Natur yn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Mae Partneriaeth Natur Lleol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnwys 26 o bartneriaid ac yn eu plith mae perchnogion tir, sefydliadau anllywodraethol a’r naw o awdurdodau lleol sy’n bresennol yn y parc. Cydweithiodd y Partneriaid wrth lunio cyfres o amcanion ar gyfer y Parc Cenedlaethol ac aethant ati i lansio’u Cynllun Adfer Natur ar gyfer Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn haf 2019 a oedd yn cyflwyno “Dyfodol gyda Natur yn ganolog iddo”. Mae’r Cynllun Gweithredu’n cydnabod y gall pethau mawr ddigwydd ym Mannau Brycheiniog, a’u bod eisoes yn gwneud, ac mae llawer o’r cyfleoedd i adfer natur yn seiliedig ar ecosystemau a chynefinoedd eithriadol eu maint, graddfa ac ansawdd.

Os hoffech wybod mwy ynglŷn â bioamrywiaeth ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ewch i’r wefan ac anfonwch e-bost at Maria (manylion isod) os hoffech gymryd rhan mewn unrhyw gynlluniau a gweithgareddau.

Rhostir tir uchel ar Grib Hatterrall (h) B. Symons

Craig y Cilau

Craig-y-Cilau © Sean McHug

Gwyfyn Gwent (h) D. Grundy

Cyswllt

Maria Golightly

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Plas y Ffynnon
Cambrian Way
Brecon
Powys
LD3 7HP

Ffôn: 01874 620 410
Ebost: NatureRecovery@beacons-npa.gov.uk
Gwefan: clicwch yma

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn aelod gwerthfawr o Rwydwaith Partneriaeth Natur Lleol Cymru gyfan

Partneriaethau Natur Lleol CymruParc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt