Partneriaethau Natur Lleol

Gwnaed llawer iawn yng Nghymru i ategu mentrau natur lleol drwy waith Partneriaethau Natur Lleol (sef Partneriaethau Gweithredu’n Lleol ar Fioamrywiaeth (LBAP) yn flaenorol). Mae Partneriaethau Natur Lleol (LNP) yn elfen hanfodol wrth fynd i’r afael â’r argyfwng natur yng Nghymru ac mae cydgysylltydd LNP wedi’i drefnu ym mhob rhan o Gymru. Mae Partneriaethau Natur Lleol yn rhoi cyngor ar fioamrywiaeth; yn sicrhau cymaint o gyfleoedd ariannu a chydweithio ag sydd bosibl; yn grymuso grwpiau cymunedol i weithredu; yn targedu gweithgareddau ymgysylltu â chymunedau drwy ddefnyddio eu sgiliau a rhai partneriaid LNP. Maent yn bwynt cyswllt hollbwysig, ac yn gyfarwydd â chyfleoedd ac yn llais rhagweithiol dros natur yn eich cymuned. Maent yn ategu ac yn atgyfnerthu ymdrechion cenedlaethol i adfer natur, yn darparu cyd-destun lleol ac yn gweithredu ar raddfeydd daearyddol sy'n ystyrlon i gymunedau lleol.

Defnyddiwch y dolenni isod i gysylltu â’ch cydgysylltydd natur lleol.

Cysylltiadau Partneriaeth Natur Lleol

Dewch o hyd i fanylion cyswllt eich partneriaeth natur leol a mwy o wybodaeth yn eich ardal chi

Making Space for Nature

Gwneud Lle i Fyd Natur

Mae ein bywyd gwyllt dan fygythiad wrth i gynefinoedd ddiflannu ac oherwydd newidiadau yn yr hinsawdd a achoswyd gan ddyn.

Digwyddiadau

Digwyddiadau yn eich ardal chi

Yn ogystal ag addysgu, mae digwyddiadau natur yn dod â phobl ynghyd, yn eu hysbrydoli a'u hannog i gysylltu â'r awyr agored - ac i goroni'r cyfan, mae'n hwyl!

Prosiect Partneriaethau Natur Lleol (LNP) Cymru

Yn 2019, diolch i arian ENRaW Llywodraeth Cymru rhoddwyd hwb i gapasiti rhwydwaith LNP ac arweiniodd hyn at sefydlu prosiect LNP Cymru oedd wedi’i neilltuo i hwyluso rhwydwaith adfer natur yng Nghymru. Bydd hyn yn helpu i wrthdroi dirywiad mewn natur, ymgysylltu â phobl a chymunedau, busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau gyda chamau ymarferol a chynllunio strategol ar gyfer Cymru iach, gydnerth a chyfoethog o natur. Gallwch ddarllen mwy ar wefan LNP Cymru.

Wefan LNP Cymru

Ariennir LNP Cymru drwy Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles yng Nghymru (ENRaW) Llywodraeth Cymru

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt