Wales Biodiversity Partnership

Bryoffytau

Mae bryoffytau yn cynnwys mwsoglau a llysiau’r afu a grŵp sy’n perthyn yn agos o’r enw cyrnddail. Maent yn nodweddiadol yn wyrdd, fel arfer yn fychan, ac yn rhai o’r planhigion symlaf sy’n byw ar y tir. Er enghraifft, nid ydynt yn cynhyrchu blodau na hadau, ond yn lledaenu fel sborau, blagur anrhywiol neu ddarnau o blanhigion, ac nid oes gan y rhan fwyaf ohonynt fodd o gario dŵr na maetholion yn fewnol. Nid oes ganddynt wreiddiau ond yn hytrach ffurfiannau tebyg i wraidd (gwreiddflew) a ddefnyddir ganddynt i lynu wrth arwynebeddau ac amsugno dŵr. Fel arfer mae ar fryoffytau angen amodau llaith, ond mae nifer ohonynt wedi esblygu i fyw mewn cynefinoedd eithriadol o sych. Maent i’w cael mewn amrywiaeth eang o gynefinoedd, yn cynnwys coetiroedd, corsydd, ffeniau, rhuthrau dŵr ucheldir, mewn dŵr, ar lannau afonydd, ar ymylon pyllau, llynnoedd a chronfeydd dŵr, waliau, tomenni chwarel, hyd yn oed ar darmac ac mewn craciau cerrig palmant. Maent yn sefydlu ar dir moel a chraig ac yn helpu rhywogaethau eraill ymsefydlu. Nid yn unig y mae bryoffytau yn hynod o ddiddorol i’w hastudio ac yn hardd o ran golwg, maent hefyd yn bwysig ar gyfer gweithrediad yr ecosystem ac o fudd i gymdeithas. Er enghraifft, mae mwsogl y ffynhonnau yn un o brif elfennau mawnogydd a gall ddal cymaint ag ugain gwaith ei bwysau mewn dŵr ac mae’n elfen ddefnyddiol mewn lliniaru llifogydd. Mae mawnogydd hefyd yn cloi symiau mawr o garbon ac yn helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd. Ceir cynrychiolaeth sylweddol o fryoffytau gyda 811 (73%) o’r 1110 o rywogaethau Prydeinig i’w cael yng Nghymru. Mae haen waelod derw’r Iwerydd a choed ynn yng Nghymru yn ffynonellau cyfoethog o fryoffytau gan gynnwys Dicranum majus, Rhytidiadelphus loreus, Plagiochila spinulosa, ac, yn y mannau mwyaf llaith, arae o lysiau’r afu bychain megis Drepanolejeunea hamatifolia a Plagiochila exigua. Bellach mae’r edeufwsogl Cymreig (Bryum gemmiparum) yn hynod o brin yng Nghymru ac i’w gael yn unig ar allfrigiadau creigiog heulog yn rhannau (uchaf/canol) Afon Wysg.

Mae’r Petalophyllum ralfsii yn rhywogaeth o lysiau’r afu sydd i’w chael mewn pantiau llaith twyni tywod llawn cregyn ac mae Cymru yn un o gadarnleoedd y DU ar gyfer y rhywogaeth hon. Mae’r llysiau afu Cephaloziella nicholsonii a Cephaloziella massalongi yn gysylltiad â’n gorffennol diwydiannol ac i’w cael yn hen ardaloedd mwynfeydd copr gogledd-orllewin Cymru. Mae calchfaen Cymru yn cynnal Weissia levieri ac Anomodon longifolius, ac mae’r ddwy rywogaeth i’w cael mewn llai na phump o safleoedd ym Mhrydain hyd y gwyddom, tra bo creigiau asid yn Eryri yn cynnal y Dicranodontium asperulum. Mae Barbilophozia kunzeana a Sphagnum balticum yn tyfu mewn gwlyptiroedd, a Bartramia stricta i’w gael yn unig yn y DU ar greigiau folcanig sych yn Sir Faesyfed.

Cadwraeth Bryoffytau yng Nghymru

Gyda chyfran mor sylweddol o fryoffytau Prydeinig i’w cael yng Nghymru, mae gennym gyfrifoldeb arbennig i’w gwarchod. Mae 52 rhywogaeth o fryoffytau ac 1 casgliad yn ymddangos ar restr Adran 7, sy’n rhestr o rywogaethau o bwysigrwydd pennaf yng Nghymru. Mae bygythiadau i gadwraeth bryoffytau yn cynnwys colli cynefin, newid hinsawdd, rheolaeth amhriodol o goedwigoedd, lledaeniad y rhododendron, draenio mawnogydd, adeiladu ffyrdd a thai, llygredd aer. Mae Rhestr Data Coch Bryoffytau ar gyfer Cymru wedi cael ei chynhyrchu gan Plantlife i helpu i wella ein gwybodaeth o’r bygythiadau sy’n wynebu bryoffytau a darparu data i gefnogi mentrau cadwraeth.

Lesser Copperwort

Gwyddom am y Cephaloziella massalongi ym Mhrydain diolch i lond dwrn o weithfeydd copr segur yng Ngogledd Cymru a Chernyw. Yn 2011, roedd y rhan fwyaf o gofnodion Cymru yn dyddio o’r 60au neu gynharach, ac roedd pryder y gallai’r rhywogaeth hon o lysiau’r afu fod wedi ei chyfyngu i un neu ddau leoliad yn unig yn Eryri. Cadarnhaodd arolwg o safleoedd hanesyddol a ariannwyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri fod y Cephaloziella massalongi yn dal i fodoli mewn 4 safle lle nad oedd wedi cael ei weld am ddegawdau, ac roedd hefyd yn cynnwys archwiliad o broffil metel trwm y graig a’r tomenni lle mae’r Cephaloziella massalongi yn tyfu.

Mae’r wybodaeth hon yn caniatáu inni asesu pa mor bwysig yw safleoedd unigol ar gyfer goroesiad y rhywogaeth hon yng Nghymru, ac wedi bod yn gyfryngol wrth gynllunio prosiect cau ffos ar SoDdGA Cors Gopr Hermon, ac wedi ei gwneud yn bosibl canfod ardaloedd lle gellir cynnal dulliau rheoli llygredd metel trwm mewn ffordd a fydd o fudd i’r boblogaeth o lysiau afu prin a gwella ansawdd y dŵr ar yr un pryd.

Cyswllt

Sam Bosanquet, Ecolegydd Planhigion Anfascwlaidd
Cyfoeth Naturiol Cymru

E-bost:   Sam Bosanquet