Gwybodaeth am Rywogaethau

Mae gan Gymru dirwedd amrywiol a bioamrywiaeth a ffurfiwyd gan weithgaredd dyn dros ganrifoedd lawer. Amcangyfrifir fod 59,000 o rywogaethau tirol ym Mhrydain gydag 8,500 arall o rywogaethau morol ac mae cyfanswm nifer y rhywogaethau yng Nghymru yn debyg o fod dros 50,000. Fel yn nifer o wledydd Gorllewin Ewrop, collwyd y ffawna mawr a arferai fyw yng Nghymru yn cynnwys y blaidd, yr arth frown, y bual mawr, yr elc, y baedd gwyllt, y lyncs a’r gath wyllt. Hefyd, mae planhigion fasgwlaidd sy’n nodweddiadol o systemau amaethyddol dwysedd isel wedi darfod neu yn brin erbyn hyn ynghyd â’u hinfertebratau cysylltiedig. Mae Crib Gwener (Scandix pecten-veneris), a oedd unwaith yn blanhigion eithaf cyffredin ar gaeau âr bellach o dan fygythiad gwirioneddol yng Nghymru.

Mae’r dolenni isod yn rhoi mwy o fanylion am rywogaethau yng Nghymru a’u cadwraeth.

Red kite

Mae’r barcud (Milvus milvus) yn stori o lwyddiant yng Nghymru ac fel y boncath (Buteo buteo) mae wedi ymledu tua’r dwyrain i rannau eraill o Brydain. Mae’r wiwer goch (Sciurus vulgaris) yn bresennol mewn niferoedd da ar Ynys Môn ac yng Nghoedwig Clocaenog yn Sir Ddinbych gyda chytrefi llai yng Nghoedwig Tywi yng ngogledd Sir Gaerfyrddin. Ceir 15 o rywogaethau ystlum y DU yng Nghymru ac mae’n lle pwysig i’r ystlum trwyn pedol lleiaf (Rhinolophus hipposideros) sydd wedi’i gyfyngu’n gyffredinol i ran orllewinol Ynysoedd Prydain. Mae rhywogaethau ymlusgiaid ac amffibiaid yng Nghymru yn cynnwys rhywogaethau cyffredin megis y broga cyffredin, llyffant, gwiber, neidr ddefaid, madfallod palfaidd a llyfn a neidr y gwair, ond hefyd rhywogaethau prinnach fel madfall y twyni (Lacerta agilis) llyffant y brwyn (Epidalea calamita) a’r fadfall gribog (Triturus cristatus). Ceir cynrychiolaeth dda o drychfilod yng Nghymru sy’n cynnwys nifer o rywogaethau cyffredin Prydain yn ogystal â rhywogaethau prin fel y chwilen ddaear groesog (Panagaeus cruxmajor) a’i nodau hyfryd a welir yng Nghymru o amgylch arfordir Pembre yn Sir Gaerfyrddin. Ceir y pili pala brith y gors (Euphydryas aurinia) ar ddolydd glaswellt y bwla (Molinia caerulea) a reolir yn draddodiadol yn ne-ddwyrain Sir Gaerfyrddin ac ardaloedd eraill yng ngorllewin Cymru gyda chlystyrau llai yng ngogledd Cymru, Ceredigion a chymoedd de Cymru. Mae’r fursen ddeheuol (Coenagrion mercurial) yn fursen brin iawn ym Mhrydain ac mae blaguriadau gwlyb bryniau’r Preseli yn Sir Benfro yn cynnal un o’r cytrefi mwyaf ym Mhrydain. Mae arachnid prin, pryfyn cop dall yr ogof (Porrhomma rosenhaueri) i’w weld mewn dau safle yn unig ym Mhrydain, y ddau yn ardaloedd Caerdydd a Ffynnon Taf.

Mae daeareg amrywiol a hinsawdd dymherus Cymru yn galluogi toreth o fryoffytau (mwsoglau a llysiau’r iau), cennau a ffyngau i ffynnu ac mae Cymru’n cynnal toreth o rywogaethau uwch mewn cymhariaeth â gwledydd eraill Ewrop. Mae coetiroedd arfordirol yr Iwerydd yng ngogledd orllewin Cymru yn cynnwys Coed Derw Meirionnydd sy’n gartref i lawer o redyn, bryoffytau a chennau yn cynnwys y cen prin Parmeliella orrescens yn ogystal â bod yn bwysig i rywogaethau ystlum. Gall amgylcheddau a grëwyd gan ddyn fod yn bwysig i gennau ac mae’r rhain yn cynnwys muriau eglwysi a cherrig beddi a’r cymunedau cen meteloffyt a geir ar domenni yn yr hen weithiau plwm yn ne a chanolbarth Cymru. Y cen prin Stereocaulon delisei yw un rhywogaeth o’r fath sydd wedi’i gyfyngu’n bennaf i safleoedd a wnaed gan ddyn sy’n gyfoethog mewn metel.

Yn nhermau morol, mae Cymru wedi’i lleoli ar ffin tri pharth hinsawdd gefnforol sy’n ei gwneud yn gyfoethog mewn bywyd morol a chydag ystod lanwol fawr mae ei chynefinoedd rhynglanwol yn cynnal amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid. Ceir morloi, dolffiniaid, siarcod, sgelfrod môr, crancod a chimychiaid a chwrelau dŵr oer i gyd o amgylch arfordir Cymru. Mae Bae Ceredigion yn gartref i un o ddim ond dwy boblogaeth lled-breswyl o ddolffiniaid trwyn potel (Tursiops truncates) ym Mhrydain ac mae morloi llwydion (Halichoerus grypus) yn bridio’n llwyddiannus yn Sir Benfro, yn arbennig ar Ynys Dewi gyda chytrefi llai yng Ngheredigion, Ynys Môn a Phenrhyn Llŷn. Mae nythfeydd adar môr Sgomer, Sgogwm, Enlli a Gwales yn ysblennydd, yn gartref i balod, gwylogod, gweilch y penwaig a thua 45,000 o barau magu o adar drycin Manaw (Puffinus puffinus) - y boblogaeth fagu fwyaf yn y byd. Yn y dyfroedd o amgylch Ynys Sgomer mae amrywiaeth cyfoethog o wymonnau yn cynnwys y gwymon coch prin Schmitzia neopolitana.

Mae rhywogaethau brodorol yng Nghymru hefyd nas gwelir y tu allan i’w ffiniau yn cynnwys lili Maesyfed (Gagea bohemica). Yn ucheldiroedd Eryri yng ngogledd Cymru, mae fflora arctig-alpaidd yn ffynnu yn cynnwys lili’r Wyddfa (Lloydia serotina), rhywogaeth nad yw i’w weld yn unman arall ym Mhrydain.

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt