Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru - y Strategaeth Bioamrywiaeth ar gyfer Cymru

Cyhoeddwyd y Cynllun Gweithredu Adfer Natur (NRAP) cenedlaethol am y tro cyntaf yn 2015, ac mae'n cynnwys Rhan I (Ein Strategaeth ar gyfer Natur) a Rhan II (Ein Cynllun Gweithredu). Mae hwn yn gynllun Cymru gyfan ar gyfer pawb sy'n ymwneud â gweithredu bioamrywiaeth yng Nghymru. Adnewyddwyd Rhan II ar gyfer 2020-21 yn dilyn mewnbwn gan ystod o randdeiliaid.

Mae nifer o amcanion wedi'u gosod er mwyn mynd i'r afael â'r materion sy'n sbarduno'r dirywiad yn ein bioamrywiaeth, ac i'w helpu i ymadfer:

  • Ymgysylltu a chynorthwyo cyfranogi a dealltwriaeth er mwyn gwreiddio bioamrywiaeth ledled y penderfyniadau a wneir ar bob lefel
  • Diogelu’r rhywogaethau a’r cynefinoedd pwysicaf, a gwella’r modd y’u rheolir, gan gynnwys y gofyniad i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi rhestr o’r organebau byw pwysicaf a’r mathau pwysicaf o gynefinoedd o safbwynt cynnal a gwella bioamrywiaeth yng Nghymru
  • Cynyddu cydnerthedd ein hamgylchedd naturiol trwy adfer cynefinoedd a ddiraddiwyd, a chreu cynefinoedd
  • Mynd i’r afael â’r pwysau allweddol sydd ar rywogaethau a chynefinoedd
  • Gwella ein tystiolaeth, ein dealltwriaeth a’n systemau monitro
  • Sefydlu fframwaith llywodraethu a chymorth ar gyfer cyflenw

Erys y chwe amcan gwreiddiol, ynghyd â phum thema gweithredu sy'n deillio o'r amcanion.

Y pum thema yw:

  • Cynnal a gwella rhwydweithiau ecolegol cydnerth
  • Cynyddu gwybodaeth a throsglwyddo gwybodaeth
  • Gwireddu buddsoddiad a chyllid newydd
  • Uwchsgilio a'r gallu i gyflawni
  • Prif ffrydio, llywodraethu ac adrodd ar ein cynnydd

Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru - nodau

Bydd Cynllun Adfer Natur Cymru yn amlinellu sut y bydd Cymru’n mynd i’r afael â Chynllun Strategol Bioamrywiaeth y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol a’r targedau bioamrywiaeth Aichi cysylltiedig yng Nghymru. Bydd y Cynllun Adfer Natur yn nodi camau gweithredu y gellir eu cyflawni yn y tymor byr ac yn pennu llwybr i gyflawni ymrwymiadau hirdymor y tu hwnt i 2020. Bydd camau gweithredu’r Cynllun yn cael eu hadolygu’n rheolaidd, gan sicrhau eu bod yn parhau i gyflawni amcanion ac uchelgais adfer natur yng Nghymru. Bydd cyfres o ddangosyddion yn cael eu datblygu hefyd i fesur cynnydd y Cynllun Adfer Natur yn erbyn yr amcanion. I gyd-fynd â’r cynllun, bydd y Fframwaith Adfer Natur yn nodi rolau a chyfrifoldebau’r rhai sy’n gyfrifol am gyflawni camau gweithredu bioamrywiaeth yng Nghymru, a sut mae’r rhain wedi’u cysylltu â’i gilydd.

red squirrel

Bluebells Tom Marshal

Coastal

Grŵp Gweithredu’r Cynllun Adfer Natur

Grŵp Cyflawni'r Cynllun Gweithredu Adfer Natur yw'r prif grŵp rhanddeiliaid ar gyfer yr NRAP ac mae iddo aelodaeth eang, o Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, JNCC, Sefydliadau Anllywodraethol amgylcheddol, y sector ffermio a sefydliadau eraill o’r sector cyhoeddus a phreifat. Rôl y grŵp yw llywio a blaenoriaethu camau allweddol er mwyn cyflawni'r NRAP a gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth yng Nghymru, gan fabwysiadu dull cydweithredol. Mae'r grŵp fel arfer yn cwrdd dair gwaith y flwyddyn, a chynhelir y cyfarfod.

Mae cyfres o grwpiau yn arwain tasgau a blaenoriaethau penodol a bennir gan Grŵp Gweithredu NRAP. Ar hyn o bryd mae’r rhain yn cynnwys:

  • Rhaglen Bioamrywiaeth a Thystiolaeth Ecosystemol ac Anghenion Ymchwilio
  • Grŵp Cydnerthedd Ecosystemol ac Adfer
  • Fforwm Cynllunio a Bioamrywiaeth
  • Grŵp canllawiau adran 6
  • Grŵp Adran 7 (grŵp CNC mewnol sy’n arwain y gwaith o ddatblygu meini prawf y rhestr)
  • Grŵp Cynadleddau Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru
  • Grŵp Rhywogaethau Estron Goresgynnol Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru

Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE

Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE yw'r rhaglen adfer genedlaethol gyntaf ar gyfer cyforgorsydd ac ar gyfer unrhyw gynefin mawndir yng Nghymru.

Nod y prosiect arloesol ac uchelgeisiol 4 blynedd yw adfer 7 o'r enghreifftiau gorau o gyforgorsydd yng Nghymru. Bydd bron i 4 milltir sgwâr (dros 900 hectar) yn cael ei adfer i gyflwr gwell, mae hyn yn cynrychioli 50% o'r cynefin hwn yng Nghymru a 5% yn y DU.

Mae'r safleoedd wedi dioddef oherwydd rheolaeth wlypdir gwael yn y gorffennol ac mae hyn wedi achosi i blanhigion ymledol gymryd drosodd a stopio planhigion pwysig fel migwyn (mwsogl y gors) rhag ffynnu.

Mae planhigion fel migwyn yn helpu i gadw'r mawn yn gorslyd ac yn wlyb ac yn storio carbon, gan ein helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Bydd y prosiect hwn yn edrych ar ffyrdd arloesol newydd o weithio i wneud gwahaniaeth go iawn ac adfer y seven ACA cyforgors yng Nghymru.

Mae cyforgorsydd yn darparu nifer o fuddion i'r amgylchedd, bywyd gwyllt a phobl. Maent yn gartref i blanhigion a bywyd gwyllt prin, maent yn storio carbon o'r atmosffer, yn gallu storio a phuro dŵr ac maent hefyd yn rhoi mewnwelediad hynod ddiddorol i'n hanes amgylcheddol. Maent hefyd yn lleoedd gwych i bobl ymweld â natur a mwynhau ar ei gorau.

Y saith safle yn y prosiect yw:

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y CNC

Caron © CNC

Prosiectau newydd gwerth miliynau o bunnoedd i warchod afonydd a chorsydd Cymru

Bydd dau brosiect newydd yn adfer ac yn gwella byd natur a'r amgylchedd yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf - newyddion ardderchog i fynd i'r afael â'r Argyfwng Natur.
Bydd y prosiectau, a ariennir trwy Raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru, yn sicrhau y bydd cyfanswm o £13.8 miliwn yn rhoi hwb sylweddol i heriau cadwraethol dros y pum mlynedd nesaf.
Bydd mwy na naw miliwn o bunnoedd yn cael eu buddsoddi i wella cyflwr pedair afon - y Teifi, y Cleddau, y Tywi a’r Wysg - 500km o’n hafonydd.
Bydd ychydig dros £4.5 miliwn yn gwarchod corsydd crynedig - sy’n cael eu henw oherwydd y ffordd mae'r mawndir yn crynu, yn llythrennol, o dan eich traed! Y mwyaf o'r corsydd crynedig sydd ar ôl yng Nghymru yw Cors Crymlyn, ar gyrion Abertawe.
Bydd ardaloedd eraill o gorsydd crynedig hefyd yn cael eu gwella, gan gynnwys yn Nhyddewi, Sir Benfro ac ym Mhen Llŷn. Mae angen gofal dwys ar bob un ohonynt oherwydd difrod a wnaed yn y gorffennol o ganlyniad i ddraenio, llygredd neu esgeulustod. Ond mae rhywogaethau prin iawn yn llechu yno o hyd - gan gynnwys pry cop mwyaf Prydain sef corryn arnofiol y gors galchog yng Nghrymlyn a glöyn byw brith y gors yn Sir Benfro a Gwynedd.
Yr allwedd i lwyddiant fydd gweithio'n agos gyda thirfeddianwyr, cymunedau a phartneriaid eraill.

Bydd Prosiect Pedair Afon yn:

  • Gwella cynefinoedd ac amodau afonydd ar gyfer pysgod mudol - yn arbennig yr eogiaid, llysywod pendoll y môr a'r afon, pennau lletwad a herlod. Disgwylir i ddyfrgwn a misglod perlog dŵr croyw elwa hefyd;
  • Adfer rhannau o afonydd sydd wedi’u sythu yn y gorffennol, fel eu bod yn ymdroelli unwaith eto - newyddion rhagorol i fywyd gwyllt. Ond bydd pobl yn cael budd o hyn hefyd oherwydd bydd arafu'r llif yn lleihau’r risg o lifogydd i gymunedau islaw yn y dyffryn;
  • Gweithio gyda ffermwyr i amddiffyn coridorau afonydd a sicrhau fod llai o waddodion a maetholion yn mynd i mewn i afonydd. Bydd hyn hefyd yn diogelu cyflenwadau dŵr yfed.
Bydd prosiect Corsydd Crynedig yn adfer saith Ardal Cadwraeth Arbennig – gyda phedwar o’r rhain yn Warchodfeydd Natur Cenedlaethol, trwy:
  • Sicrhau bod lefel y dŵr yn addas ar gyfer corsydd crynedig er mwyn iddyn nhw gynnal eu planhigion a’u creaduriaid arbenigol
  • Rheoli prysgwydd a rhywogaethau goresgynnol estron sy’n gallu mygu'r cynefin naturiol;
  • Ailgyflwyno pori traddodiadol;
  • Gwella mynediad fel y gall mwy o bobl fwynhau natur ar ei gorau.

Bydd Prosiect Pedair Afon yn cael ei redeg gan CNC mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Ymddiriedolaeth Adfer Afonydd, Coleg Sir Gâr a Coed Cadw, gyda chefnogaeth ariannol ychwanegol gan Dŵr Cymru.

Partneriaid CNC ar brosiect Corsydd Crynedig yw’r Ymddiredolaeth Genedlaethol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Eryri ac Arfordir Sir Benfro.

Testun trwy garedigrwydd CNC

Llun © Sean McHugh

Twyni Byw

Prosiect cadwraeth pwysig yw Twyni Byw / Sands of LIFE sy’n rhedeg tan fis Rhagfyr 2022 a’i nod yw adfywio twyni tywod ledled Cymru. Bydd yn ail-greu symudiad naturiol yn y twyni ac yn adfywio cynefinoedd sy’n gartref i rai o’n bywyd gwyllt mwyaf prin. Tirweddau gwyllt eiconig yw twyni tywod. Maent yn gynefinoedd sy’n llawn bioamrywiaeth, lle mae carpedi o degeirianau yn dal i oroesi ochr yn ochr â gloÿnnod byw, adar ac amrywiaeth eang o bryfed sydd dan fygythiad.

Bydd y prosiect £4 miliwn, sy’n cael ei arwain gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn adfer mwy na 2400 hectar o dwyni tywod mewn pedair Ardal Cadwraeth Arbennig, ar 10 safle gwahanol yng Nghymru:

Ynys Môn ac Afon Menai- Tywyn Aberffraw; Tywyn Niwbwrch;Morfa Dinlle

Sir Feirionydd-Morfa Harlech;Morfa Dyffryn

Bae Caerfyrddin-Lacharn - Twyni Pendine;Arfordir Pen-bre;Twyni Whiteford;

Pen-y-Bont ar Ogwr-Cynffig;Merthyr Mawr

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y CNC

Merthyr Mawr © Sean McHugh

Afon Dyfrdwy LIFE

Prosiect gwerth £6.8 miliwn yw Prosiect Afon Dyfrdwy LIFE i drawsnewid afon Dyfrdwy a'i dalgylch drwy adfer yr afon a'i hamgylchoedd i'w cyflwr naturiol. Bydd hyn yn dod â sawl mantais i'r amgylchedd, yn benodol gwella niferoedd yr eogiaid, lampreiod a misglod perlog i'w helpu i fod yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol. Afon Dyfrdwy yw'r afon fwyaf yng Ngogledd Cymru ac mae ganddi ddalgylch o fwy na 1,800 km2. Mae'n un o'r afonydd mwyaf rheoleiddiedig yn Ewrop, ac ynghyd â Llyn Tegid, mae wedi'i dynodi’n Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA).

Afon Tryweryn – un o lednentydd Afon Dyfrdwy © CNC

Dathlu Llwyddiant: Gweithredu ar y cyd dros fyd natur yng Nghymru

Mae partneriaethau lleol er lles byd natur yn gweithredu ym mhob ardal yng Nghymru ac maent yn darparu ffocws ar gyfer cyflawni amcanion y Cynllun Adfer Natur a Rheolaeth Gynaliadwy ar Gyfoeth Naturiol ar lefel leol, yn ogystal â chyfrannu at lawer o nodau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r astudiaethau achos hyn yn darparu cipolwg ar amrywiaeth y prosiectau a’r ystod o bartneriaid sy’n ymwneud â gweithredu’n lleol er lles byd natur yng Nghymru.

Dathlu Llwyddiant: Gweithredu ar y cyd dros fyd natur yng Nghymru

Migneit area Llun © IUCN

Adfer gorgorsydd byw yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Y Berwyn a Migneint yng Nghymru

Mae Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Y Berwyn a Mynyddoedd De Clwyd ac ACA Migneint-Arenig-Dduallt yn cynnwys y ddwy ardal fwyaf o orgorsydd yng Nghymru.

Er bod ardaloedd mawr o orgorsydd i’w cael o hyd yng Nghymru, mae’r mwyafrif wedi dirywio oherwydd coedwigaeth, rhywogaethau estron (fel Rhododendron Rhododendron ponticum a Sbriws Sitca Picea sitchensis), gorbori, draenio, a llosgi bwriadol neu ddamweiniol. Yn ystod y 5 mlynedd y bu prosiect Gorgorsydd LIFE ar waith yng Nghymru, cafwyd gwelliannau sylweddol a pharhaol yng nghyflwr gorgorsydd mewn mannau hollbwysig oddi mewn i ddwy ACA yng Ngogledd Cymru.

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt