Wales Biodiversity Partnership

Cennau

Cyflwyniad

Mae cennau yn organebau rhyfeddol ar ffurfir gan berthynas symbiotig rhwng o leiaf dwy organeb wahanol- un ffwng a phartner, neu bartneriaid, ffotosynthetig (alga gwyrdd ac/neu cyanobacteria). Mae’r gydberthynas wedi datblygu sawl tro yn y gorffennol, gydag ystod eang o ffyngau gwahanol wedi esblygu’n gennau yn annibynnol i’w gilydd. Dim ond yn ddiweddar iawn adnabyddir bod rhai ffyngau wedi esblygu i fod yn gen, ac yna wedi dychwelyd i fod yn ffwng drachefn ee. Penisillium
Mae’r alga yn defnyddio ffotosynthesis er mwyn cyflenwi’r cen gyda maeth hanfodol, tra bo’r ffwng yn ffurfio corff yr organeb, y thalws, gan gasglu a dosbarthu mwynau. Mae’r ffwng hefyd yn amddiffyn yr organeb trwy greu sylweddau gwrth-facterol, gwrth-ffyngol, a gwrth olau uwch-fioled. Os yw cyanobacteria yn rhan o’r bartneriaeth hefyd, maent yn sefydlogi nitrogen o’r aer.
Mae sawl ffurf wahanol o gen yn bodoli- rhai sy’n ffurfio crawen, rhai llabedog, rhai ar ffurf deilen ayyb, a gallent arddangos amrywiaeth fawr o liwiau gwahanol, gan gynnwys melyn, coch, oren, a llwyd. O ran cynefinoedd, maent i’w cael mewn nifer o amgylcheddau gwahanol- coetiroedd, mynyddoedd, chwareli, twyni, ac amgylcheddau dinesig. Yn wir, lle bynnag bydd coed, cerrig, beddau, neu balmant- mae cennau i’w cael! Mae rhai ohonynt wedi esblygu i dyfu ar arwynebau sydd yn rhy wenwynig i unrhyw blanhigion eraill.
Fel arfer, mae cennau’n tyfu’n araf iawn, a gellir eu defnyddio fel dangoswyr amgylcheddol gan eu bod yn sensitif iawn i newidiadau mewn safon aer. Mae llygredd aer a dŵr yn fygythiad mawr i gennau, gan gyfyngu ystod rhywogaethau a oedd unwaith yn gyffredin iawn.
Gall cennau fod yn ddefnyddiol iawn i’w cymdogion hefyd. Maent yn ailgylchu mwynau a maeth a adewir gan blanhigion eraill, a gallent ddarparu lloches i bryfed cop, llau, a phryfetach eraill. Er bod dal tipyn o waith ymchwil i’w wneud yn y maes, rydym yn deall erbyn hyn bod nifer fawr o rywogaethau ffwng yn llwyr ddibynnol ar gennau- mwy, o bosibl, na’r nifer o gennau y maent yn ddibynnol arnynt! Mae gan gen lawer i’w gynnig i bobl hefyd- echdynnir lliw ar gyfer gwlân ohonynt, mae rhai’n fwytadwy, ac mae eraill yn cael eu defnyddio gan gwmnïau cyffuriau i greu gwrthfiotigau ac eli haul. Gall y cennau sy’n cynnwys cyanobacteria sefydlogi cymaint o nitrogen ac unrhyw facteria yng ngwreiddiau teulu’r pys. Maent yn gyffredin iawn mewn coetiroedd, gan gyfrannu’n sylweddol at gylchredau nitrogen yno.



Degelia plumbea © NRW


Heterodermia leucomela © Ray Woods

© Sean McHugh

Cadwraeth Cennau yng Nghymru

Yn ôl y Rhestr o Gen Data Coch ar gyfer Cymru (2010), roedd Cymru’n cynnal oddeutu 1250 rhywogaeth, cyfystyr â 68% o holl fflora cen Prydain. Trwy ddefnyddio data a gasglwyd gan y Gymdeithas Gen Brydeinig Lichen, ynghyd â meini prawf rhyngwladol cydnabyddedig, am y tro cyntaf erioed cynigwyd disgrifiad o’r bygythiad a wynebir gan holl gennau Cymru a’u ffyngau cysylltiedig ar lefel ranbarthol. Cymharwyd lefel y bygythiad i rywogaethau Cymreig gyda’r rhestr Data Coch a gyhoeddwyd eisoes ar gyfer Prydain. O’r 1290 o rywogaethau cen a ffwng a astudir yn draddodiadol yng Nghymru, mae’n debyg bod 22 wedi diflannu bellach (2% o’r cyfanswm), a 204 rhywogaeth (16%) mewn perygl o ddiflannu’n llwyr. O’r grŵp hwnnw mae 28 rhywogaeth (2% o’r cyfanswm) dan fygythiad enbyd, 24 (2%) dan fygythiad, a 156 (12%) yn fregus. Mae 133 tacson pellach (10% ) yn agos at fod Dan Fygythiad tra bod diffyg gwybodaeth am 152 (12%) tacson yn ei gwneud yn amhosib pennu statws bygythiad ar eu cyfer.
Felly mae angen cymryd camau gweithredu ar gyfer 38% o’r tacson cen a ffwng Cymreig sydd wedi cael eu hastudio gan arbenigwyr, un ai er mwyn deall mwy am eu gwir statws neu i wrthdroi dirywiad sy’n digwydd ar hyn o bryd.