Defnyddir y term amrywiaeth fiolegol – neu fioamrywiaeth – i ddisgrifio holl amrywiaeth bywyd ar y Ddaear. Fe’i diffinnir yn nhermau genynnau, rhywogaethau ac ecosystemau sy’n ganlyniad dros 3,000 miliwn o flynyddoedd o esblygiad. Mae’n cyfeirio at yr amrywiaeth eang o ecosystemau ac organebau byw: anifeiliaid, planhigion, eu cynefinoedd a’u genynnau. Mae’r rhywogaeth ddynol yn dibynnu ar amrywiaeth fiolegol er mwyn goroesi. Felly, mae’r term bioamrywiaeth yn gyfystyr â ‘bywyd ar y Ddaear’.Bioamrywiaeth yw sylfaen bywyd ar y Ddaear. Mae’n hanfodol i weithgarwch ecosystemau sy’n darparu cynhyrchion a gwasanaethau na allem fyw hebddynt. Mae ocsigen, bwyd, dŵr ffres, pridd ffrwythlon, meddyginiaethau, lloches, diogelwch rhag stormydd a llifogydd, hinsawdd sefydlog a hamdden i gyd yn tarddu o fyd natur ac ecosystemau iach. Ond mae bioamrywiaeth yn rhoi llawer mwy i ni. Rydym yn dibynnu arni am ein diogelwch a’n hiechyd; mae’n cael effaith fawr ar ein cysylltiadau cymdeithasol ac yn rhoi rhyddid a dewis i ni. Mae bioamrywiaeth yn fwy cymhleth, dynamig ac amrywiol nag unrhyw nodwedd arall o’r Ddaear. Mae planhigion, anifeiliaid a microbau di-rif bioamrywiaeth yn uno’r atmosffer (y gymysgedd o nwyon o gwmpas y Ddaear), y geosffer (darn soled y Ddaear) a’r hydrosffer (dŵr, iâ ac anwedd dŵr y Ddaear) mewn ffordd ffisegol a chemegol nes creu un system amgylcheddol sy’n cynnal miliynau o rywogaethau, gan gynnwys pobl. Ar yr un pryd, nid oes unrhyw nodwedd arall o’r Ddaear wedi’i dylanwadu cymaint gan weithgareddau dyn. Trwy newid bioamrywiaeth rydym yn cael effaith fawr ar les pobl a lles pob creadur byw arall. Mae tua 1.7 miliwn o rywogaethau wedi’u nodi hyd yn hyn. Fodd bynnag, nid oes sicrwydd faint yn union o rywogaethau sy’n bodoli ar y Ddaear ar hyn o bryd. Mae amcangyfrifon yn amrywio o bum miliwn i 100 miliwn.
Nod Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yw gwella gwytnwch ein hecosystemau. Mae gan fioamrywiaeth werth cynhenid ac mae’n destun rhyfeddod i nifer ohonom. Mae bioamrywiaeth yn sail i wytnwch ecosystemau a rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol. Mae bioamrywiaeth ac ecosystemau gwydn, gyda’u cynefinoedd a’u rhywogaethau gwahanol, yn cynnig atebion naturiol sy’n cynnal llesiant pobl ac yn helpu i addasu i effeithiau niweidiol newid hinsawdd.
O ystyried y rhesymau pwerus hyn, mae angen inni warchod a chyfoethogi bioamrywiaeth ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Caiff camau gweithredu er budd bioamrywiaeth ac ecosystemau eu hamlinellu yn y Cynllun Gweithredu Adfer Natur. Cyflawnir y cynllun ar y cyd gan gyrff cyhoeddus, sefydliadau’r sector gwirfoddol, unigolion a grwpiau cymunedol.
Mae’r Cynllun Gweithredu Adfer Natur yn cysylltu â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ac yn eu hategu.
Bioamrywiaeth yw canlyniad gwych tri biliwn o flynyddoedd o esblygiad.
Mae bioamrywiaeth yn disgrifio’r holl bethau byw ar ein planed.
Bioamrywiaeth yw sylfaen yr ecosystemau sy’n rhoi buddion amrywiol i ni fel bwyd, dŵr ac aer glân yn ogystal â buddion diwylliannol ac iechyd sy’n cael eu rhoi am ddim i ni gan fyd natur.
Mae bioamrywiaeth yn sail i amgylchedd naturiol iach.
Mae’r byd naturiol, ei fioamrywiaeth a’r ecosystemau sy’n rhan ohono yn hanfodol i les pobl yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol drwy’r manteision niferus a geir wrth gynnal gweithrediad ecosystemau.
Mae gweithgareddau pobl wedi cael dylanwad aruthrol ar fioamrywiaeth. Trwy newid bioamrywiaeth rydym yn cael effaith fawr ar les pobl a lles popeth byw.
Diffinnir bioamrywiaeth fel: "Amrywioldeb ymhlith organeddau byw o bob ffynhonnell gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, ecosystemau’r tir a’r môr ac ecosystemau dyfrol eraill a’r cymhlygion ecolegol y maent yn rhan ohonynt; mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o fewn rhywogaethau, rhwng rhywogaethau ac amrywiaeth ecosystemau."