Mae mentro allan i’r awyr agored a dod i gysylltiad â natur yn hawdd. Gwirfoddoli mewn gwarchodfa natur, garddio er budd bywyd gwyllt, ymuno â grŵp natur lleol neu fynd am dro – mae’r rhain i gyd yn ffyrdd o ddod i gysylltiad â natur a’r awyr agored.
Daw gwirfoddolwyr ag amrywiaeth eang o sgiliau gyda nhw. Mae gwirfoddolwyr yn llysgenhadon dros natur, gan helpu i ledaenu’r gair am lefydd arbennig byd natur.
Does dim rhaid i chi fod yn arbenigwr ar fywyd gwyllt i roi help llaw - pa bynnag sgiliau sydd gennych, neu pa agwedd bynnag sydd o ddiddordeb i chi, mae yna rywbeth at ddant pawb! Trwy wirfoddoli, gallwch gyfarfod â llu o bobl, yn ogystal â chael hwyl a chyfrannu at warchod ein bywyd gwyllt. Er enghraifft, gallwch faeddu’ch dwylo trwy glirio rhedyn ar warchodfa natur, neu gynorthwyo gydag arolygon cynefinoedd a rhywogaethau. Os yw’n well gennych aros dan do, gallwch helpu’ch sefydliad i gofnodi data, ysgrifennu adroddiadau, codi arian neu helpu gyda gwaith allgymorth.
Mae’r ddolen gyswllt Gwirfoddoli yng Nghymru yn rhestru’r holl gyfleoedd sydd ar gael i wirfoddoli. Wedi’u rhestru yn ôl ardaloedd y Gogledd, y De a’r Canolbarth, rydych chi’n siŵr o ddod o hyd i sefydliad amgylchedd gwirfoddol addas!
llun - Gwirfoddolwyr yn Nôl Cwm Ivy, rhan o Brosiect Dolydd Sir Gaerfyrddin
Mae chwilio am arian a gwneud cais am gymorth ariannol yn dipyn o gamp. Fel arfer, mae gan Bartneriaethau Natur Lleol gronfa ddata go gynhwysfawr o sefydliadau ariannu a chyfoeth o brofiad o wneud cais am arian. Mae’r adran gyfeirio hon yn rhestru’r ffynonellau ariannu posibl a’r dolenni perthnasol i adnoddau ar y we sy’n cynnwys cyngor ar ddod o hyd i arian cyfatebol a llenwi ffurflenni cais.
Mae angen gweithio mewn partneriaeth er mwyn datblygun cynlluniau a pholisiau amgylcheddol, a chyfraniad gan amrywiaeth eang o sefydliadau er mwyn sicrhau dull cytbwys.
Mae’r dolenni ar y chwith yn amlinellu’r ymgynghoriadau amgylcheddol a chynllunio presennol a gwybodaeth am ymgynghoriadau blaenorol.
Mae byd busnes yn dibynnu ar fioamrywiaeth. Mae’n helpu i sefydlogi’r hinsawdd a chyflenwi aer a dŵr glân, gwasanaethau sy’n hanfodol ar gyfer amgylchedd gweithredu sefydlog. Mae’n darparu deunyddiau crai, technoleg a chyfleoedd busnes. Mae llawer o resymau pam y dylai busnesau ymgysylltu â bioamrywiaeth yn cynnwys cydymffurfio â’r gyfraith, cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, gwella enw da a chadw staff.
Llun © Anesco