Wales Biodiversity Partnership

Ceredigion

Emma Sharp

Cynorthwydd Bioamrywiaeth

'Mae Ceredigion yn doreithiog o gynefinoedd a bywyd gwyllt, ac mae bioamrywiaeth yn rhan bwysig o arbenigrwydd y Sir. Yn wir, mae’r rhosydd (sydd hefyd yn gynefin i frithegion y gors prin), yr aberoedd a’r gwlyptiroedd o bwysigrwydd rhyngwladol sy’n cynnal adar dŵr ac adar hirgoes, ynghyd â’r coetiroedd derw, i gyd yn cyfrannu at fioamrywiaeth y Sir. Hefyd, mae Ceredigion yn gadarnle i farcutiaid a brain coesgoch. Mae arfordir Bae Ceredigion yn bwysig i adar, ac mae’r dyfroedd yn cynnal dolffiniaid trwyn potel, llamidyddion a morloi llwydion. Nid ymboeni am rywogaethau prin neu rywogaethau dan fygythiad yn unig sydd ynghlwm wrth warchod bioamrywiaeth. Mae bioamrywiaeth yn cynnwys popeth byw. Mae gwarchod y bywyd sydd o’n cwmpas yn fwyfwy pwysig, nid yn unig oherwydd gwerth aruthrol y planhigion a’r anifeiliaid, ond er lles ein hanghenion ni. Wrth gwrs, mae llunio’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol yn gam pwysig o safbwynt cynnal adnodd bwyd gwyllt Ceredigion. Mae’n sail i gydweithio cymunedol er mwyn sicrhau lles bioamrywiaeth y Sir yn y dyfodol. Partneriaeth Bioamrywiaeth Ceredigion sydd wedi llunio’r Cynllun, ac mae’r bartneriaeth yn cynnwys amrywiaeth o sefydliadau a chanddynt gyfrifoldeb dros fywyd gwyllt.

Mae cynllunio ar gyfer bioamrywiaeth Ceredigion yn broses barhaus. Bydd y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth yn esblygu wrth i’n gwybodaeth gynyddu ac wrth i ni gymryd camau i geisio cynnal amrywiaeth y cynefinoedd a’r rhywogaethau a geir yn y Sir.' Y Cynghorydd Alun Lloyd-Jones Cadeirydd, Partneriaeth Bioamrywiaeth Ceredigion Gorffennaf 2002.

Ceredigion