Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn pennu’r gofynion ar gyfer rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol ynghyd â ffyrdd newydd o weithio er mwyn cyflawni hyn. Gwelir bod Rhan 1 Deddf yr Amgylchedd yn pennu dull Cymru o gynllunio a rheoli adnoddau naturiol ar lefel genedlaethol a lleol gyda phwrpas cyffredin sy’n gysylltiedig ag egwyddorion rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol a ddiffinnir yn y Ddeddf.Ceir tair o brif adrannau yn Rhan 1 Deddf yr Amgylchedd:
1. Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR) – Adroddiad a gyhoeddir gan Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n cyflwyno asesiad o adnoddau naturiol a pha mor dda y mae Cymru yn llwyddo i’w rheoli mewn ffordd gynaliadwy
2. Polisi Adnoddau Naturiol – Polisi a lunnir gan Lywodraeth Cymru sy’n pennu’r blaenoriaethau, y risgiau a’r cyfleoedd o safbwynt rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae’r polisi’n ystyried casgliadau’r adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol
3. Datganiadau Ardal – Sylfaen tystiolaeth a gynhyrchir gan Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n helpu i weithredu blaenoriaethau, risgiau a chyfleoedd a bennir yn y Polisi Cenedlaethol a sut y mae CNC yn bwriadu ymdrin â hwy (bydd yn dechrau ddiwedd 2017 ymlaen)
Mae ecosystemau’n seiliedig ar fioamrywiaeth ac mae dull ecosystem yn darparu fframwaith ar gyfer ystyried ecosystemau cyfan wrth wneud penderfyniadau, ac ar gyfer gwerthfawrogi’r gwasanaethau ecosystem sy’n cael eu darparu ganddynt, er mwyn sicrhau bod cymdeithas yn gallu cynnal amgylchedd naturiol iach a chryf yn awr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn cynnwys y dull ecosystemau mewn statud drwy set o egwyddorion sy’n seiliedig ar 12 egwyddor Y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol.
Mae’r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol yn diffinio dull rheoli ar lefel yr ecosystem fel strategaeth ar gyfer rheoli tir, dŵr ac adnoddau byw mewn modd integredig, gan hyrwyddo cadwraeth a defnydd cynaliadwy mewn ffordd deg. Yn gyffredinol, bydd dull rheoli ar lefel yr ecosystem yn esgor ar weithredu ar raddfa fwy nag un rhywogaeth neu un cynefin, gan ystyried anghenion pobl yr un pryd. I ategu’r diffiniad, mae’r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol yn diffinio deuddeg o egwyddorion ategol a chysylltiedig.
Hefyd, mae’r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol wedi cynnig Canllawiau Gweithredol ar gyfer rhoi dull rheoli ar lefel yr ecosystem ar waith, lle canolbwyntir ar bump o bwyntiau pwysig
Mae nifer o gyfarwyddebau amgylcheddol yr UE wedi cael eu siapio er mwyn mabwysiadu dull rheoli ar lefel yr ecosystem:
Asesiad Ecosystemau Cenedlaethol y DU yw’r dadansoddiad cyntaf o amgylchedd naturiol y DU o safbwynt y manteision a ddaw i’r gymdeithas a ffyniant economaidd parhaus. Mae wedi’i seilio ar y prosesau sy’n cysylltu cymdeithasau dynol a’u lles gyda’r amgylchedd, gan bwysleisio rôl ecosystemau o ran cynnig gwasanaethau sy’n cyfrannu at les pobl.Ceir pennod sy’n sôn yn benodol am Gymru.
Dyma chwe chanfyddiad allweddol yr asesiad:
Menter ryngwladol o bwys sydd â’r nod o dynnu sylw at fanteision economaidd byd-eang bioamrywiaeth yw Economeg Ecosystemau a Bioamrywiaeth. Y bwriad yw tanlinellu’r gost gynyddol a ddaw yn sgil colli bioamrywiaeth a dirywiad mewn ecosystemau, yn ogystal â dwyn ynghyd wybodaeth arbenigol ym myd gwyddoniaeth, economeg a pholisi er mwyn gallu bwrw ymlaen mewn modd ymarferol. Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru yn gweithio i ymateb i’r heriau hyn – i sicrhau dyfodol ar gyfer bioamrywiaeth ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Ystyr Ecosystem "yw cymunedau cymhleth a dynamig o blanhigion, anifeiliaid a micro-organeddau a’u hamgylchedd anfyw yn rhyngweithio fel uned weithredol". (Erthygl 2 y Confensiwn)
Astudiaethau Achos yng Nghymru
Amrywiaeth o astudiaethau achos sy’n dangos sut y mae prosiectau yng Nghymru yn defnyddio dull rheoli ar lefel yr ecosystem.
Profion Rheoli Adnoddau Naturiol
fydlwyd profion Rheoli Adnoddau Naturiol yn gynnar yn 2014 i brofi a datblygu dulliau newydd o gynllunio rheoli adnoddau naturiol ar sail ardal a Datganiadau Ardal
Prosiectau Pont
Sefydliad sy’n annog ac yn hwyluso pori er budd bywyd gwyllt, tirweddau a threftadaeth ddiwylliannol Cymru yw Pont. Mae prosiectau Pont yn cynnwys prosiectau mawr i adfer cynefinoedd yn Ynys Môn, Sir Gaerfyrddin a Phen-y-bont ar Ogwr.
Prosiectau Futurescapes yr RSPB
Gan weithio mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau, nod menter Futurescapes yr RSPB yw gwneud tirweddau’r DU yn fwy cydnaws i fywyd gwyllt, a chynefinoedd yn llai darniog.
Prosiectau Tirweddau Byw yr Ymddiriedolaethau Natur
Ffordd newydd o feddwl am y ffordd rydym yn rheoli’r tir er mwyn gwneud mwy i fywyd gwyllt, pobl a’r economi yw Tirweddau Byw, a chaiff y cynllun ei hyrwyddo gan yr Ymddiriedolaethau Natur.
Astudiaethau Achos yn Lloegr
Prosiectau Natural England sy’n dangos sut y mae dull rheoli ar lefel yr ecosystem a gwasanaethau ecosystemau’n berthnasol i reoli tir a dŵr.
Dalgylch Parrett, Gwlad yr Haf
Astudiaeth achos sy’n dangos sut y cafodd offer a methodolegau penodol eu datblygu er mwyn rheoli dalgylch afon Parret yw Rheoli Dalgylch Parrett, Gwlad yr Haf.