn y Fro.

Gwiber

Ein Hamcanion

Mae Partneriaeth Natur Bro Morgannwg yn bodoli er mwyn:

Atal colli bioamrywiaeth ym Mro Morgannwg

Gwarchod ac adfer cynefinoedd sy’n bodoli’n barod ynghyd â chreu cynefinoedd newydd.

Addysgu a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwarchod ein bioamrywiaeth yn lleol.

Darparu cyfleoedd gwirfoddoli i bobl allu dysgu am fioamrywiaeth lleol a chymryd rhan mewn gweithredu er budd natur.

Cefnogi prosiectau natur arfaethedig a rhai sy’n bodoli eisoes drwy gynnig adnoddau ac arbenigedd.

Cynghori ar ffyrdd addas o weithredu er budd cadwraeth ym Mro Morgannwg.

Hwyluso gweithio mewn partneriaeth i ymestyn ein dylanwad er mwyn addysgu a thargedu camau i adfer natur.

Llygoden bengron y dŵr

Sut ydyn ni'n mynd i'w gyflawni

Datblygu rhwydwaith adfer natur gyda phartneriaid, er mwyn ymgysylltu â’r cyhoedd, grwpiau a sefydliadau cymunedol lleol, yn ogystal ag ysgolion a busnesau, i gymryd rhan mewn gweithredu ymarferol o blaid natur yn eu cymunedau.

Gweithio gyda phartneriaid i nodi meysydd â blaenoriaeth ar gyfer gweithredu ym Mro Morgannwg sy’n adlewyrchu amcanion Cynllun Gweithredu Adfer Natur yng Nghymru a’r cyfleoedd a amlygwyd yn y Datganiad Ardal.

Cefnogi datblygu prosiectau a fydd yn cyflawni amcanion cadwraeth natur fel y’u nodir yn ein cynlluniau gweithredu lleol.

Dod yn aelod o’r BNL
Mae Partneriaeth Natur Leol y Fro yn cynnal prosiectau ac arolygon y gallwch chi gymryd rhan ynddyn nhw; cysylltwch i ddysgu beth sy’n digwydd ledled y sir.

Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli’n ffordd wych o helpu bywyd gwyllt yn y Fro a dysgu mwy am gadwraeth rhywogaethau. Ceir llawer o grwpiau bywyd gwyllt yn y Fro, ymunwch â’r BNL i glywed am y cyfleoedd gwirfoddoli diweddaraf!

Cofnodi
Mae cofnodi pan welir bywyd gwyllt yn bwysig am y gall yr wybodaeth hon helpu cadwraethwyr i asesu newidiadau mewn tueddiadau poblogaethau bywyd gwyllt a gweithio i ddarganfod ffactorau a allai fod yn peri newidiadau cadarnhaol neu negyddol o fewn poblogaethau rhywogaethau. Gellir defnyddio data bywyd gwyllt i addysgu gwneuthurwyr penderfyniadau ynghylch blaenoriaethau adfer rhywogaethau, yn ogystal â dylanwadu ar ddynodiadau rhywogaethau a warchodir dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Anfonwch eich cofnodion o weld bywyd gwyllt yn y Fro at Ganolfan Gofnodi Bioamrywiaeth De Ddwyrain Cymru.

Bioddiogelwch
Mae rhywogaethau goresgynnol, plâu niweidiol a phathogenau yn niweidiol i’n bywyd gwyllt brodorol. Dysgwch fwy am fioddiogelwch a’r camau ymarferol y gall pob un ohonom eu cymryd i leihau’r perygl o wasgaru rhywogaethau goresgynnol, pathogenau a phlâu pan fyddwn ni’n ymweld â chefn gwlad Cymru.

Gwneud Lle i Natur
Gallwch greu hafan i fyd natur yn eich gardd chi drwy ddarparu cynefinoedd allweddol ar gyfer planhigion a bywyd gwyllt. Dysgwch ragor am ‘ailwylltio’ a sut i greu cynefinoedd i fywyd gwyllt yma.

Lleoedd lle mae natur i’w gweld yn Sir Morgannwg

Dyma ble mae pwynt mwyaf deheuol Cymru, ac mae lleoliadau di-rif y gallwch eu darganfod a mwynhau natur yn y Fro, gyda 53km o arfordir a chefn gwlad helaeth. O barciau gwledig, Gwarchodfeydd Natur Lleol, i gynefinoedd sy’n genedlaethol bwysig, mae yna leoedd sydd wastad ar agor i’r cyhoedd.

Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston

Dyma hafan i fywyd gwyllt lleol a Gwarchodfa Natur Leol ddynodedig. Daeth y ddwy chwarel a foddwyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) er mwyn gwarchod unig boblogaeth Cymru o rawn-yr-ebol serennog. Dewch i ddarganfod dros 20ha o goedwig llydanddail, cerddwch ar hyd y llwybr pren drwy welyau hesg trwchus ac archwiliwch y glaswelltiroedd sy’n gyforiog o flodau gwyllt.

Parc Gwledig Porthceri

Mae’r Parc Gwledig yn cynnig 220 erw o goedwig i’w darganfod (Coedwig Mill Wood, Coedwig Cliff Wood a Choedwig Knockmandown) yn ogystal â dolydd a phyllau dŵr mewn dyffryn cysgodol sy’n arwain at draeth caregog a chlogwyni arbennig.

Arfordir Treftadaeth Morgannwg

Mae Arfordir Treftadaeth Morgannwg yn ymestyn dros 14 milltir, o Aberddawan i Borth-cawl.

Parc Dwnrhefn yn Southerndown yw cartref Canolfan yr Arfordir Treftadaeth, sef canolfan wybodaeth ac addysg a reolir gan y Parcmyn sy’n gwarchod a gofalu am yr arfordir rhyfeddol hwn. Mae Bae Dwnrhefn yn rhan o SoDdGA Arfordir Southerndown sy’n ymestyn ar hyd 5km o arfordir; cafodd y glaswelltir ar ben y clogwyn, sy’n gyfoethog o ran rhywogaethau ac yn gartref i amrywiaeth o gymunedau planhigion gwahanol, ei ddynodi oherwydd ei ddaeareg a’i werth botanegol.

Nash Point

Pwynt canol Arfordir Treftadaeth Morgannwg, mae dôl y goleudy’n SoDdGA ac yn lle ardderchog ar gyfer gweld bywyd gwyllt, o’r ysgallen glorog brin, y cor-rosyn cyffredin a’r clychlys clystyrog, i adar drycin y graig urddasol yn hedfan uwchben a llamhidyddion chwareus yn y dŵr brochus ger y gefnen dywod.

Aberogwr

Ar ffin fwyaf gorllewinol yr Arfordir Treftadaeth. Mae Afon Ogwr yn denu cyfoeth o fywyd gwyllt gydol y flwyddyn, o eogiaid a siwin i hwyaid llygad-aur a chornchwiglod. Ar draws Afon Ogwr mae twyni tywod Merthyr Mawr, sy’n Gwarchodfa Natur Genedlaethol, a chartref i dros un rhan o dair o holl fywyd gwyllt Cymru o ran planhigion a thrychfilod!

Rheolir gwarchodfeydd natur gan ystod o sefydliadau cadwraeth a bywyd gwyllt sy’n gweithio yn y sir; mae gan y rhan fwyaf ohonynt wybodaeth ar y safle sy’n esbonio mwy am y cynefinoedd a’r bywyd gwyllt y gallwch eu gweld yno. Mae cyfle hyd yn oed i gymryd rhan gyda grwpiau cadwraeth lleol er mwyn helpu i reoli cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt!

Aberddawan

Gwarchodfa Natur Leol, sy’n gyforiog o fywyd gwyllt; mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru wedi helpu i gofnodi dros fil o rywogaethau gwahanol yma, a 62 ohonynt o’r pwys mwyaf i gadwraeth a bioamrywiaeth Cymru.

Coedwig Birchgrove

Gwarchodfa 4 erw sy’n cynnwys coetir a dôl, dan reolaeth Grŵp Cadwraeth Coedwig Birchgrove.

Coedwig Cwm Talwg

Gwarchodfa Natur Leol yn y Barri, 2.85 ha o goetir collddail aeddfed a reolir gan Grŵp Preswylwyr Coedwig Cwm Talwg.

Cae Tegeiriannau Gwenfô

Gwarchodfa natur gymunedol sy’n cynnwys dros 300 o rywogaethau o flodau, gweiriau, trychfilod ac adar.

Gwarchodfeydd Natur Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru yn y Fro:
Cwm Colhuw, Trwyn Larnog, Coed Garnllwyd, Coed Brynna a Chors Llanharan.

Gwarchodfeydd Coed Cadw yn y Fro:

Coedwig Cwm George a Casehill, Monks Wood a Choed Worney

Mae gan y Fro rwydwaith helaeth o lwybrau cerdded drwy’r wlad ledled y sir. Ewch allan i grwydro!

Uchafbwyntiau

  • Y Fro yw’r safle olaf yng Nghymru erbyn hyn lle ceir y Fritheg frown (Argynnis adippe, High brown fritillary). Diolch i lawer o waith caled gan wirfoddolwyr, Tîm Arfordir Treftadaeth Morgannwg a Gwarchod Glöynnod Byw ac arian oddi wrth Gronfa yr Ardoll Agregau, mae’r boblogaeth yn y Fro yn mynd o nerth i nerth. Rydyn ni bellach yn ystyried archwilio sut y gallwn ni helpu poblogaeth y fritheg frown i ehangu o’i safle presennol i safleoedd eraill ledled y Fro.
  • Gwnaed gwaith ar gynefinoedd ledled y Fro er mwyn cefnogi un o boblogaethau mwyaf y fadfall ddŵr gribog (Triturus cristatus, Great Crested Newt) yn ne Cymru; creu pyllau dŵr yn Cosmeston, Ardal Fadfallod Gerddi Dyffryn, a gwaith gwella pyllau ar draws y Fro, ynghyd â’r Prosiect Draeniau Mwy Diogel.
  • Mae un o rywogaethau Cymru sydd fwyaf mewn perygl yn dychwelyd ar ôl i dros gant o lygod pengrwn y dŵr (Arvicola terrestris, Water Vole) gael eu rhyddhau ym Mharc Gwledig Llynnoedd Cosmeston yn 2017. Dynodwyd y parc yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac mae’r holl lynnoedd ffosydd, gwelyau hesg a phlanhigion eraill yn creu cynefin delfrydol ar gyfer ffyniant llygoden bengron y dŵr yma
  • Dynodwyd Llynnoedd Cosmeston fel SoDdGA i warchod planhigyn pryn o’r enw rhawn-yr-ebol serennog (Nitellopsis obtuse, Starry stonewort). Fel yr unig safle lle ceir y planhigyn hwn yng Nghymru, mae’r llynnoedd yn cynnig cynefin perffaith am fod y planhigyn yn ffafrio llynnoedd rhwng 1 a 6 metr o ddyfnder, mewn tir isel a dŵr calchaidd, fel arfer ger yr arfordir.
  • Wedi sawl blwyddyn o fonitro a gwaith ar gynefinoedd, mae’r frân goesgoch (Pyrrhocorax pyrrhocorax, Chough) wedi dychwelyd i’r Fro am y tro cyntaf ers dros ganrif! Cadwch lygad am yr adar trawiadol hyn wrth iddyn nhw hedfan uwchlaw Arfordir Treftadaeth Morgannwg!
  • Yn y Deyrnas Unedig mae Cerddinen Morgannwg (Sorbus domestica, True service tree) yn goeden eithriadol o brin, sy’n tyfu’n ddigymell; gellir ei gweld yn tyfu ar glogwyni calchfaen serth mewn dau safle yn y Fro (Ffont-y-gari a Phorthceri). Ym Mhorthceri, bygythir y coed gan y brinwydden (Holm oak), rhywogaeth fythwyrdd ymledol sy’n disodli Cerddinen Morgannwg. Mae gwaith ar y gweill i dynnu’r brinwydden er mwyn gwarchod y boblogaeth genedlaethol bwysig hon.
  • Yng Nghymru, yr unig le i weld poblogaethau o’r Ysgallen glorog (Cirsium tuberosum, Tuberous thistle) sydd wedi goroesi yw yn y glaswelltiroedd sialc hynafol sy’n gyforiog o rywogaethau ar hyd pennau’r clogwyni sy’n gorchuddio calchfaen Jwrasig ar hyd 5km o arfordir y Fro. Dynodir Nash Point yn SoDdGA i warchod y planhigyn prin hwn ers iddo gael ei ddarganfod yno yn 1977.
  • Nodwydd y bugail (Scandix pecten-veneris, Shepherds Needle); aelod tal o deulu’r moron, mae ganddo ddail wedi’u rhannu’n fân a blodau bach gwyn mewn wmbelau. Daw’r enw o’r hadau, a’u pigyn hir a thenau, sef y ‘nodwydd’, sy’n gallu taflu hadau hyd at fetr i ffwrdd o’r fam flodyn. Fel sawl ‘chwynnyn’ tir âr, dirywiodd yn gyffredinol, a Morgannwg yw un o’r ddau gadarnle iddo bellach yng Nghymru.

Cyswllt

Emily Shaw - Cydlynydd Partneriaeth Natur Lleol

Cyngor Bro Morgannwg
Heol yr Isffordd
Y Barri, CF63 4RT

Ebost: eshaw@valeofglamorgan.gov.uk
Gwefan: clicwch yma

Mae Bro Morgannwg yn aelod gwerthfawr o Rwydwaith Partneriaeth Natur Lleol Cymru gyfan

Partneriaethau Natur Lleol CymruBro Morgannwg

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt