Wales Biodiversity Partnership

Deddfwriaeth Bywyd Gwyllt

Cyfarwyddeb Adar a Chyfarwyddeb Cynefinoedd yr Undeb Ewropeaidd sy’n gosod y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer amddiffyn a gwarchod natur a chynefinoedd Ewrop.

Mae Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 a Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(fel y’i diwygiwyd) yn rhoi’r Cyfarwyddebau hyn ar waith yn y wlad hon.

Yn ôl Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) mae’n drosedd (yn ddibynnol ar eithriadau) i ladd, niweidio neu gymryd unrhyw anifail a enwir yn Atodlen 5 yn fwriadol, ac mae’n gwahardd ymyrryd â llefydd sy’n cael eu defnyddio fel lloches neu le diogelwch, neu darfu’n fwriadol ar anifeiliaid sy’n byw yn y fath lefydd. Mae'r Ddeddf hefyd yn gwahardd rhai ffyrdd o ladd, niweidio neu gymryd anifeiliaid gwyllt.

Hanfod y polisi yw creu rhwydwaith ecolegol cydlynus o safleoedd gwarchodedig ar draws yr UE. Yr enw ar y rhwydwaith hwn yw Natura 2000. Yr ardaloedd sy’n cael eu gwarchod yw’r rheini lle ceir cynefinoedd a rhywogaethau sydd o arwyddocâd rhyngwladol mawr. Eu pwrpas yw cynnal neu adfer y cynefinoedd a ’r rhywogaethau at ‘statws cadwraethol ffafriol’ o fewn eu gwasgariad naturiol. Y rhwydwaith yw:

  • Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) - sydd wedi’u dynodi i ddiogelu adar prin a than fygythiad a’ r lleoedd lle ceir adar mudol yn rheolaidd
  • Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) - sydd wedi’u dynodi am eu cyfraniad pwysig at warchod cynefinoedd naturiol a’r planhigion a’ r anifeiliaid y maen nhw’n eu cynnal.

Yn ogystal, mae safleoedd Natura 2000 yn cynnig lefel uwch o amddiffyniad i rai planhigion ac anifeiliaid, y ‘rhywogaethau a warchodir gan Ewrop’ fel y’u gelwir.

Mae gan Gymru 20 o Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ar gyfer adar bregus a 92 o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ar gyfer rhywogaethau prin a chynefinoedd naturiol dan fygythiad. Gyda’i gilydd maen nhw’n creu rhwydwaith Natura 2000 Cymru.

Gwarchod rhywogaethau o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd

Mae dros 1000 rhywogaeth o anifail a phlanhigyn, yn ogystal â 200 math o gynefin, sydd wedi eu nodi yn atodiadau’r gyfarwyddeb yn cael eu gwarchod mewn amrywiol ffyrdd:

  • Rhywogaethau Atodiad II (oddeutu 900): mae ardaloedd craidd o’u cynefinoedd wedi eu dynodi’n Safleoedd o Bwysigrwydd Cymunedol ac maen nhw’n rhan o rwydwaith Natura 2000. Mae'n rhaid rheoli’r safleoedd hyn yn unol ag anghenion ecolegol y rhywogaeth
  • Rhywogaethau Atodiad IV (dros 400, gan gynnwys sawl rhywogaeth atodiad II): mae’n rhaid rhoi trefn warchod gaeth ar eu holl amrediad naturiol o fewn yr UE, mewn safleoedd Natura 2000 a thu hwnt.
  • Rhywogaethau Atodiad V (dros 90): mae’n rhaid i bob Aelod-wladwriaeth sicrhau eu bod yn datblygu a chymryd yn y gwyllt yn gydnaws â chynnal a chadw statws cadwraeth ffafriol.

Yn ôl Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 mae’n drosedd i ladd, niweidio, dal neu darfu ar y Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop, sy’n cael eu henwi yn Atodiad IV Y Gyfarwyddeb ar Warchod Cynefinoedd Naturiol a Phlanhigion ac Anifeiliaid Gwyllt

Confensiwn Ramsar

Mae’r Confensiwn Gwlypdiroedd, o’r enw Confensiwn Ramsar, yn gytundeb rhynglywodraethol sy’n rhoi fframwaith ar gyfer gweithredu cenedlaethol a chydweithredu rhyngwladol i warchod a defnyddio gwlypdiroedd a’u hadnoddau’n ddoeth. Daeth y cytundeb i rym yn y DU ar 5 Mai 1976.

Ar hyd o bryd mae gan y DU 174 safle sydd wedi eu dynodi’n Wlypdiroedd o Bwysigrwydd Rhyngwladol (Safleoedd Ramsar) ac mae 7 o’r rheiny yng Nghymru.

Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Mae adran 6 o’r Ddeddf yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i geisio ‘cynnal a gwella bioamrywiaeth’, cyhyd ag y bo hynny’n gyson ag arfer y swyddogaethau hynny’n briodol. Wrth wneud hynny, bydd rhaid hefyd i gyrff cyhoeddus geisio ‘hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau’.

Bydd Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi, yn adolygu ac yn diwygio rhestrau o organeddau byw a mathau o gynefinoedd yng Nghymru sydd, yn eu barn hwy, yn allweddol er mwyn cynnal a gwella bioamrywiaeth yng Nghymru. Gelwir hon yn rhestr S7.