Bioamrywiaeth yw'r amrywiaeth o fywyd sydd ar y ddaear. Mae'n cynnwys pob rhywogaeth o blanhigion ac anifeiliaid, eu helaethrwydd a'u hamrywiaeth genetig. Mae'n cynnwys rhyfeddodau bywyd gwyllt a rhywogaethau a chynefinoedd eiconig; mae'n hanfodol er mwyn cysylltu pobl â natur; ac mae'n cyfrannu at lesiant cymdeithas, ei hymdeimlad o le a'i hunaniaeth ddiwylliannol.
Mae bioamrywiaeth yn sail i'n bywydau a'n bywoliaeth ac mae'n cefnogi’r ffordd y mae ecosystemau'n gweithio a'u cydnerthedd mewn cefnforoedd, gwlypdiroedd, llynnoedd, afonydd, mynyddoedd, coedwigoedd a thirweddau amaethyddol.
Mae ein heconomi, ein hiechyd a'n llesiant yn dibynnu ar ecosystemau iach a chydnerth, sy'n rhoi ein bwyd inni, dŵr ac aer glân, y deunyddiau crai a'r ynni ar gyfer ein diwydiannau ac mae’r ecosystemau hyn yn ein diogelu rhag peryglon, megis llifogydd a newid yn yr hinsawdd.
Bywyd gwyllt y môr – mae amgylchedd morol cyfoethog i’w gael ym Mae Ceredigion ac mae’r lle’n doreithiog o fywyd gwyllt. Drwy gydol y flwyddyn mae dolffiniaid trwyn potel, llamidyddion, morloi llwyd ac adar amrywiol i’w gweld yn rheolaidd.
Mae gan Gymru 20 o Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ar gyfer adar bregus a 92 o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ar gyfer rhywogaethau prin a chynefinoedd naturiol dan fygythiad. Gyda'i gilydd, maen nhw'n cael eu galw’n Natura ac, ynghyd ag ardaloedd ledled Ewrop, maen nhw’n ffurfio rhwydwaith cadwraeth heb ei hail sydd o bwysigrwydd rhyngwladol ar gyfer bywyd gwyllt. Mae rhwydwaith Natura 2000 Cymru’n cynnwys mwy na 700,000 hectar (7% o ardal tir Cymru a 36% o ddyfroedd tiriogaethol).
Rhaglen Natura 2000 LIFE yng Nghymru
Pam nad ewch am dro i Warchodfa Natur Genedlaethol? Dyma rai syniadau:
Eryri – cartref i blanhigion arctig-alpaidd a mathau eraill o blanhigion prin.
Morfa Harlech a Morfa Dyffryn– rhan o’r system twyni sy’n ymestyn o Aber Mawddach ar hyn glannau Bae Ceredigion. Lle hardd i fynd am dro, a chartref i greaduriaid di-asgwrn-cefn a phlanhigion cenedlaethol anfynych.
Corsydd mawn Cors Caron yng Ngheredigion, lle mae’r planhigion wedi addasu i’r amodau asidaidd – er enghraifft y gwlithlys, andromeda’r gors a phlu’r gweunydd.
Arfordir Gŵyr– caiff ei reoli gan Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae clogwyni calchfaen ac ynys lanwol Pen Pyrod yn doreithiog o blanhigion, yn arbennig tua diwedd y gwanwyn a dechrau’r haf. Mae’r adar sy’n nythu yma’n cynnwys gwylanod coesddu, gwylogod, llursod, ac weithiau hebogiaid tramor a brain coesgoch.
Ynys Sgomer, Sir Benfro – trysor o ynys sy’n ferw o fywyd gwyllt ac yn llawn nythfeydd adar môr.
Mae Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Cymru yn rhoi cyfle inni hamddena, ymlacio, mwynhau’r golygfeydd godidog ac ymddiddori mewn bywyd gwyllt. Dyma leoedd byw a gweithiol lle ceir cymunedau gwledig gweithgar.
Yng Nghymru ceir tri o Barciau Cenedlaethol (Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro) a phump AHNE (Ynys Môn, Bryniau Clwyd, Gŵyr, Pen Llŷn, a rhennir un AHNE gyda Lloegr, sef Dyffryn Gwy).
Mewn Gwarchodfeydd Natur Lleol ceir nodweddion naturiol sydd o ddiddordeb arbennig yn lleol ac sydd hefyd yn cynnig cyfle i bobl astudio byd natur, dysgu amdano neu ei fwynhau. Mae nifer o awdurdodau lleol wedi dynodi Gwarchodfeydd Natur Lleol. Ceir cyfanswm o 62 ohonynt yng Nghymru, ac mae’r rhain yn werthfawr i bobl a bywyd gwyllt fel ei gilydd.
Natur Cymru
Mae ôl-rifynnau cylchgrawn Natur Cymru - Nature of Wales a roddodd y gorau i gyhoeddi yn 2017, bellach ar gael fel lawrlwythiadau digidol rhad ac am ddim o ‘The Biodiversity Heritage Library’
Mae’r rhan fwyaf o’r 62 ôl-rifyn ar gael yn barod a bydd y gweddill ar gael yn y dyfodol agos. Mae’r cylchgrawn yn ffynhonnell gyfoethog o wybodaeth ac yn werthfawrogiad o rywogaethau a chynefinoedd eiconig Cymru.
Yn yr Asesiad Ecosystemau Cenedlaethol y DU gwelwyd bod newidiadau o ran arferion rheoli tir, yn sgil amaethyddiaeth a threfoli, llygredd a rhywogaethau estron goresgynnol, ac mai dyma rhai o'r prif ddylanwadau sy'n arwain at golli cynefinoedd a rhywogaethau ac at eu darnio. Ynghyd ag asideiddio ac ewtroffigedd, mae hyn wedi newid nifer ac ansawdd y cynefinoedd a'r rhywogaethau y gallant eu cynnal. Yn yr amgylchedd morol, ymhlith y dylanwadau mwyaf, mae gweithgarwch anghynaliadwy gan bobl, newid yn yr hinsawdd sy'n arwain at gynhesu ac asideiddio moroedd a chefnforoedd y byd, ynghyd â chyflwyno rhywogaethau estron goresgynnol.
Parc Gwledig mewn dyffryn calchfaen yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd yw Parc Gwledig Loggerheads. Mae mwyngloddio a thwristiaeth yn bwysig yn ei hanes. Caiff y Parc ei reoli hefyd er budd cadwraeth, ac mae’n cynnwys cynefinoedd naturiol toreithiog ac amrywiol.
Parc Gwledig Lynnoedd Cosmeston ceir amrywiaeth o gynefinoedd sy’n gorchuddio 100 hectar o dir a môr, ynghyd ag amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid. Mae Cosmeston yn gyflwyniad da i gefn gwlad, ac mae ar agor drwy gydol y flwyddyn. Yn ystod misoedd y gaeaf, cofiwch chwilio am y titw barfog.
Coedwig brysgoedio led-naturiol hynafol a reolir mewn modd traddodiadol yw Coedwig Croes Robert. Planhigion sy’n nodweddiadol o goetiroedd hynafol a welir yno’n bennaf. Yn ystod y gwanwyn mae clychau’r gog, bresych y cŵn, blodau’r gwynt a marddanadl melyn yn ffurfio carpedi o liw. Ac yn ystod yr hydref mae modd dod o hyd i ffyngau fel Peli Duon, Cyrn Gwyn a Ffiol y Coed. Ymhellach, mae pathewod a moch daear yn byw yno, ac yn ystod yr haf efallai y gwelwch eos, ynghyd ag adar eraill y coetir.