Cyflwyniad

Mae pryfed peillio yn elfen hanfodol o amgylchedd Cymru. Mae gwenyn mêl a phryfed peillio gwyllt, gan gynnwys cacwn, gwenyn unig, gwenyn meirch parasitig, pryfed hofran, gloÿnnod byw a gwyfynod a rhai chwilod, yn beillwyr pwysig ar draws amrywiaeth eang o gnydau a blodau gwyllt ac yn helpu i wella cynhyrchiant systemau pori ar gyfer pori da byw. Mae ugain y cant o arwynebedd cnwd y DU yn cynnwys cnydau sy'n ddibynnol ar beillwyr ac mae gwerth pryfed peillio i amaethyddiaeth y DU yn fwy na £690,000,000 y flwyddyn. Mae gwerth y mêl sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru hefyd yn sylweddol, gyda gwerth cyfanwerthol o dros 2 filiwn o bunnoedd yn 2011. Yn 2017, roedd 3,366 o wenynwyr wedi'u cofrestru yng Nghymru.

Mae pryder cynyddol wedi bod ynghylch statws poblogaeth pryfed peillio, ac yn ei dro y gwasanaeth peillio maent yn ei ddarparu. Fel y rhan fwyaf o feysydd eraill bioamrywiaeth, y prif fygythiadau i beillwyr yw colli cynefin, llygredd amgylcheddol, newid hinsawdd a lledaeniad rhywogaethau estron.

Pollinator

Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Pryfed Peillio

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio â'r diwydiant a rhanddeiliaid i edrych yn fanylach ar y dystiolaeth a'r materion sy'n ymwneud â phryfed peillio a'u cadwraeth yng Nghymru. Yn dilyn ymgynghoriad, yn 2013, lansiwyd ' Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Pryfed Peillio' a oedd yn pennu'r weledigaeth strategol, y canlyniadau a'r meysydd gweithredu er mwyn atal a gwrthdroi dirywiad pryfed peillio yng Nghymru. Mae Tasglu Pryfed Peillio, sy'n cynnwys rhanddeiliaid allweddol, yn weithredol erbyn hyn.

Yn 2018, diweddarwyd Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Pryfed Peillio gan aelodau'r Tasglu Pryfed Peillio. Mae nod cyffredinol y Cynllun Gweithredu hwn yn parhau'n berthnasol, fodd bynnag roedd angen adolygiad i ddiweddaru'r camau gweithredu er mwyn adlewyrchu ; y fenter Caru Gwenyn, Cynllun Monitro Pryfed Peillio Cenedlaethol y DU, polisi iechyd gwenyn sy'n ystyried y risgiau yn dilyn achosion o Gacwn Asia, y gwaith parhaus a gwaith newydd gan aelodau'r Tasglu Pryfed Peillio a gofynion newydd sy'n deillio o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.


Cynllun Gweithredu ar gyfer Beillwyr: Adolygiad 2013-18 a Gweithredoedd y Dyfodol


Caru gwenyn

Caru Gwenyn

Mae Caru Gwenyn (Bee Friendly) yn fenter sydd wedi'i hanelu at gymunedau a sefydliadau cymunedol, ysgolion, cyrff cyhoeddus, cynghorau tref a chymuned, busnesau, prifysgolion a cholegau, addoldai a llawer o sefydliadau eraill ledled Cymru.

Hyd y gwyddom, dyma’r cynllun cenedlaethol cyntaf o’i fath a’i amcan yw gwneud Cymru’n wlad sy’n caru pryfed peillio.

Er mai ‘Caru Gwenyn’ yw enw’r cynllun, rydyn ni am i bobl helpu ein holl bryfed peillio ac nid gwenyn yn unig.

P’un a ydych yn rhan o’r cynllun Caru Gwenyn, yn aelod o’r un o lawer o fudiadau sy’n ein cefnogi neu’n unigolyn sy’n poeni am y ddaear, ystyriwch beth allwch chi ei wneud i greu byd sy ychydig bach yn wyrddach – darllenwch Ganllaw Gweithredu Caru Gwenyn.

  1. Caru Gwenyn - Taflen
  2. Caru Gwenyn - Canllaw Gweithredu
  3. Caru Gwenyn - Canllaw Gweithredu (fersiwn ddu a gwyn y gellir ei hargraffu)
  4. Caru Gwenyn - Ffurflen Gais
  5. Caru Gwenyn - Cwestiynau Cyffredin
  6. Hyrwyddwyr - Caru Gwenyn
  7. Rhestr Awgrymedig o Blanhigion ar Gyfer Pryfed Peillio
  8. Arolwg 'Polli:Nation'
  9. Rheoli tir adeiladau cyhoe ddus ar gyfer pryfed peillio


Cafodd diweddariad ar gynnydd Cynllun Gweithredu ar gyfer Pryfed Peillio ei grynhoi gan y gweithlu mewn cyfres o graffigau gwybodaeth y gellir eu lawrlwytho.

  1. Rheoli ymylon ffyrdd er lles bywyd gwyllt
  2. Rheoli ymylon ffyrdd er lles bywyd gwyllt
  3. Rheoli ymylon ffyrdd er lles bywyd gwyllt

Gwaith Arall ar Beillwyr

Cynllun Monitro Peillwyr y DU

Mae Cynllun Monitro Peillwyr y DU (PoMS) wedi sefydlu dau arolwg newydd ar raddfa eang. Er mwyn canfod sut y gallwch gymryd rhan a’n helpu i olrhain newidiadau yn niferoedd peillwyr ewch i: https://www.ceh.ac.uk/our-science/projects/pollina...

PoMS yw’r unig gynllun yn y byd sy’n cynhyrchu data systematig ar amlder gwenyn, pryfed hofran a phryfed eraill sy’n ymweld â blodau ar raddfa genedlaethol (ar hyn o bryd drwy Gymru, Lloegr a’r Alban). Yn ogystal â chofnodion digwyddiadau hir dymor a gasglwyd gan Gymdeithas Cofnodi Gwenyn, Gwenyn Meirch a Morgrug a’r Cynllun Cofnodi Pryfed Hofran, bydd y data hwn yn ffurfio adnodd cwbl hanfodol y gallwn ei ddefnyddio i fesur tueddiadau ym mhoblogaethau peillwyr a thargedu ein hymdrechion cadwraethol.

Caru Natur Cymru

Mae Caru Natur Cymru yn brosiect tair blynedd gwerth £1filiwn sy’n cael ei ariannu gan y Cynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles yng Nghymru (ENRaW). Byddwn yn cynyddu lles pobl, bywyd gwyllt a’r amgylchedd ledled Cymru, gan ddefnyddio tri phecyn gwaith cysylltiedig (Mannau Ysbrydoledig, Glaswelltiroedd am Oes a Phlanhigion ar gyfer Pobl). Byddwn yn creu grwpiau o wirfoddolwyr sy’n gweithio ar bob agwedd ar ein prosiect ac yn defnyddio ymwneud cyhoeddus mewn ffordd arloesol, gan gynnwys celf a VR, i gysylltu pobl â’u treftadaeth naturiol. Byddwn yn gwella seilwaith gwyrdd yn y mannau lle gall pobl gael y budd mwyaf ohono.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: https://garddfotaneg.cymru/science/biophilic-wales...

Magnificent Meadows

Prosiect yw Magnificent Meadows i achub gweirgloddiau blodeuog sy’n prysur ddiflannu yng Nghymru. Mae Cymru wedi colli 97% o’i gweirgloddiau blodeuog ers y 1930au, ond drwy’r prosiect newydd hwn, sydd o dan arweiniad Plantlife, bydd elusennau a chymunedau ledled Cymru yn dod at ei gilydd i drawsnewid dyfodol ein gweirgloddiau sy’n diflannu.

Ariennir y prosiect gan Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles, a ariennir yn ei dro drwy: Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: https://www.plantlife.org.uk/wales/about-plantlife...

Cafodd Natur Wyllt

Cafodd Natur Wyllt ei ariannu drwy gronfa Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru dan fesur LEADER Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 – 2020. Roedd y prosiect yn canolbwyntio ar dref Trefynwy tan fis Mehefin 2020. Cafodd ei arwain gan Gyngor Tref Trefynwy mewn partneriaeth â Bees for Development a Transition Monmouth.

Nod y prosiect yw codi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu â phobl tref Trefynwy ynglŷn â’r angen i helpu’r holl beillwyr, pam y maen nhw’n bwysig a beth y gellir ei wneud i’w helpu.

Dyma rai o’r adnoddau a gynhyrchwyd:

·Llawlyfr hyfforddi a thaflen eglurhaol i grwpiau sy’n torri glaswellt.

·Canllaw planhigion tymhorol ar gyfer Peillwyr Rhan 1 a Rhan 2

Canllaw i Brosiectau Peillwyr Tref Trefynwy

Urban meadow

Dôl drefol

Planting a Butterfly Border

Plannu border glöynnod byw yn Ysgol Gynradd Mynwy

Hoverfly

Pryf hofran (Xylota sylvarum)

Lleiniau Ymyl y Ffordd

Cynhaliodd y Tasglu Pryfed Peillio ddwy seminar ar leiniau ymyl ffordd yn ddiweddar i ategu’r seminarau a gynhaliwyd yng ngwanwyn 2014. Prif amcanion y seminarau oedd hyrwyddo rheolaeth dda o leiniau ymyl y ffordd er budd peillwyr. Os cânt eu rheoli’n dda, gall lleiniau ymyl y ffordd gynnig hafan ar gyfer bywyd gwyllt sy’n cynnal peillwyr ac infertebrata eraill, blodau gwyllt a gweiriau yn ogystal â gweithredu fel ‘coridorau bywyd gwyllt’ ar gyfer sawl rhywogaeth arall gan gynnwys mamaliaid, ymlusgiaid ac amffibiaid.

Cyflwyniadau Seminar Lleiniau Ymyl y Ffordd 2017

  1. Buglife – Helpu Pryfed Peillio yn Lleol yng Nghymru (Saesneg yn unig)
  2. Cyngor Sir Fynwy – Cynnal a Chadw Lleiniau Priffyrdd (Saesneg yn unig)
  3. Cyngor Swydd Dorset – Dull newydd o reoli lleiniau priffyrdd (Saesneg yn unig)
  4. Plantlife – Blodau’r Ymylon (Saesneg yn unig)
  5. Llywodraeth Cymru – Menter ‘Lleiniau Ymyl Ffordd er budd Blodau Gwyllt’ y Gyfarwyddiaeth Drafnidiaeth (Saesneg yn unig)
  6. Llywodraeth Cymru – Rheoli lleiniau ymyl ffordd (Saesneg yn unig)


Cyflwyniadau Seminar Lleiniau Ymyl y Ffordd 2014

  1. “Cyfuno”: newid deunydd organaidd (tocion) yn fiodanwydd storadwy Rachel Smith, Colin Keyse (Saesneg yn unig)
  2. Peillio ac anifeiliaid ymylon ffyrdd Clare Dinham, Buglife (Saesneg yn unig)
  3. Buddion gwasanaeth ecosystem ymylon ffyrdd Shaun Russell, Canolfan Ymchwil Amgylcheddol Cymru (Saesneg yn unig)
  4. Planhigion ymylon ffyrdd yng Nghymru Stuart Smith, Cyfoeth Naturiol Cymru (Saesneg yn unig)
  5. Peilliwyr ac ymylon ffyrdd yng Nghymru Mike Howe, CNC (Saesneg yn unig)
  6. Rheoli ymylon ffyrdd cadwraethol ar Ynys Môn Jane Rees, Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru (Saesneg yn unig)
  7. Rheoli ymylon ffyrdd ar gyfer bioamrywiaeth: golwg cyffredinol a oes trefn orau? John Hambrey, Hambrey Consulting (Saesneg yn unig

Gydag ymholiadau am waith Grŵp Pryfed Peillio Cymru, cysylltwch:

Cangen Bioamrywiaeth a Chadwraeth Natur
Is-adran Tir, Natur a Choedwigaeth
Yr Adran Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Llywodraeth Cymru
Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth, Ceredigion SY23 3UR

Email: gwarchodnatur@llyw.cymru

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt