Mae Caru Gwenyn (Bee Friendly) yn fenter sydd wedi'i hanelu at gymunedau a sefydliadau cymunedol, ysgolion, cyrff cyhoeddus, cynghorau tref a chymuned, busnesau, prifysgolion a cholegau, addoldai a llawer o sefydliadau eraill ledled Cymru.
Hyd y gwyddom, dyma’r cynllun cenedlaethol cyntaf o’i fath a’i amcan yw gwneud Cymru’n wlad sy’n caru pryfed peillio.
Er mai ‘Caru Gwenyn’ yw enw’r cynllun, rydyn ni am i bobl helpu ein holl bryfed peillio ac nid gwenyn yn unig.
P’un a ydych yn rhan o’r cynllun Caru Gwenyn, yn aelod o’r un o lawer o fudiadau sy’n ein cefnogi neu’n unigolyn sy’n poeni am y ddaear, ystyriwch beth allwch chi ei wneud i greu byd sy ychydig bach yn wyrddach – darllenwch Ganllaw Gweithredu Caru Gwenyn.
Mae gwenyn, gloÿnnod byw a pheillwyr eraill yn rhan hanfodol o'n hamgylchedd. Oherwydd amrywiaeth o ffactorau, mae'r niferoedd wedi dirywio ac mae peillwyr bellach mewn trafferth. Y newyddion da yw y gallwch chi helpu. Bydd dod yn Gyfeillgar i Wenyn yn rhoi i beillwyr yr hyn sydd ei angen arnynt i oroesi a ffynnu, a thrwy weithio gydag eraill gallwn wneud Cymru yn wlad gyfeillgar i beillwyr.