Wales Nature Week 2024

Wythnos Natur Cymru 29 Mehefin - 7 Gorffennaf

Mae Wythnos Natur Cymru yn ddathliad blynyddol o fyd natur sy’n arddangos cynefinoedd a rhywogaethau rhyfeddol Cymru!

Rydym yn dathlu natur arbennig Cymru ac yn eich gwahodd chi i gymryd rhan! Chadwch olwg ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau.

Oes syniad am ddigwyddiad gyda chi? Byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthoch chi. Gall sefydliadau bach a mawr, elusennau, grwpiau cymunedol, ysgolion a cholegau, llyfrgelloedd, busnesau ac unigolion i gyd gymryd rhan trwy gynnal digwyddiad yn ystod Wythnos Natur Cymru!

Beth i’w ddisgwyl mewn digwyddiadau

Bydd rhywbeth at ddant pawb – digwyddiadau i unigolion, teuluoedd a’r rhai sy’n newydd i fyd natur, yn ogystal â’r rhai mwy profiadol yn y maes.

Nid oes angen i chi fynychu digwyddiad i ddathlu Wythnos Natur Cymru. Y cwbl sydd angen i chi wneud yw mynd allan i werthfawrogi’r natur sydd ar garreg eich drws yn ystod Wythnos Natur Cymru. Gallai fod yn ddechrau ar berthynas gydol oes!

Byddwch yn rhan o'r stori! Rhannwch eich straeon a’ch profiadau o fyd natur gan ddefnyddio #WythnosNaturCymru a dangoswch eich angerdd dros fyd natur!

Syniadau da i roi help llaw i natur

  • Gadewch i gornel yn eich gardd 'dyfu'n wyllt' - bydd llu o greaduriaid yn elwa o'r weithred syml hon.
  • Mabwysiadwch ddull plannu ‘cyfeillgar’ i bryfed peillio - bydd gwenyn, gloÿnnod byw a phryfed hofran yn gwerthfawrogi ffynonellau paill a neithdar
  • Bydd blwch ffenestr yn denu peillwyr os yw'r gofod yn brin - mae lafant a melyn Mair yn ddewisiadau da
  • Peidiwch â defnyddio mawn a phlaladdwyr - gall cemegau gael effaith ddinistriol ar bryfed a micro-organebau'r pridd. Mae compost heb fawn yn helpu i ddiogelu cynefinoedd corsiog gwerthfawr rhag echdynnu mawn
  • Darparwch ffynhonnell ddŵr ar gyfer draenogod, adar a phryfed - mae soser pot planhigion syml yn berffaith ar gyfer hyn.
  • Rhowch gartref i fyd natur a gosodwch dŷ pryfed neu flwch adar
  • Tynnwch luniau o natur y byddwch yn eu gweld yn eich gardd neu pan fyddwch allan yn crwydro. Rhannwch ar gyfryngau cymdeithasol i ymuno â chymuned fywiog o rai sy’n ymddiddori mewn natur

Er mwyn cael rhagor o syniadau, gweler yr adran Adnoddau a'r adran Helpu Bywyd Gwyllt

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt