Wales Biodiversity Partnership

Newyddion diweddaraf

Conwy Caru’n Gwenyn

Mae’r cyflwynydd natur ar y teledu, Iolo Williams, wedi cyflwyno tystysgrif i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i nodi bod y Sir wedi ennill Statws Caru Gwenyn – Awdurdod Lleol cyntaf Cymru i wneud hynny.

Mae pryfed peillio fel gwenyn, gloÿnnod byw, gwyfynod a chwilod yn prinhau ac maent yn hanfodol i beillio cnydau masnachol, ffrwythau meddal, perllannau, cnydau garddwriaethol a blodau gwyllt a gardd.

O ganlyniad i hyn, fe lansiodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu ar gyfer Pryfed Peillio, sy'n ceisio gwrthdroi'r gostyngiad â nifer o fesurau, gan gynnwys menter Caru Gwenyn.

Er mwyn ennill y statws Caru Gwenyn, bu’n rhaid i'r Cyngor ddangos ei fod wedi cyflawni pedair nod Caru Gwenyn, sef darparu ffynonellau bwyd sy'n denu pryfed peillio, mannau i bryfed peillio gael byw, ymrwymo i osgoi defnyddio cemegau sy'n niweidio pryfed peillio, a chynnwys y gymuned yn y mentrau.

Mae dull y Cyngor o reoli parciau, gerddi ac ardaloedd eraill yn cynnwys ystod o weithgareddau sy'n cefnogi'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Pryfed Peillio. Mae gan y Cyngor dros 40 o ardaloedd bioamrywiaeth, ymylon ffyrdd a 21 o warchodfeydd natur sy'n cael eu rheoli i annog pryfed peillio. Mae wedi golygu pethau fel rhoi’r gorau i blannu planhigion tymhorol am gynlluniau â phlanhigion parhaol sy’n ffynonellau bwyd i bryfed peillio. Mae’r Cyngor hefyd yn gweithio gyda chymunedau sy’n cynnal digwyddiadau o’r fath i adeiladu cynefinoedd i wenyn a chydag ysgolion â mentrau fel mynd i weld y Gogarth i ddysgu am gynefinoedd.

Dywedodd y Cyng. Dave Cowans, Aelod Cabinet Portffolio Priffyrdd, yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd, “Rydyn ni’n trin ein cyfrifoldebau o ran bioamrywiaeth o ddifri' ac mae'r angen i fynd i’r afael â’r gostyngiad yn niferoedd ein pryfed peillio’n rhywbeth sy'n poeni pawb. Rydyn ni’n falch iawn mai ni yw'r Cyngor cyntaf i ennill statws sy'n cydnabod ein holl waith."

Dywedodd Lesley Griffiths, AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, “Mae’n newyddion gwych mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yw’r Awdurdod Lleol cyntaf yn Nghymru i ennill statws Caru Gwenyn. Dyma’r cynllun cenedlaethol cyntaf o’i fath yn y DU, ac rwy'n gobeithio y bydd llawer mwy o Awdurdodau Lleol â statws Caru Gwenyn yn fuan.”

Llun: (chwith-dde) Iwan Davies (Prif Weithredwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy), Cyng Brian Cossey (Cadeirydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy), Iolo Williams, Simon Bilsborough (Llywodraeth Cymru, Is-adran Tir, Natur a Choedwigaeth)

Llun a testun wedi’i addasu o ffynhonnell Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy


Y Diweddaraf am Brosiect Afancod Cymru

Ers 2005 mae Prosiect Afancod Cymru dan arweiniad Ymddiriedolaethau Natur Cymru wedi bod yn ymchwilio i ymarferoldeb ailgyflwyno afancod gwyllt yng Nghymru.

Roedd yr afanc Ewrasiaidd, Castor fiber , yn olygfa gyffredin ledled Cymru ar un adeg, ond cafodd ei hela nes diflannu; yn bennaf am ei gig, ei ffwr a’i chwarennau arogl. Mae afancod yn cael eu galw’n ‘rhywogaethau allweddol’ yn aml, neu ‘beirianwyr ecosystemau’, am eu bod yn gallu adfer cynefinoedd, cynyddu bioamrywiaeth a darparu gwasanaethau ecosystemau. Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod argaeau afancod yn gallu lleihau’r risg o lifogydd, cynyddu’r gallu i storio dŵr a gwella ansawdd dŵr drwy hidlo llygredd a dal gwaddodion. Mae’r effeithiau hyn yn gallu bod o fudd i fywyd gwyllt ac i bobl. Hefyd mae afancod yn gallu darparu cyfleoedd economaidd i fusnesau lleol drwy eco-dwristiaeth.

Mae penderfyniad diweddar Llywodraeth yr Alban i gydnabod yn ffurfiol yr afanc Ewrasaidd fel rhywogaeth frodorol wedi cael ei groesawu gan Ymddiriedolaethau Natur Cymru. Dyma’r tro cyntaf yn hanes y DU i famal gael ei ailgyflwyno’n ffurfiol a bydd i hyn oblygiadau positif ar gyfer ailgyflwyno afancod yng Nghymru.

Mae Prosiect Afancod Cymru wedi bod yn gweithio gydag amrywiaeth o wahanol sefydliadau gan ymchwilio i addasrwydd safleoedd rhyddhau posib yng Nghymru. Mae Prosiect Afancod Cymru / Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn gweithio gyda sefydliad partner yn awr a bydd yn cyflwyno cais am drwydded i ailgyflwyno afancod yng Nghymru yn 2017. Hefyd mae’r prosiect wedi bod yn ymchwilio i’r posibilrwydd o ailgyflwyno afancod mewn safleoedd amgaeedig ble gellir eu defnyddio fel adnodd rheoli i helpu gydag adfer cynefinoedd.


Mae Prosiect Afancod Cymru yn
codi arian ar hyn o bryd i hwyluso dychweliad afancod i dirlun Cymru.


Alicia Leow-Dyke

Swyddog Prosiect Afancod Cymru, gyda

chefnogaeth chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl

www.welshbeaverproject.org

Rhagfyr 2016

Llun – Afanc Ewrasiaidd © Allard Martinius

Canlyniadau Cyfrif Mawr y Glöynnod Byw 2016

Nid oedd y cofnod o löynnod byw yn dda iawn yn y cyfrif eleni er gwaethaf haf cymharol gynnes. Achosir newidiadau tymor byr gan ffactorau naturiol fel y tywydd a phoblogaethau o barasitiaid fel rheol ac mae tueddiadau tymor hir glöynnod byw a gwyfynod yn tueddu i fod yn ganlyniad gweithgarwch dyn, fel dinistrio cynefinoedd a newid hinsawdd. Fodd bynnag, nid yw canlyniadau cyfrif mawr y glöynnod byw 2016 yn cyd-fynd â’r patrwm yma a bydd ymchwilwyr yn ymchwilio i’r rhesymau pam.

Mae canlyniadau cyfrif mawr y glöynnod byw 2016 yn dangos bod nifer y glöynnod byw glas wedi gostwng a hefyd rhywogaethau cyffredin fel yr iâr fach lygadog a’r glöyn trilliw bach. Roedd y rhywogaethau o löynnod ‘gwyn’ wedi gwneud yn llawer gwell yn gyffredinol. Yng Nghymru, roedd rhywogaethau eang eu dosbarthiad fel yr Iâr Fach Fodrwyog (i lawr 61%), Llwyd y Ddôl (i lawr 48%), y Glöyn Trilliw Bach (i lawr 40%), yr Adain Garpiog (i lawr 64%), yr Iâr Fach Lygadog (i lawr 24%), y Copor Bach (i lawr 33%) a’r Porthor (i lawr 32%) i gyd yn cael trafferth, gyda’r niferoedd yn gostwng o gymharu â’r llynedd. Yr Iâr Fawr Wen oedd y rhywogaeth fwyaf toreithiog yng Nghymru yn ystod y Cyfrif gyda chynnydd o 85% yn ei phoblogaeth o gymharu â’r haf diwethaf. Gwelwyd cynnydd o 134% yn niferoedd yr Iâr Wen Wythiennog a 107% yn niferoedd yr Iâr Wen Fach. Cafodd y Fantell Goch haf da hefyd gyda chynnydd o 66% yn ei niferoedd flwyddyn ar ôl blwyddyn yng Nghymru.

Cyflwynwyd cyfanswm o 38,233 i’r cyfrif ledled y DU, sy’n ymdrech wych!


Addaswyd y testun o ffynhonnell gan y Butterfly Conservation

Llwyd y ddôl © Sean McHugh

Wild about Welsh Meadows

Mae’r canllaw 'Wild about Welsh Meadows' ar gael yn awr i’w archebu (am ddim). Mae posib gweld y fersiwn ar-lein yma. Dyma’r cyntaf o 5 canllaw yn y gyfres ‘Wild about Welsh...’ a gynhyrchir yn ystod y flwyddyn nesaf gan roi sylw i amrywiaeth o gynefinoedd.


Lansio Hyrwyddwyr Rhywogaethau Cymru

Mae menter Hyrwyddwyr Rhywogaethau Dolen Amgylchedd Cymru (DEC) yn gofyn i Aelodau’r Cynulliad roi cefnogaeth wleidyddol i warchod bywyd gwyllt arbennig a than fygythiad Cymru drwy ddod yn ‘Hyrwyddwyr Rhywogaethau’. Nod y prosiect yw tynnu sylw at amrywiaeth anhygoel byd natur yng Nghymru. Bydd Aelodau Cynulliad yn gallu hyrwyddo amrywiaeth eang o rywogaethau, o wyfyn cliradain Cymreig i ffwng o’r enw tafod y ddaear porffor, yr ystlum pedol mwyaf, llamhidydd yr harbwr ac aderyn rhydio mwyaf Ewrop, y gylfinir. Bydd gwaith yr Hyrwyddwyr Rhywogaethau’n bwysig er mwyn sicrhau bod Cymru’n cyrraedd y targed rhyngwladol o dan y Confensiwn ar Amrywiaeth Biolegol i atal colli bioamrywiaeth erbyn 2020. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau bod Cymru’n cyflawni uchelgeisiau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Y rhywogaethau yw elfennau allweddol neu flociau adeiladu ein hecosystemau ni ac felly maen nhw’n hanfodol er mwyn cyflawni amcan dull o weithredu sy’n canolbwyntio ar ecosystemau.


Lansiad Hyrwyddwyr Rhywogaethau 15fed Mehefin © Nigel Pugh

Dyfarniadau Cronfa Dreftadaeth y Loteri – Gwastadeddau Gwent, Bryniau Clwyd, a Chwm Elan

Mae rhaglen Partneriaeth Tirwedd Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi dyfarnu cyllid sylweddol i dri phrosiect pwysig yng Nghymru er mwyn iddynt gyflawni prosiectau ar raddfa tirwedd i bobl a bywyd gwyllt.

Partneriaeth Gwastadeddau Byw (£2,865,300)
Mae Gwastadeddau Gwent yn dirwedd aberol yn ne Cymru sy’n gyforiog o dreftadaeth hanesyddol a naturiol. Mae’r tir, a hawliwyd yn ôl o’r môr yn y cyfnod Rhufeinig, yn rhwydwaith cris-croes o gaeau ffrwythlon a chyrsiau dŵr hanesyddol a elwir yn lleol yn ‘reens’. Mae’r dirwedd ddiymhongar ond apelgar hon o wybrennau uchel a gorwelion isel yn rhoi iddi ei statws o fod yn un o’r enghreifftiau gorau o dirwedd ‘naturiol’ a grëwyd gan bobl yn Ewrop gyfan, ac mae’n un o’r darnau mwyaf o borfa wlyb fioamrywiol sy’n weddill yng ngwledydd Prydain. Mae Gwastadeddau Byw yn gyfle ffurfiol i ddod â budd-ddeiliaid o’r un anian at ei gilydd i fynd ati i adfer, cyfoethogi a diogelu’r ardal hanesyddol fel y gall pawb ei mwynhau. Mae Gwastadeddau Byw yn bartneriaeth a fydd yn gweithio gyda chymunedau a ffermwyr lleol o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent.

Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (£1,382,300)
Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar dirwedd Dyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd a Thraphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte, ac mae’n canolbwyntio ar y siwrneiau a oedd, ac sy’n parhau i fod, yn nodwedd allweddol o’r ardal a holltir gan y gamlas, A5 Telford, ac Afon Dyfrdwy. Cafodd ymwelwyr eu hysbrydoli gan y dyffryn hardd hwn trwy gelfyddyd a barddoniaeth ers y 18fed ganrif, ac mae’n parhau i swyno ymwelwyr sy'n chwilio am y ‘dyrchafedig’ hyd heddiw. Ond mae’r dirwedd hon dan bwysau mawr, gan fod nifer fawr o ymwelwyr yn cael eu denu i safleoedd sydd yn aml yn rhai bregus. Mae gan ei chymunedau cyfagos, a grëwyd gan orffennol diwydiannol yr ardal, lai o gysylltiad erbyn hyn â’r manteision y mae’r dirwedd yn eu cynnig. Bydd y prosiect pum mlynedd o hyd yn buddsoddi mewn safleoedd allweddol i ymwelwyr ac yn gweithio gyda chymunedau lleol, tra ei fod hefyd yn ail-ddehongli’r dirwedd gyfoethog hon ar gyfer cenhedlaeth newydd.

Cwm Elan – Pobl, Natur a Dŵr (£1,713,300)
Saif Elan ynghanol bryniau'r Elenydd yng nghanolbarth Cymru. Mae ei dirwedd unigryw yn cyfuno bryndir anghysbell, ffermydd unig, cymoedd coediog serth, a champ beirianyddol ryfeddol o oes Victoria a ddaeth â dŵr glân i ddinas ddiwydiannol Birmingham, a oedd yn tyfu’n gyflym ar y pryd. Heddiw, mae 20,000 hectar Elan – 1% o Gymru – yn hafan i fywyd gwyllt a phobl. Mae'r 154,000 o ymwelwyr a ddaw yno bob blwyddyn yn mwynhau golygfeydd rhyfeddol, natur, cyfleusterau hamdden, ac adnoddau addysgol helaeth i ysgolion, teuluoedd a chymunedau. Gweledigaeth y prosiect yw datblygu ymhellach bob agwedd ar y lle arbennig hwn er lles pobl ac er lles yr amgylchedd ei hun.


Testun wedi'i gymryd o ffynhonnell Cronfa Dreftadaeth y Loteri
Delwedd: Gwastadeddau Gwent ⓗ Sean McHugh

Cynlluniauard roed i at gyfnerthu'r bob logaeth belaod coed yng Nghymru

Mae Ymddiriedolaeth Natur Vincent yn anelu at ailgyflwyno poblogaeth iach o felaod coed i Gymru, sy'n famal brodorol i'r wlad. Mae bele'r coed (Martes martes), sydd tua maint cath ac yn aelod o deulu'r gwencïod, yn ffafrio byw yng nghoetiroedd. Roedd belaod coed yn arfer bod yn gyffredin ac yn byw ledled Cymru, ond mae'r boblogaeth wedi dirywio'n ddifrifol, ac mae wedi mynd mor isel nad yw'n debygol o wella heb ymyrraeth. Mae Ymddiriedolaeth Natur Vincent yn bwriadu atgyfnerthu'r boblogaeth drwy ddod â rhai belaod coed o boblogaeth iach yn yr Alban. Bydd hyn yn hybu'r niferoedd ac yn cynyddu'r amrywiaeth enynnol. Mae'r ymddiriedolaeth wedi cynnal astudiaeth ddichonoldeb, a rhan o hyn oedd dod o hyd i safleoedd a allai fod yn addas ar gyfer eu rhyddhau. Dewiswyd ardal yn y canolbarth fel safle ar gyfer eu rhyddhau, gan fod ganddi gynefinoedd coetir helaeth, mae dwysedd ei rhwydwaith ffyrdd yn isel, a phrin y ceir gwrthdaro â gweithgareddau dynol, megis saethu helwriaeth. Bydd nifer fach o felaod coed yn cael eu cymryd o safleoedd yn yr Alban, ac unwaith iddynt gael eu rhyddhau yng Nghymru, byddant yn cael eu holrhain yn fanwl â radio. Bydd hyn yn ein galluogi i fonitro lle maent yn sefydlu tiriogaethau, a byddwn yn asesu pa mor llwyddiannus oedd y rhyddhad. Bydd adfer poblogaeth iach o felaod coed yn cynnig posibiliadau sylweddol ar gyfer twristiaeth natur, drwy ddenu ymwelwyr i Gymru i weld belaod coed, fel sy'n digwydd yn yr Alban. Gallai coetiroedd a rheolwyr coetiroedd elwa hefyd, os yw belaod coed yn lleihau poblogaeth wiwerod llwyd, fel sydd wedi digwydd yn Iwerddon.

I ddarganfod mwy am y prosiect, ewch i wefan y prosiect adfer belaod coed.

Delwedd © Ymddiriedolaeth Natur Vincent

Prosiect Dôl Blodau Gwyllt

Efallai fod dolydd haf â fflach o liw blodau gwyllt i'w gweld ymhlith y glaswellt yn atgof pell erbyn hyn, gyda'r hydref ar ein gwarthaf, ond mae'n amser da i gnoi cil ac edrych ymlaen tuag at arddangosfa'r flwyddyn nesaf. Ychydig iawn o Ddolydd yr Iseldir sydd i'w cael yng Nghymru bellach. Mae'r prosiect hwn yn ceisio helpu i wrthdroi'r dirywiad, ac mae cynnydd da wedi'i wneud:

Llwyddiannau yng Nghymru

O ran y tegeirian llydanwyrdd, mae niferoedd na chofnodwyd mohonynt erioed o'r blaen wedi'u cyfrif yn Nôl Blodau Gwyllt Gwynedd, Caeau Tan y Bwlch - dwywaith cymaint â'r llynedd. Mae hadau o'r safle hwn wedi'u defnyddio i adfer tair dôl newydd yn y sir, gyda chribell felen ac effros yn arwyddion cynnar o lwyddiant.

Sir Benfro yw'r sir ddiweddaraf i adfer dolydd yn sgil y prosiect. Mae hadau o'r Ddôl Blodau Gwyllt, Dolydd y Mynydd, wedi'u gwasgaru'r haf hwn ar fferm gyfagos er mwyn dechrau ar y broses o greu oddeutu 3.5 acer o ddolydd blodau gwyllt yn y sir.

Cyn bo hir bydd gwaith ar y gweill i adfywio dôl blodau gwyllt yn Nyffryn Conwy. Ar ôl sawl blwyddyn o gynghori pobl sut i adfer dolydd o'r fath, bydd Dr Trevor Dines, Arbenigwr Botanegol yn Plantlife, yn dechrau ar y gwaith ei hun, gan ddefnyddio hadau a gafwyd gan Ddôl Blodau Gwyllt Conwy, Dôl y Mwsoglau, i adfer y ddôl blodau gwyllt.


Diweddariad y Gronfa Natur £6m

Cyhoeddiad diweddar: Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y noddir 18 yn rhagor o brosiectau cydweithrediadol yn rhan o'r fenter Cronfa Natur. Mae'r prosiectau'n amrywio o waith gwella dalgylchoedd afonydd ac ecosystemau morol i adfer mawnogydd a chreu pyllau. Daw hyn â'r cyfanswm i 20 prosiect. Am restr lawn a gwybodaeth ategol, ewch at adran Cronfa Natur gwefan Llywodraeth Cymru.

Bydd y Gronfa Natur £6m yn cael ei defnyddio i gefnogi gweithgaredd mewn saith ardal ddaearyddol a ddewiswyd neu Barthau Gweithredu Natur a ddewiswyd yn arbennig o ganlyniad i'r heriau a'r cyfleoedd y maent yn eu cyflwyno i fioamrywiaeth a gweithredu adnoddau naturiol Cymru. Y Parthau Gweithredu Natur yw:

  • Bannau Brycheiniog – yn arbennig dalgylchoedd Gwy ac Wysg
  • Mynyddoedd Cambria
  • Dyffryn Conwy
  • Arfordir Penfro
  • Cymoedd De Cymru
  • Y Berwyn a'r Migneint
  • Penrhyn Llŷn
  • Bydd y gronfa yn cynnal camau gweithredu ymarferol sy'n addas ar gyfer anghenion pob un o'r saith Parth Gweithredu Natur ac yn cyllido gweithgaredd sy'n mynd i'r afael â dirywiad yn ein bioamrywiaeth ac a fydd, ar yr un pryd, yn cyflawni manteision amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol. Bydd hefyd yn cydnabod prosiectau sy'n dangos arloesiad, cydweithredu ac ymarfer da.

    Bydd blaenoriaeth arbennig yn cael ei rhoi i gamau gweithredu a fydd yn gwella dalgylchoedd afonydd, rheoli pysgodfeydd ac ecosystemau morol, camau sy'n gwella mannau gwyrdd naturiol, camau sy'n gwireddu potensial yn yr ucheldiroedd a chamau sy'n ysgogi ac yn datblygu'r budd cyfredol mewn talu am wasanaeth ecosystemol.

    Bydd Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio'n agos â phartneriaid i ddarparu'r Gronfa, a fydd yn ategu gwaith sydd eisoes yn digwydd yn nhair ardal dreialu Cyfoeth Naturiol Cymru.

    Bydd nifer fechan o gynigion o'r tu allan i'r Parthau Gweithredu Natur yn cael eu hystyried os byddant yn dangos arloesiad a chydweithrediad ac os gallant gyflawni canlyniadau allweddol.

    Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal digwyddiadau yn y saith Parth Gweithredu Natur penodol i gynnal datblygiad prosiectau manwl.

    Gweithdai Cronfa Natur

    Mae Alun Davies, y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd, wedi cyhoeddi camau newydd,a hyd at £6mn yn ychwaneg ar gyfer helpu atal colli bywyd gwyllt a chynefinoedd Cymru.

    Cam cyntaf y gwaith o ddatblygu'r Gronfa Natur oedd casglu syniadau gan randdeiliaid i'n helpuni i gynllunio'r gronfa mewn ffordd fydd yn cefnogi gweithredu ymarferol i gyflawni'r amcanion ageisir. Fel yr eglurwyd yn y gwahoddiad am syniadau, nid ymarfer yn gofyn am gynigion oedd hwn. Cafwyd dros 450 o syniadau ar gyfer y gronfa newydd gan amrywiaeth eang o ddiddordebau.Diolch i bawb a gyflwynodd eu syniadau. Rydym ni ar hyn o bryd yn adolygu'r rhain i gyd, ganedrych ar y cysylltiadau rhwng y syniadau, y themâu sy'n dod i'r amlwg a grwpiau daearyddolposibl er mwyn i ni allu symud y gronfa ymlaen a dynodi'r trefniadau cyllido iawn. Mae'r syniadau bellach i'w gweld ar ein gwefan. Bydd hyn yn eich galluogi i weld y themâu sy'ndod i'r amlwg a'r cysylltiadau rhwng y syniadau, a lle gellid sefydlu trefniadau i gydweithio wrthsymud i'r dyfodol.

    Cynhaliodd: Alun Davies Gynhadledd Cyflwr Natur yn y Sioe Fawr Amaethyddol er mwyn dwyn ynghyd cyrff bywyd gwyllt, tirfeddiannwyr a busnesau Cymru a chytuno ar arddull gytûn ar gyfer atal colli bioamrywiaeth Cymru.

    Galwodd y Gweinidog y gynhadledd yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad Cyflwr Natur yn gynharach eleni. Tanlinellodd yr adroddiad grebachiad aruthrol amryw rywogaethau bywyd gwyllt a chynefinoedd yng Nghymru a ledled y DU.

    Dyfarniadau Nawdd Ecosystem Gadarn 2013-2015

    Cymeradwywyd 25 o gynlluniau, sy’n hwb i’w groesawu i fioamrywiaeth a chadernid ecosystemau Cymru. Yn awr eir ymlaen ag amrywiaeth eang o gynlluniau, sy’n cynnwys planhigion uwch ac is, rhywogaethau ymledol, cynlluniau ymchwil, rheoli safleoedd bywyd gwyllt a chynlluniau ar gyfer holl brif gynefinoedd Cymru.

    Rhestr Cynlluniau Ecosystem Gadarn 2013-2015 (pdf) (Saesneg yn unig)

    Darperir y gronfa gan Lywodraeth Cymru, ac fe’i rheolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae grwpiau gweithiol CNC yn darparu gwybodaeth arbenigol ar gyfer panel dyfarnu’r nawdd.

    Adroddiad Cysylltu â Natur

    Mae astudiaeth newydd yn dangos pa mor dda mae plant am gysylltu â natur ledled y DU. Mae’r canlyniadau cenedlaethol yn dangos mai dim ond 21 y cant o blant 8-12 oed ar hyn o bryd, sydd â chysylltiad â natur sy’n cael ei ystyried yn realistig a chyraeddadwy. Sgoriwyd y categorïau rhwng -2 a +2 a’r sgôr cyfartalog oedd 1.05. Mae’r ffigurau yng Nghymru yn is, gyda sgôr cyfartalog yn 0.97% a dim ond 13% yn cyrraedd y trothwy 1.5% - y sgôr isaf yn y DU. Mae’r RSPB yn credu bod sgôr o 1.5 yn realistig ac yn darged cyraeddadwy i bob plentyn yn y DU. Cafwyd sgôr uwch gan blant sy’n byw mewn amgylchedd trefol o’i gymharu ag amgylchedd gwledig. Comisiynwyd yr adroddiad gan yr RSPB gyda chefnogaeth y Gulbenkian Foundation a Phrifysgol Essex.

    Arolwg ar Iechyd Coed

    Beth am i chi gymryd rhan mewn arolwg cenedlaethol i helpu gwyddonwyr i fonitro a gwarchod ein coed a’n coetiroedd? ‘Ysgyfaint byw’ ein hamgylchedd yw coed ac maen nhw’n gynefin i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt ac yn helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Nid oes angen gwybodaeth arbenigol. Cymerwch ran ac ewch i’r link isod i lawrlwytho arweiniad i Adnabod Coed, nodiadur yn y maes ac adnoddau eraill (Cymraeg a Saesneg) http://www.opalexplorenature.org/TreeSurvey

    Atlas Amffibiaid ac Ymlusgiaid Ar-lein Cymru

    Pwrpas yr atlas hwn yw cofnodi’r amffibiaid a’r ymlusgiaid a welwyd yng Nghymru, a’ch annog chi i lenwi’r bylchau gobeithio!

    Mae’r cofnodion hyn yn adnodd hanfodol ar gyfer gwarchod y creaduriaid rhyfeddol yma. Gallwn greu darlun o ddosbarthiad y gwahanol rywogaethau a gweld ble y maent yn ffynnu a ble y maent yn cael trafferthion. Bydd hyn oll yn cyfrannu at y penderfyniadau a’r gwaith cadwraeth a wneir ar lawr gwlad.

    Ailgyflwyno Afancod i Gymru – Adroddiad

    Posibilrwydd ailgyflwyno'r afanc Ewropeaidd i Gymru - mae adroddiad wedi'i ddiweddaru ar gael ar gyfer Gymru