Wales Biodiversity Partnership

Grŵp Rhywogaethau Estron Goresgynnol

Nod cyffredinol y grŵp yw lleihau’r risg, a lleihau’r effeithiau negyddol a ddaw yn sgil rhywogaethau estron goresgynnol.

Amcanion:

  • Cydlynu ymateb yr holl sectorau perthnasol yng Nghymru i’r sialensiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd a ddaw yn sgil rhywogaethau estron.
  • Cynnig fforwm lle gellir datblygu polisïau ar rywogaethau estron goresgynnol a lle gellir pennu’r prif gyfrifoldebau.
  • Hyrwyddo’r dasg o blethu polisïau ac arferion ar draws y sector cyhoeddus a sectorau eraill, a chynnig fframwaith ar gyfer gweithredu, yn arbennig nodi gofynion o safbwynt cyngor ac ymchwil.
  • Cynorthwyo a chyfrannu at weithredu ehangach yn ymwneud â rhywogaethau estron goresgynnol ar lefel Prydain Fawr.
  • Cynorthwyo a chyfrannu at weithredu’n ymwneud â rhywogaethau estron goresgynnol yn lleol yng Nghymru.

Strategaeth Rhywogaethau Estron Goresgynnol Prydain Fawr

Mae Strategaeth Rhywogaethau Estron Goresgynnol Prydain Fawr (dolen allanol) yn darparu fframwaith ar gyfer lleihau'r risgiau a achosir gan rywogaethau estron goresgynnol. Mae'r strategaeth yn pennu'r nodau ac amcanion allweddol ar gyfer mynd i'r afael â bygythion y rhywogaethau estron goresgynnol. Mae'n anelu i:

  • sicrhau cydweithio gwell rhwng pobl, gan gynnwys y Llywodraeth, rhanddeiliaid, rheolwyr tir a'r cyhoedd
  • cydlynu materion ar lefel Ewropeaidd a rhyngwladol, a chydweithio'n well ar y materion hynny.

  • Mae'r strategaeth hon ar gyfer y cyfnod 2015 – 2020 ac mae'n disodli'r strategaeth gyntaf, a gyhoeddwyd yn 2008.

    Him Balsam

    Caiff rhywogaethau estron goresgynnol o blanhigion ac anifeiliaid eu hystyried fel y bygythiad mwyaf ond un drwy’r byd ar ôl colli cynefinoedd a dinistrio bioamrywiaeth, a’r bygythiad mwyaf i ecosystemau bregus fel ynysoedd. Gan fod mwy a mwy o bobl a nwyddau’n symud drwy’r byd, maen nhw’n arwain at broblemau cynyddol wrth warchod bioamrywiaeth, ac maen nhw’n fygythiad i fuddiannau economaidd fel amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgodfeydd. Erbyn hyn caiff gwir faint y bygythiad a ddaw yn sgil rhywogaethau estron goresgynnol ei ddeall yn well, yn cynnwys y ffaith fod cyflwyno rhywogaethau o’r fath wedi digwydd yn y gorffennol heb inni wybod fawr ddim am y canlyniadau posibl.

    Mae sawl grŵp yng Nghymru wrthi’n mynd i’r afael â rhywogaethau ymledol, gan gynnwys Prosiect Rhywogaethau Ymledol Estron Dyfrdwy. Mae’r prosiect yn fenter partneriaeth dalgylch-gyfan sy’n amcanu cyd-drefnu rheoli a chadw golwg ar rywogaethau ymledol estron (RhEY) yn nalgylch Dyfrdwy, er mwyn sicrhau rheoli RhEY mewn modd cydlynnol. 

    Cranc Traeth Asiaidd: Yn cael ei weld am y tro cyntaf yn y DU ym Morgannwg

    Cafodd y Cranc Traeth Asiaidd (Hemigrapus sanguineus) ei weld am y tro cyntaf ar arfordir y DU, ar draeth Aberddawan, Bro Morgannwg ar 2 Mai 2014. Gan mai’n ddiweddar yn unig y daethpwyd o hyd i’r rhywogaeth hon yn y DU, mae’n bwysig bod yn hynod o wyliadwrus. Er mwyn cael cymorth i’w adnabod ac er mwyn rhoi gwybod eich bod wedi ei weld ewch i wefan y Gymdeithas Fiolegol Forol.

     
    Gwywiad Chalara mewn coed ynn

    Mae gwywiad Chalara mewn coed ynn yn glefyd difrifol sy’n cael ei achosi gan ffwng o’r enw Chalara fraxinea. Mae’r clefyd yn gwneud i’r coed golli eu dail ac mae eu brigdyfiannau’n gwywo, a gall hyn arwain at eu lladd. Mae achosion o’r clefyd mewn coed ynn wedi’u cofnodi yn y gwyllt yn East Anglia ac mewn gwahanol rannau o’r DU mewn coed a ddeilliodd o feithrinfeydd yn Buckinghamshire.

    Darganfod Chalara mewn mwy o safleoedd sydd newydd eu plannu yng Nghymru. Bellach mae 10 o achosion o Chalara fraxinea wedi eu cadarnhau yng Nghymru: saflebach newydd wedi ei blannu yn Sir Gaerfyrddin, 5 safle newydd wedi ei blannu yngnghoetiroedd Llywodraeth Cymru yn ardal Dyffryn Gwy; a safle bach newydd wedi eiblannu yng Nghaerffili, safle bach newydd wedi ei blannu yn Ysgol Uwchradd Llanwernyng Nghasnewydd, a chynllun plannu yng Ngholeg Glynllifon yng Ngwynedd achynllun plannu newydd ym Metws y Coed. Mae’r rhan fwyaf o’r coed ifanc o’rsafleoedd hyn wedi cael eu codi a’u distrywio.

    Mae’r prif gamau a gymerwyd hyd yma yn cynnwys:

  • Cyfyngu ar fewnforio a symud planhigion a hadau ynn i mewn ac oddi mewn i Brydain.
  • Atal plannu ynn yn y goedwig gyhoeddus.
  • Arolwg cyflym o 970 o safleoedd yng Nghymru, fel rhan o arolwg DU gyfan.
  • Arolwg olrhain ymlaen o goed a blannwyd mewn meithrinfeydd lle canfuwyd yr haint.
  • Rhoddwyd cyngor i berchnogion coetiroedd i ofyn am newid rhywogaethau i’w cytundeb
  • grant neu amodau eu trwydded cwympo coed.

    Mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn cymryd rhan mewn arolwg cenedlaethol a ofynnwyd amdano gan y Llywodraeth o safleoedd coed ynn yn y DU er mwyn sefydlu maint clefyd Chalara.

    Gwybodaeth bellach a chipolwg ar y symptomau

    Gwywo Chalara o friffio Coed Ynn (pdf)

    Rhaglen Tracio Planhigion Goresgynnol

    Mae rhaglen ar-lein newydd ar gyfer tracio planhigion goresgynnol bellach ar gael. Cafodd hon ei chreu gan Brifysgol Bryste, Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, mewn partneriaeth agos ag ysgrifenyddiaeth rhywogaethau estron Prydain Fawr. Gallwch lwytho Ap rhad ac am ddim i lawr (PlantTracker), ac yna bydd modd ichi dynnu llun o’r planhigyn yn y gwyllt gyda’ch ffôn deallus a llwytho’r llun (a’r lleoliad yn awtomatig) i fyny i gronfa ddata ganolog. Os nad oes gennych ffôn deallus, gallwch hefyd ddefnyddio’r wefan. Ar y wefan hefyd ceir map yn dangos dosbarthiad presennol pob rhywogaeth (ar sail yr wybodaeth sydd wedi’i llwytho i fyny). Mae’r rhaglen yn hawdd iawn i’w defnyddio a bydd eich data’n cael ei wirio a’i anfon at y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol.

    ‘Rhestr rybuddio’ o rywogaethau dyfrol estron goresgynnol posibl ym Mhrydain Fawr

    Mae’r rhestr hon wedi’i llunio gan Grŵp Rhywogaethau Estron Grŵp Cynghori Technegol y DU gan ddefnyddio data o amryw ffynonellau, ac yng ngoleuni sylwadau ac awgrymiadau gan adolygwyr allanol. Ei nod yw annog pawb i roi gwybod i’r awdurdodau perthnasol pe baent yn gweld unrhyw un o’r rhywogaethau a restrir, gan roi cyfle, felly, i gamau priodol gael eu cymryd. Rhywogaethau a allai effeithio ar ddyfroedd wyneb a’u statws ecolegol dan Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr y CE yw’r rhywogaethau a restrir, ond rhai nad yw eu presenoldeb wedi’i gofnodi eto ym Mhrydain Fawr.