Caiff gwaith PBC ei gyfarwyddo gan Grŵp Gweithredu’r Cynllun Adfer Natur a’r grwpiau gorchwyl a gorffen cysylltiedig, ynghyd â gweithgorau eraill. Datblygiad diweddar ydyw ac mae’n adeiladu ar brosiectau a gweithgorau blaenorol PBC – rhestrir detholiad o’r rhain isod.
Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru yn cyfrannu at y nod o geisio cyrraedd targedau byd-eang, Ewropeaidd a chenedlaethol ar gyfer bioamrywiaeth ac ecosystemau. Mae rôl Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru yn canolbwyntio ar:
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i nod uchelgeisiol: diogelu 30% o'n tir, dŵr croyw a'n moroedd erbyn 2030. Mae'r targed hwn yn rhan o'r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang (GBF) ac mae'n gam hanfodol tuag at fynd i'r afael â heriau amgylcheddol dybryd, gan gynnwys colli bioamrywiaeth a newid yn yr hinsawdd.
Trwy ddiogelu ac adfer cynefinoedd naturiol, ein nod yw creu ecosystem wydn a ffyniannus yng Nghymru sydd o fudd i natur a phobl. Drwy feithrin cydweithio ymhlith cymunedau lleol, sefydliadau cadwraeth a llunwyr polisi, ein nod yw sicrhau bod ein bioamrywiaeth gyfoethog yn cael ei ddiogelu a'i wella ar gyfer llesiant cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
Roedd yr Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth, sy'n canolbwyntio ar gamau weithredu, yn archwilio cynnydd Cymru o ran cyflawni'r targed 30 erbyn 30. Datblygwyd cyfres o gamau gweithredu ar y cyd i gefnogi adferiad natur yng Nghymru.
Ym mis Gorffennaf 2024, cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Ddatganiad Ysgrifenedig yn amlinellu'r cynnydd ar gamau’r Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth.
Mwy o wybodaeth yma
River Wye
Caiff Cynhadledd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru ei chynnal bob blwyddyn er mwyn cefnogi, addysgu a hyrwyddo gweithgarwch bioamrywiaeth yng Nghymru. Cynhelir cynhadledd eleni ar 3-7 2022 Hydref
Mae PBC yn cydgysylltu wythnos o ddigwyddiadau bob blwyddyn ym mis Mehefin/Gorffennaf er mwyn dathlu amrywiaeth ein bywyd gwyllt a’n cynefinoedd. Cynhelir y digwyddiadau di-dâl ar hyd a lled Cymru, gan ysbrydoli, addysgu a galluogi’r cyhoedd i ofalu am fywyd gwyllt eu milltir sgwâr.