Beth yw Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru?

Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru (PBC) yn dod â’r prif gyfranwyr o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol at ei gilydd i hyrwyddo a monitro camau gweithredu yn ymwneud â bioamrywiaeth a’r ecosystem yng Nghymru.

Llywodraethu Bioamrywiaeth yng Nghymru

Mae Grŵp Gweithredu’r Cynllun Adfer Natur, a gaiff ei gadeirio gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig cyfeiriad cyffredinol ar gyfer gweithgareddau Cynllun Adfer Natur Cymru. Mae gan y grŵp aelodaeth eang o Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, y trydydd sector amgylcheddol a sefydliadau eraill yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Mae’r Cynllun Adfer Natur yn nodi sut y byddwn yn mynd i’r afael â Chynllun Strategol Bioamrywiaeth y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol a’r Targedau Bioamrywiaeth Aichi cysylltiedig yng Nghymru. Dyma Strategaeth Bioamrywiaeth Genedlaethol a Chynllun Gweithredu Cymru. Dogfen fyw yw hi ac mae gan bawb sy’n ymwneud â’r maes gyfrifoldeb i’w hadolygu a’i diweddaru wrth i bolisïau a blaenoriaethau esblygu dros amser.

Mae’r Cynllun Adfer Natur wedi’i gynhyrchu gan Fwrdd Strategaeth Bioamrywiaeth Cymru, ac mae aelodau’r bwrdd yn cynrychioli rheolwyr tir a môr, Cyfoeth Naturiol Cymru, y trydydd sector amgylcheddol, awdurdodau lleol, Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru. Cynllun i bawb yng Nghymru yw hwn.

Rhwydwaith Ehangach PBC

Prif nod y rhwydwaith ehangach yw darparu cyngor ac arbenigedd i’r grŵp llywio, ymateb a dylanwadu ar y broses benderfynu a chyfrannu at weithgarwch bioamrywiaeth yng Nghymru. Prif nod y rhwydwaith ehangach yw darparu cyngor ac arbenigedd a dylanwadu ar benderfyniadau a chyfrannu at weithgarwch bioamrywiaeth yng Nghymru.

Tîm Cymorth PBC

Mae angen digon o gymorth ar Bartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru i sicrhau bod y strwythur yn gweithio’n llawn er mwyn manteisio i’r eithaf ar waith partneriaeth. Mae Tîm Cymorth PBC yn cynnwys dau swyddog llawn amser a gyflogir gan CNC a chymorth gan staff Cangen Bioamrywiaeth a Cadwriaeth Natur Llywodraeth Cymru.

Aelodaeth

Gall pawb yng Nghymru helpu i wella bioamrywiaeth ac ecosystemau a sicrhau bod yr amgylchedd naturiol y mae pob un ohonom yn dibynnu arno yn rhan annatod o’n bywydau bob dydd. Ni chodir tâl i fod yn aelod o’r bartneriaeth ehangach a gall unrhyw sefydliad neu unigolyn sydd â diddordeb mewn diogelu a gwella bioamrywiaeth ac ecosystemau ymaelodi. Os hoffech chi wybod mwy am y bartneriaeth ac ymaelodi â’r bartneriaeth ehangach, cysylltwch â ni

Cefndir Hanesyddol

Cafodd Grŵp Llywio PBC ei ddiddymu’n ffurfiol ac ysgwyddodd Bwrdd Strategaeth Bioamrywiaeth Cymru a gweithgorau PBC y rhaglen waith. Lluniwyd y Cynllun Adfer Natur gan Fwrdd Strategaeth Bioamrywiaeth Cymru ac mae aelodau’r bwrdd yn cynrychioli rheolwyr tir a môr, Cyfoeth Naturiol Cymru, y trydydd sector amgylcheddol, awdurdodau lleol, Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru. Bwrdd Strategaeth Bioamrywiaeth Cymru a oedd yn gyfrifol am ddatblygu Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru. Mae’r gwaith hwn wedi’i drosglwyddo bellach i Grŵp Gweithredu’r Cynllun Adfer Natur.

Gan fod bioamrywiaeth yn bwnc sydd wedi’i ddatganoli, bydd pob un o bedair gwlad y DU yn gweithio i fynd i’r afael â nodau a thargedau’r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol a rhai’r Undeb Ewropeaidd yn eu tiriogaeth eu hunain. Mae’r gwaith a wnaed o’r blaen dan Gynllun Gweithredu’r DU ar Fioamrywiaeth bellach wedi’i ganolbwyntio ar lefel y gwledydd (Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban). Mae llawer o’r offer a ddatblygwyd dan Gynllun Gweithredu’r DU ar Fioamrywiaeth yn dal i gael eu defnyddio; er enghraifft, gwybodaeth gefndir am y rhestrau o gynefinoedd a rhywogaethau â blaenoriaeth. Serch hynny, mae'r rhestrau hyn bellach yn cael eu cadw a’u diweddaru ar wahân ym mhob gwlad. Yng Nghymru, y rhestrau cyfredol yw’r rheini dan Adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymru).

Mae Fframwaith Bioamrywiaeth y DU yn dangos sut y mae gwaith pedair gwlad y DU yn cydgysylltu â gwaith ar lefel y DU i gyflawni Targedau Bioamrywiaeth Aichi a nodau Strategaeth Bioamrywiaeth yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n nodi’r gweithgareddau sy’n ofynnol er mwyn ategu strategaethau bioamrywiaeth y gwledydd, a’r mannau hynny lle y mae gwaith yn strategaethau'r gwledydd yn cyfrannu at gyflawni rhwymedigaethau rhyngwladol. Mae cyfanswm o 23 o feysydd gwaith wedi’u pennu lle y mae’r gwledydd i gyd wedi cytuno eu bod yn dymuno cyfrannu at ffocws parhaus yn y DU ac elwa ohono, a chyhoeddwyd Cynllun Gweithredu ym mis Tachwedd 2013. Adroddir bob blwyddyn am gynnydd y Cynllun Gweithredu, ac mae’r adroddiadau i’r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol hefyd yn cael eu cydgysylltu ar lefel y DU.

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt