Wales Biodiversity Partnership

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Mae amffibiaid ac ymlusgiaid yn cael eu galw’n gyfunol yn herpetofauna ac maen nhw’n ddangosyddion allweddol o iechyd ein hamgylchedd. Mae tri ar ddeg o rywogaethau o ymlusgiaid daearol yn byw yn y DU ac un ar ddeg o’r rhywogaethau hynny yng Nghymru.

Mae amffibiaid ac ymlusgiaid i'w canfod mewn amrywiaeth eang o gynefinoedd yng Nghymru ac mae'u dosbarthiad yn cael ei ddiffinio'n bennaf gan yr hinsawdd a chan strwythur llystyfiant. Hefyd, mae pyllau a chyrsiau dŵr sy’n symud yn araf yn safleoedd bridio pwysig i amffibiaid ac yn fannau bwydo y neidr lwyd, y fadfall a phenbyliaid brogaod, llyffantod a madfallod. Mae’r fadfall fawr gribog ( Triturus cristatus) a madfall y twyni (Lacerta agilis) wedi’u rhestru’n rhywogaethau o dan warchodaeth Ewropeaidd o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd ac mae’n anghyfreithlon lladd, anafu neu gwerthu amffibiaid ac ymlusgiaid brodorol o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Yn ogystal, mae wyth o rywogaethau o amffibiaid ac ymlusgiaid wediu rhestru ar y rhestr rhywogaethau â blaenoriaeth i Gymru (rhestr Adran 7).

Gweithredu dros amffibiaid ac ymlusgiaid yng Nghymru

Mae llai o gryn dipyn erbyn hyn o ymlusgiaid yng Nghymru ac ar draws y DU; maen nhw’n dioddef yn arbennig drwy golli cynefin, darnio cynefin a newid mewn amodau. Mae gwaith ar y gweill yng Nghymru i adfer poblogaethau o ymlusgiaid ac amffibiaid trwy fentrau lleol a rhai mwy cyffredinol. Mae Cysylltu’r Gymuned â Chadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid Ledled Cymru’n brosiect a ddechreuodd yn 2012 ac sy’n rhoi cyfle i bobl gysylltu ag amffibiaid ac ymlusgiaid, mae’n annog y cyhoedd i gofnodi gweld amffibiaid ac ymlusgiaid ac yn eu cael i gymryd rhan mewn adfer a chreu cynefinoedd ar eu cyfer yng Nghymru. Mae’r Prosiect Miliwn o Byllau wedi helpu i greu dros 1,000 o byllau yn ystod y 5 mlynedd diwethaf er budd amffibiaid ledled Cymru a Lloegr. Bu Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid yn cynnal gwaith modelu, gyda chefnogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, i nodi mannau lle na byddai datblygu yn effeithio cymaint ar boblogaethau’r fadfall fawr gribog ac i feintioli effeithiau ar y fadfall ac ar ystod y rhywogaethau yng ngogledd a chanolbarth Cymru. Mae’n bosibl defnyddio’r dulliau hyn ar gyfer rhywogaethau eraill a’r bwriad yw ymestyn y gwaith ledled de Cymru. Mae Grŵp Arbenigol Rhywogaethau Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru’n cynnal ymarferiad ar hyn o bryd i nodi’r cilfachau gorau yn y mathau mwyaf eang o gynefinoedd i sicrhau fod cynlluniau rheoli cynefinoedd yn cyfarfod ag anghenion y rhywogaethau. Mae amffibiaid ac ymlusgiaid, gyda’u gofynion am gynefinoedd amrywiol, yn nodwedd amlwg yn y prosiect.

Common Lizard

Rhestr o rywogaethau brodorol yng Nghymru

Broga cyffredin, Rana temporaria; Llyffant du, Bufo bufo; Llyffant y brwyn, Epidalea calamita; Madfall fawr gribog, Triturus cristatus; Madfall ddŵr balfog, Lissotriton helveticus;

Madfall ddŵr gyffredin, Lissotriton vulgaris; Madfall, Zootoca vivipara; Madfall y twyni, Lacerta agilis; Neidr ddefaid, Anguis fragilis; Neidr lwyd, Natrix natrix; Gwiber, Vipera berus            

Larva

Techneg DNA yn cynnig gobaith ar gyfer gwarchod rhywogaethau dyfrol sydd mewn perygl

Mae techneg newydd arloesol sy’n dadansoddi olion DNA mewn dŵr yn cynnig gobaith ar gyfer gwarchod rhywogaethau dyfrol sy’n brin ac mewn perygl yn y dyfodol - yn cynnwys poblogaeth Prydain o’r fadfall ddŵr gribog – drwy ei gwneud hi’n haws dod o hyd iddynt yn nyfroedd dyfnion pyllau a nentydd. Mae un o’r prosiectau cyntaf i roi’r dull arolygu arloesol ar waith, sef prosiect wedi’i ariannu gan Defra - a oedd yn cynnwys astudiaeth o byllau ym Mwcle yn y gogledd-ddwyrain - wedi canfod bod monitro lefelau DNA amgylcheddol (eDNA) mewn dŵr yn ffordd ryfeddol o gywir a chyflym o ganfod y fadfall ddŵr gribog.            

Cyswllt

Liz Howe

Arweinydd Tîm Rhywogaethau ac Ymlusgolegydd
Cyfoeth Naturiol Cymru

E-bost: Liz Howe