Nid yw’r grŵp yn weithredol bellach ac nid yw gwybodaeth ar y dudalen hon yn gyfoes. Fe’i dangosir at ddibenion cyfeirio yn unig.

Dyma'r dudalen wybodaeth ar gyfer Grŵp Ecosystem Coetir PBC. Mae gweithgareddau Grŵp Ecosystem Coetir yn ymwneud ag Adran 7 cynefinoedd â blaenoriaethau yng Nghymru , fel a ganlyn: Coedwig ffawydd ac ywen ar dir isel; Coedwig gollddail gymysg ar dir isel; Coedwig ynn gymysg ar dir uchel; Coedwig dderi yn yr ucheldir; Coedwig wlyb; Porfa goediog a pharcdir.

Mae cyfuniad o nifer o bethau, yn cynnwys lleoliad daearyddol, y ddaeareg amrywiol, y dirwedd a'r hinsawdd, wedi arwain at amrywiaeth drawiadol o gynefinoedd coetir yng Nghymru. Y nod yw gorchuddio mwy o dir ein gwlad â choetiroedd (o 9% i 14%). Mae coetiroedd Cymru yn cynnal amrywiaeth eang o gennau, mwsoglau a llysiau'r afu, ac mae cadarnleoedd telorion y coed, tingochion a gwybedogion brith o fewn y DU i'w cael mewn coetiroedd derw yng ngogledd a gorllewin Cymru.

Coetir

Cynefinoedd Coetir â Blaenoriaeth yng Nghymru

Mae’r Grŵp Coetiroedd wedi nodi ardaloedd â blaenoriaeth ar gyfer ymdrechion cadwraethol penodol yng Nghymru, a chânt eu rhestru isod. Mae’r mapiau hyn ar gael hefyd ar ffurf GIS. Defnyddiwch yr adran cysylltwch i wneud cais am y ffeiliau.

Daw aelodau’r Grŵp Coetiroedd o gyrff statudol, awdurdodau lleol ac elusennau bywyd gwyllt, a chaiff ei gadeirio ar hyn o bryd gan Chris Tucker, Cyfoeth Naturiol Cymru.A oes gennych gwestiwn yn ymwneud â gwaith y grŵp hwn? cysylltwch

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt