Gallwch gyfrannu at bob math o arolygon bywyd gwyllt ar hyd a lled y DU, boed eich diddordeb mewn pryfed, planhigion, amlusgiaid, amffibiaid, adar neu famaliaid.
Mae modd creu cofnodion defnyddiol heb wybodaeth arbenigol. Os nad ydych chi’n berffaith sicr o ryw rywogaeth arbennig, gall eich Canolfan Cofnodion Lleol eich rhoi ar ben ffordd gydag arbenigwr lleol. Mae Canolfannau Cofnodion Lleol yn falch o dderbyn cofnodion am bob rhywogaeth,waeth pa mor gyffredin ydynt.
Mae coed hynafol yn greiriau byw eithriadol o hen sy’n deffro ymdeimlad o ryfeddod a dirgelwch ynom. Cronfa ddata fyw o goed hynafol yw’r Helfa Coed Hynafol. Cafodd ei rhoi ar waith yn 2004, a hyd yn hyn mae wedi cofnodi mwy na 100,000 ledled y DU. Gellir defnyddio’r wybodaeth a gofnodir yn lleol neu’n genedlaethol er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd coed, hyrwyddo’u gwerth ac annog eu cadwraeth. I ddod o hyd i fanylion am goed hynafol ger eich cartref neu lefydd rydych yn mynd am dro iddynt yn aml, defnyddiwch y Map Coed Hynafol
Mae yna lawer o goed hynafol rhyfeddol i’w darganfod a’u cofnodi o hyd. Os gwelwch goeden sydd ddim ar y map, gallwch ei hychwanegu a llwytho llun i fyny yn ogystal. Mae’r gronfa’n tyfu’n barhaus, a bydd yn rhoi gwell syniad inni faint o goed hynafol sydd i’w cael ar draws y DU. Eu cofnodi yw’r cam cyntaf tuag at eu diogelu a’u gwarchod.
Mae a wnelo Gwyddoniaeth Dinasyddion â phartneriaeth: dwyn ynghyd gwyddonwyr, cofnodwyr amatur a grwpiau diddordeb lleol o amryw gefndiroedd, er mwyn gweld a chofnodi cyflwr ein hamgylchedd.
Mae sawl arolwg y gallwch fod â rhan ynddynt, gan edrych ar amrywiaeth eang o rywogaethau, a rhai cynefinoedd. Rhestrir rhai ohonynt isod: mae gan eich Canolfan Cofnodion Lleol yng Nghymru restr gynhwysfawr o arolygon yn eich bro chi, yn ogystal ag arolygon cenedlaethol. Mae gan y cynllun OPAL, hefyd, amrywiaeth eang o arolygon amgylcheddol y gallwch ymuno ynddynt.
Mae Bugs Count yn helfa trychfilod genedlaethol er mwyn helpu BugLife i ymchwilio i sut y mae’r amgylchedd adeiledig yn effeithio ar anifeiliaid di-asgwrn-cefn.
Pecyn Arolwg (Cym) Survey Pack (pdf) (Saes). Adeg orau cynnal yr arolwg yw o Fai hyd Dachwedd.
Mae arolwg Atlas Amffibiaid ac Ymlusgiaid Cymru yn amcanu dangos yr holl amffibiaid ac ymlusgiaid a welwyd yng Nghymru, a’ch annog chi (gobeithio!) i lenwi’r bylchau.
Amcana arolwg pryfed tân y DUhel gwybodaeth am bryf rhyfeddol nad yw’r mwyafrif ohonom hyd yn oed yn sylweddoli ei fod yn bodoli ym Mhrydain.
Mae’r rhwydwaith Labordai Awyr-agored (OPAL) yn fenter gyffrous sydd ar agor i unrhyw un sydd â diddordeb yn yr amgylchedd naturiol.
Mae OPAL wedi datblygu amrywiaeth eang o raglenni lleol a chenedlaethol, er mwyn anog pobl o bob cefndir i ailgysylltu â natur. Ar wefan OPAL, mae amrywiaeth o lawlyfrau adnabod, adnoddau a gwybodaeth gyffredinol ar gael, a ganiatânt i chi ymuno yn yr arolygon gwyddoniaeth dinasyddion.
Pam nad ymunwch chi mewn arolwg?
Mae gan Gymru bedair Canolfan Cofnodion Amgylcheddol Lleol (CCALlau) ac mae pob un ohonynt yn rhan o’r rhwydwaith cenedlaethol cyntaf o CCALlau (LERC Wales
Mae’r Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol (RhBC) sy’n bartneriaeth gydweithredol, yn cefnogi rhannu data biolegol yn y DU. Mae’r RhBC yn coladu ac yn cydgasglu data am rywogaethau a chynefinoedd oddi wrth ystod eang o bartneriaid, gan gynnwys Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol Cymru. Mae’r data sy’n cael ei rannu drwy’r RhBC ar gael yn atlasau’r RhBC
Arf ar-lein rhad ac am ddim yw Atlas RhBC sy’n darparu platfform i gysylltu, addysgu a hysbysu pobl am yr amgylchedd naturiol. Mae’n dod â data rhywogaeth a chynefin at ei gilydd er mwyn darparu sail tystiolaeth ar gyfer llunio penderfyniadau amgylcheddol yn y DU. Mae Atlas RhBC Cymru, is-safle’r Atlas RhBC sy’n ymdrin ag Ynysoedd Prydain, yn darparu arolwg Cymreig. Gellir defnyddio Atlas RhBC i archwilio a dadansoddi gwybodaeth am rywogaethau a chynefinoedd yng Nghymru – gellir edrych ar fapiau dosbarthiad rhywogaethau, archwilio ardal, edrych ar ddelweddau a llawer mwy.