Natur yn Castell-nedd Port Talbot

Mae gan Gastell-nedd Port Talbot amrywiaeth anhygoel o gynefinoedd a bywyd gwyllt. Mae rhai o'n cynefinoedd yn rhai o bwysigrwydd rhyngwladol ac mae'r rhanbarth yn cynnwys dros 19 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Yma gallwch ddod o hyd i rywogaethau prin fel penigan y porfeydd, y gardwenynen feinllais a chorryn rafft y ffen. Gallwn ymfalchïo bod gennym unig boblogaeth Cymru o'r chwilen ddaear las, poblogaeth fridio o gornchwiglod o bwysigrwydd cenedlaethol ac mae'r sir hefyd yn un o'r cadarnleoedd bridio pwysicaf ar gyfer bodaod y mêl yng Nghymru.

Rhaeadr Melincwrt, Rose Revera

Am y Bartneriaeth

Mae aelodau Partneriaeth Natur Leol Castell-nedd Port Talbot yn cynnwys ystod eang o sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb mewn bywyd gwyllt lleol. Gall unrhyw un ymuno a'r Bartneriaeth hon sy'n gyfrifol am gyflwyno'r Cynllun Natur Lleol. Ar hyn o bryd mae gennym dros 60 o aelodau. Ein prif amcan yw hyrwyddo cadwraeth ac ymwybyddiaeth o natur yn ogystal â’i chyfoethogi yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Cysylltwch â Chydlynydd Partneriaeth Natur Leol CNPT i ddarganfod mwy am y Bartneriaeth Natur Leol a sut y gallwch chi helpu natur yn CNPT.

Chwilen Ddaear Las, Vaughn Matthews

Ein Nodau

Diogelu cynefinoedd presennol, adfer hen gynefinoedd a chreu cynefinoedd newydd.

Atal dirywiad bioamrywiaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Cynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ein bywyd gwyllt lleol.

Addysgu pobl am bwysigrwydd cynefinoedd, er mwyn gwarchod y fflora a'r ffawna y maent yn eu cefnogi.

Annog pobl leol i gymryd rhan mewn diogelu a mwynhau eu bioamrywiaeth leol.

Cynyddu a rhannu'r wybodaeth sydd gennym am rywogaethau a safleoedd penodol.

Dylanwadu ar weithgareddau i fod yn fwy ystyriol o anghenion bioamrywiaeth leol.

Cynghori ar gamau priodol o ran cadwraeth yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Bodaod y mêl ar nyth, Stephen Roberts

Sut ydyn ni'n mynd i lwyddo?

Creu partneriaethau rhwng pobl sy'n gwarchod ac yn gofalu am natur yn CNPT.

Casglu gwybodaeth am warchod rhywogaethau a chynefinoedd yn CNPT. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i ddiweddaru'r Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol ac i gyflawni camau a nodwyd yn y Cynllun.

Cefnogi datblygiad prosiectau sy'n cyfrannu at nodau'r Bartneriaeth. Datblygu prosiectau newydd i fynd i'r afael â blaenoriaethau lleol.

Darparu swyddogaeth gynghori ar gyflwr natur ac adferiad natur yn CNPT. Lle bynnag y bo modd, defnyddio dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth i helpu hyn h.y. trwy bresenoldeb ar grwpiau llywio strategol a rhoi cyngor i gynghorau cymunedol ac ati.

Mae'r Bartneriaeth bob amser yn gweithio dros fywyd gwyllt yn CNPT a dyma rai enghreifftiau o waith a gwblhawyd neu sydd ar y gweill:

Bydd y Bartneriaeth Natur Leol yn creu ardaloedd o flodau gwyllt drwy’r sir eleni

Mae Gwirfoddolwyr Amgylchedd Afan yn cynnal gweithgorau gwirfoddol i reoli dolydd yn Nyffryn Afan.

Mae'r cyngor yn rheoli tri pharc gwledig, pum gwarchodfa natur leol a llawer mwy o safleoedd ar gyfer natur.

Mae Grŵp Amgylchedd Bryncoch wedi bod yn cynnal patrolau llyffantod yn y gwanwyn ers 15 mlynedd, gan achub dros 800 o lyffantod yn 2019.

Mae Buglife a Coed Cadw yn gweithio gyda'i gilydd i warchod y Chwilen Ddaear Las yn Sgiwen.

Mae prosiect adfer mawndiroedd ar raddfa fawr, o’r enw Adfer Mawndiroedd, yn digwydd yn ein hucheldiroedd.

Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru (WTSWW) yn rheoli pum gwarchodfa natur yn yr ardal.

Lleoedd i weld natur yn Castell-nedd Port Talbot

Mae yna ystod eang o gynefinoedd yng Nghastell-nedd Port Talbot gan gynnwys cynefinoedd o bwysigrwydd cenedlaethol fel porfeydd rhos, rwbel pyllau glo, coetir a chorsydd mawn.

Mae Tomen y Brynyn un o Bum Gwarchodfa Natur Leol yn y sir a dyma safle hen Bwll Glo Navigation y Bryn. Mae bellach wedi'i adfer yn gynefin naturiol ac yn gartref i lawer o rywogaethau prin a warchodir. Mae'r rhain yn cynnwys llinosod ac ehedyddion, gweision neidr eurdorchog, nadroedd defaid, madfallod cyffredin, tegeirianau’r wenynen a brithegion gwyrdd.

Mae gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymruwarchodfeydd natur yng Nghastell-nedd Port Talbot, gan gynnwysRhaeadr Melincwrt.Yn ogystal â'r rhaeadr drawiadol, efallai y byddwch hefyd yn gweld teloriaid y coed a bronwennod y dŵr, yn ogystal ag amrywiaeth o redyn.

Mae'r gwelyau cyrs a hesg yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Pant y Saisyn gartref i amrywiaeth o blanhigion, adar a phryfed gwlyptir. Mae teloriaid y cyrs a theloriaid yr hesg yn bridio yma, ynghyd â thelor Cetti, telor y gwair, bras y gors a rhegen y dŵr. Cadwch lygad am y clystyrau mawr o redyn cyfrdwy – un o rywogaethau arbennig Pant y Sais. Mae corryn mwyaf Prydain, corryn rafft y ffen, yn byw ar y gamlas ond rydych chi'n llawer mwy tebygol o weld gloÿnnod byw a gweision y neidr yn ystod eich ymweliad.

Adeiladwyd Camlas Abertawe ym 1796 i gludo glo a deunyddiau diwydiannol eraill, ac fe’i caewyd i draffig masnachol ym 1931. Mae'r safle yn Ynysmeudwy bellach yn Warchodfa Natur Leol sy'n

Uchafbwyntiau

Mae penigan y porfeydd (Dianthus armeria) yn flodyn pinc hardd sy'n tyfu yn CNPT ar ymylon ffyrdd a thir llwyd. Mae'n brin yng Nghymru ac mae Partneriaeth Natur Leol CNPT yn llwyddo i reoli a monitro safle sy'n gadarnle i benigan y porfeydd yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Mae bodaod y mêl (Pernis apivorus) yn adar ysglyfaethus swil a phrin yn y DU ac mae'n fraint fawr gennym eu gweld yma yn y sir rhwng mis Mai a mis Awst. Mae bodaod y mêl yn gaeafu yn Affrica, ac maen nhw’n fridwyr prin yn y DU. Maen nhw’n adnabyddus am eu hoffter o fwyta’r cynrhon yn nythod gwenyn meirch.

Y chwilen ddaear las (Carabus intricatus) yw'r chwilen ddaear fwyaf yn y DU, ac mae hefyd yn un o'r rhai prinnaf. Yn 2012, cafodd ei darganfod mewn pentwr o goed mewn garej yn Sgiwen. Coed Maesmelin a'r ardal gyfagos yw'r unig le yng Nghymru lle mae'r chwilen ddaear las i'w chael. Mae'n safle o bwysigrwydd cenedlaethol a dyma’r boblogaeth fwyaf gogleddol o chwilen ddaear las yn Ewrop. Yn ddiweddar mae aelodau’r Bartneriaeth, Buglife, wedicynnal prosiecti arolygu a gwella'r cynefin ar gyfer y chwilen brin hon.

Mae De Cymru yn un o'r prif gadarnleoedd sydd ar ôl ar gyfer britheg y gors (Euphydryas aurinia) yn y DU. Mae yna lawer o ardaloedd o gynefin addas ac mae Cwm Dulais yn arbennig o bwysig yn y sir. Mae aelodau'r Bartneriaeth,Cadwraeth Glöynnod Byw,yn gweithio'n galed i wella'r cynefin i'r glöyn byw yn y sir.

Mae Cors Pant y Sais yn gynefin i'r corynod mwyaf ac un o'r corynod prinnaf yng Nghymru, sef corryn rafft y ffen. Maent yn rhannol-ddyfrol, gan ffafrio ardaloedd ar hyd ymyl y dŵr gyda phlanhigion ifanc, anystwyth y maent yn eu defnyddio i greu gweoedd meithrin sy'n dal yr epil. Maen nhw mor fawr nes eu bod nhw'n gallu dal a bwyta crethyll.

Mae tomenni rwbel glo CNPT yn feysydd pwysig o ran gwarchod infertebratau, ffyngau a chen yng Nghymru. Maent yn cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd gan gynnwys rhostir, glaswelltir llawn blodau, coetir a gwlyptiroedd.

Manylion Cyswllt Allweddol

Rose Revera
Cydlynydd y Bartneriaeth Natur Leol

CBS Castell-nedd Port Talbot
Y Ganolfan Ddinesig,
Port Talbot
SA13 1PJ

Ffôn: 01639 686149
Ebost: [email protected]
Gwefan: npt.gov.uk

Mae Castell-nedd Port Talbot yn aelod gwerthfawr o Rwydwaith Partneriaeth Natur Lleol Cymru gyfan

Local Nature Partnerships CymruCastell-nedd Port Talbot

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt