Llawer o ddiolch i’r holl gynadleddwyr a chyfranwyr am
fynychu a gwneud y gynhadledd yn ffordd lwyddiannus o gyfnewid syniadau, rhannu
gwybodaeth, trafod a rhwydweithio. Er mwyn sicrhau y bydd cynadleddau’r dyfodol
yn berthnasol, yn ysgogol ac yn diwallu eich anghenion mae Partneriaeth
Bioamrywiaeth Cymru yn awyddus i gael adborth gennych.
Darllenwch am Gynadleddau Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru blaenorol
19 – 20 Medi 2018 Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
7-8 Medi 2016, Prifysgol Bangor
9-10 Medi 2015, Prifysgol Aberystwyth
10-11 Medi 2014, Prifysgol Caerdydd
18-19 Medi 2013, Prifysgol Bangor
12eg - 13fed Medi; Prifysgol Morgannwg, Pontypridd
14 & 15 Medi 2011
15-16 Medi, Prifysgol Bangor
16 & 17 Medi 2009, Prifysgol Morgannwg
‘Cyflawni dros Natur’
10–11 Medi, Prifysgol Aberystwyth
12fed - 13eg Medi, Prifysgol Wrecsam
Canolbwyntiodd cofnod y gynhadledd ar y sesiynau gweithdy
Gan gynnwys araith Weinidogol gan y Gweinidog Amgylchedd Hannah Blythyn AC, siaradwyr allweddol, sgyrsiau a gweithdai gan ymarferwyr, mae’r gynhadledd yn offeryn hanfodol wrth ystyried uchelgais Cymru i wella bioamrywiaeth a gwytnwch ecosystemau yng Nghymru ac yn gyfle i ddatblygu gweithredu adfer natur ar y cyd â mentrau polisi ehangach. Mae sesiynau rhyngweithio a chyfleoedd i gydweithio a chreu partneriaethau i’r dyfodol yn thema ganolog o’r digwyddiad hwn.
Mae gan Gymru ddeddfwriaeth unigryw ar gyfer darparu adfer natur a manteision lluosog ar gyfer ein hamgylchedd, economi a chymdeithas. Mae Cynllun Gweithredu Adfer Natur i Gymru, Deddf Amgylchedd (Cymru) a diwygio rheoli tir ar ôl Brexit oll yn ganolog i’r dull hwn o fynd ati. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn darparu fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau wrth gyflawni buddion lluosog i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol drwy gyfrwng cynllunio llesiant, a ddylai gael ei adlewyrchu yn ein dull newydd o fynd ati. Mae’r dull hwnnw’n amlinellu’r cyswllt rhwng amgylchedd, iechyd a llesiant, a’r cyfleoedd a’r heriau y dylem ni fynd i’r afael â nhw drwy gyfrwng cynlluniau a gweithredoedd mawr a bach.
Cynhadledd PBC - Trosolwg a Rhaglen Drafft fersiwn 2 20.08.2018