Cyflwyniad

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn pennu’r gofynion ar gyfer rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol ynghyd â ffyrdd newydd o weithio er mwyn cyflawni hyn. Gwelir bod Rhan 1 Deddf yr Amgylchedd yn pennu dull Cymru o gynllunio a rheoli adnoddau naturiol ar lefel genedlaethol a lleol gyda phwrpas cyffredin sy’n gysylltiedig ag egwyddorion rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol a ddiffinnir yn y Ddeddf.Ceir tair o brif adrannau yn Rhan 1 Deddf yr Amgylchedd:

1. Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR) – Adroddiad a gyhoeddir gan Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n cyflwyno asesiad o adnoddau naturiol a pha mor dda y mae Cymru yn llwyddo i’w rheoli mewn ffordd gynaliadwy

2. Polisi Adnoddau Naturiol – Polisi a lunnir gan Lywodraeth Cymru sy’n pennu’r blaenoriaethau, y risgiau a’r cyfleoedd o safbwynt rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae’r polisi’n ystyried casgliadau’r adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol

3. Datganiadau Ardal – Sylfaen tystiolaeth a gynhyrchir gan Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n helpu i weithredu blaenoriaethau, risgiau a chyfleoedd a bennir yn y Polisi Cenedlaethol a sut y mae CNC yn bwriadu ymdrin â hwy

Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Nod Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yw gwella gwytnwch ein hecosystemau. Mae bioamrywiaeth ac ecosystemau sy’n gweithio’n iawn yn cynnig atebion naturiol sy’n gwella gwytnwch. Yn ei dro, mae hyn yn helpu cymdeithas i greu swyddi, cynnal bywoliaethau a llesiant pobl, addasu i effeithiau niweidiol newid hinsawdd a chyfrannu at ddatblygu cynaliadwy.

Rhan 1 o’r Deddf yr Amgylchedd yn nodi dull Cymru o gynllunio a rheoli adnoddau naturiol ar lefel genedlaethol a lleol gyda phwrpas cyffredinol sy’n gysylltiedig ag egwyddorion statudol rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a ddiffinnir yn y Deddf.

Adran 6 – Y ddyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau

Cyflwynodd Adran 6, Rhan 1, o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ddyletswydd ehangach ar fioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau (dyletswydd A6) ar gyfer awdurdodau cyhoeddus wrth arfer swyddogaethau sy’n berthnasol i Gymru.

Mae dyletswydd A6 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth cyn belled ag y bod hynny’n gyson ag arfer eu swyddogaethau’n briodol, gan hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau wrth wneud hynny.

Adran 6

Adran 7 - Rhestrau bioamrywiaeth a dyletswydd i gymryd camau i gynnal a gwella bioamrywiaeth

Mae’r adran hon yn disodli’r ddyletswydd yn adran 42 o Ddeddf NERC 2006. Bydd Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi, yn adolygu ac yn diwygio rhestrau o organeddau byw a mathau o gynefinoedd yng Nghymru sydd, yn eu barn hwy, yn allweddol er mwyn cynnal a gwella bioamrywiaeth yng Nghymru.

Hefyd, rhaid i Weinidogion Cymru cymryd pob cam rhesymol er mwyn cynnal a gwella’r organeddau byw a’r mathau o gynefinoedd a gynhwysir ar unrhyw restr a gyhoeddir o dan yr adran hon, a annog eraill i gymryd camau o’r fath.

Daeth Rhan 1 o’r Ddeddf, gan gynnwys Adrannau 6 a 7, i rym ar 21 Mai, 2016

Rhywogaethau â blaenoriaeth Adran 7 yng Nghymru (pdf)

Cynefinoedd â blaenoriaeth Adran 7 yng Nghymru (pdf)

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)

Daeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gyfraith ym mis Ebrill 2015 ac mae’n ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Bydd yn gwneud i gyrff cyhoeddus Cymru sydd wedi’u rhestru o dan y Ddeddf feddwl yn fwy am y tymor hir, am sut i weithio’n well gyda phobl a chymunedau a’i gilydd, gan geisio atal problemau a gweithio’n fwy cydlynol.

I helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni’r un weledigaeth, mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant. Mae cyfres o Ddangosyddion Cenedlaethol sy’n gysylltiedig â’r nodau wrthi’n cael eu datblygu i helpu i fesur a ydym yn cyflawni’r nodau yn cynnwys nod Cymru Gydnerth.

Nod Cymru Gydnerth

Nod Cymru Gydnerth

‘Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd).’

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cydnabod pwysigrwydd natur a’i fioamrywiaeth. Bydd nod Cymru Gydnerth yn helpu i gyflawni amcanion adfer natur yng Nghymru.

Mae’r Ddeddf yn sefydlu swydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol statudol i Gymru i gefnogi’r cyrff cyhoeddus a restrwyd yn y Ddeddf i weithio tuag at gyflawni’r nodau llesiant.

Mae’r Ddeddf hefyd yn sefydlu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Mae’r rhain yn gyfrifol am wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardal drwy weithio i gyflawni’r nodau llesiant.

  1. Rhywogaethau â blaenoriaeth Adran 7 yng Nghymru (pdf)

Rhestr o’r organeddau byw o’r pwysigrwydd pennaf at ddiben cynnal a gwella bioamrywiaeth mewn perthynas â Chymru.

  1. Cynefinoedd â blaenoriaeth Adran 7 yng Nghymru (pdf)

Rhestr o gynefinnoedd o’r pwysigrwydd pennaf at ddiben cynnal a gwella bioamrywiaeth mewn perthynas â Chymru.

  1. Canllawiau ar gyfer Adran 6 – Y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt