Cyflwyniad

Mae planhigion fasgwlaidd yn cynnwys planhigion sy’n blodeuo a rhedyn (a rhywogaethau cysylltiedig – e.e. cnwp-fwsoglau). O ran eu cofnodi a’u hastudio, mae mathau o rawn yr ebol (stoneworts yn Saesneg) neu Charoffytau, wedi cael eu mabwysiadu gan fotanegwyr planhigion fasgwlaidd hefyd. Math o algâu gwyrdd cymhleth ydy rhawn yr ebol, sy’n perthyn yn fwyaf agos i blanhigion fasgwlaidd.

Planhigion fasgwlaidd yw conglfaen y rhan fwyaf o gynefinoedd y tir a dŵr croyw. Mae rhai hyd yn oed yn byw yn y môr – yn nyfroedd arfordirol Cymru mae gwellt y gamlas (Zostera) yn ffurfio gwelyau trwchus mewn rhai amodau penodol.

Mae 90% o’r tir yng Nghymru yn cael ei ffermio (Arolwg Amaethyddol a Garddwrol Mehefin 2022 (llyw.cymru)), ond o fewn y fframwaith eang hwn mae amrywiaeth fawr o ran cynefinoedd a dwyster y ffermio.


Snowdon lily gan Andrew Gagg: Plantlife

Mynydd, Ffridd a Chors
Mae ein prif gynefinoedd mynyddig i’w canfod ym mynyddoedd Eryri yng Ngogledd Cymru, ac yma mae planhigion eiconig fel lili’r Wyddfa (Gagea serotina) a chlust-y-llygoden alpaidd (Cerastium alpinum). Wrth ddisgyn tua’r Ffridd a’r tiroedd comin, ceir yr effros Cymreig (Euphrasia cambrica) a’r clychlys dail eiddew (Wahlenbergia hederacea). I lawr eto drwy gorsydd yr iseldir mae tegeirian bach y gors (Hammarbya paludosa) ac ar y rhostir gwelir y fioled welw (Viola lactea).

Yma yng Nghymru mae rhai o’r glaswelltiroedd mwyaf bioamrywiol ac mae’r rhain yn gartref i rywfaint o rywogaethau sydd wedi’u cyfyngu fel yr eurinllys tonnog (Hypericum undulatum) yn y gorllewin, ac ar laswelltiroedd sychach y dwyrain rywogaethau fel berwr y bugail (Teesdalia nudicaulis) a chlust-y-llygoden syth (Moenchia erecta). Yn rhai o’n glaswelltiroedd calchfaen ger yr arfordir gallwch weld y clychlys clystyrog (Campanula glomerata) a’r ysgall clorog (Cirsium tuberosum) yn y de a’r galdrist ruddgoch (Epipactis atrorubens) a’r melynydd brych (Hypochaeris maculata) yn y gogledd.

Mae coetiroedd o bob lliw a llun i’w cael ar hyd a lled Cymru. Mewn rhai o’r coedwigoedd glaw tymherus yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru, mae rhedyn yn ffynnu mewn ceunentydd llaith fel rhedynach teneuwe Wilson a Tunbridge (Hymenophyllum wilsonii a H. tunbridgense) a’r farchredynen bêr (Dryopteris aemula). Yn iseldir y de mae cyfoeth o flodau ar lawr rhai o’r coetiroedd ynn, er enghraifft, cwlwm cariad (Paris quadrifolia) a’r blodyn-ymenyn peneuraid (Ranunculus auricomus). Yn aml iawn, mae rhywogaethau sydd i’w canfod yn y parthau rhwng cynefinoedd eang wedi dirywio yn sgil crebachiad yr ardaloedd hyn wrth i gefn gwlad gael ei rannu’n adrannau caeth. Er enghraifft, mae’r clychlys ymledol (Campanula patula) yn hoffi’r ardaloedd hynny ble mae ymylon coetiroedd, glaswelltiroedd a lonydd gwyrdd yn cwrdd a ble byddai anifeiliaid pori mwy yn arfer sathru a tharfu ar y tir o bryd i’w gilydd.

Mae gan Gymru arfordir hir sy’n cynnwys clogwyni môr, cerrig mân, twyni tywod a morfeydd heli. Mae llawer o’n systemau twyni yng Nghymru yn bwysig yn rhyngwladol ac mae rhai o’r rhain yn Ne Cymru yn gartref i’r math o degeirian y fign galchog sy’n byw ger yr arfordir (Liparis loeselii var. ovata). Mae’n rhywogaeth sydd wedi dirywio yn ddiweddar, ond erbyn hyn mae’n ymddangos bod y duedd honno wedi’i gwrthdroi, yn bennaf yn sgil ymyriadau wedi’u targedu a gwaith rheoli. Mae crwynllys y tywod (Gentianella amarella subsp. occidentalis) hefyd i’w weld ar ymylon llaciau’r twyni yn rhai o systemau twyni De Cymru. Mae safleoedd morfeydd heli pwysig ar hyd arfordir Cymru, gydag aber afon Hafren a Chilfach Tywyn yn y De, aberoedd afonydd Dyfi, Mawddach a Dwyryd yng Nghanolbarth a Gogledd-orllewin Cymru, ac afon Dyfrdwy yng Ngogledd-ddwyrain Cymru. Yn aberoedd Dwyryd a Mawddach gellir dod o hyd i rywogaeth gyfyngedig iawn yr ysbigfrwynen fach (Eleocharis parvula), y boblogaeth fwyaf ohonynt yng Nghymru a Phrydain mae’n debyg. Yn y de, morfa heli aber afon Hafren yw un o’r ychydig ardaloedd lle mae haidd y morfa (Hordeum marinum) wedi’i weld yn y blynyddoedd diwethaf.

Mae rhai cynefinoedd yn cael eu rheoli’n fwy aml ac weithiau mewn ffordd sy’n cael ei hystyried yn fwy dramatig, fel aredig neu fathau eraill o amaethu. Yn draddodiadol, nid yw sefydliadau sy’n ymwneud â chadwraeth wedi gwerthfawrogi’r cynefinoedd tir âr hyn, ond mae’r sefyllfa’n newid. Mae canran uchel o’n planhigion blodeuol sydd dan fygythiad i’w gweld mewn ardaloedd sy’n cael eu haredig megis y gludlys amryliw (Silene gallica) a nodwydd y bugail (Scandix pecten-veneris). Mae tir ôl-ddiwydiannol neu dir a oedd wedi’i ddatblygu’n flaenorol (a elwir yn aml yn dir llwyd) yn gallu bod yn amrywiol yn fotanegol ac yn gartref i rywogaethau sy’n dirywio fel brenhinllys y maes (Clinopodium acinos). Mae sborion glo wedi’i gynnwys yma hefyd ac yn Ne Cymru mae llawer o’r tomenni sborion hyn yn gartref i’r edafeddog fach (Logfia minima), rhywogaeth sydd wedi’i chyfyngu fel arall i laswelltiroedd sych ger yr arfordir.

Tegeirian bach y gors (Hammarbya paludosa) gan Julian-Woodman

Dŵr

Mae gan Gymru lynnoedd a llynnoedd mynydd ardderchog lle gallech ddod o hyd i fathau o wair merllyn (Isoetes sp.), bidoglys y dŵr (Lobelia dortmanna) a dyfrllys (Potamogeton sp.). Mae’r poblogaethau o lyriad-y-dŵr arnofiol (Luronium natans) yn arwyddocaol yng nghyd-destun Prydain a’r byd. Mae un o boblogaethau mwyaf y rhywogaeth hon yng Nghamlas Trefaldwyn. Mae’r afonydd yng Nghymru yn aml yn cychwyn fel afonydd ceunentydd sy’n llifo’n gyflym gan fynd trwy ddyffrynnoedd serth, llaith a choediog. Yma gellir gweld rhedynach teneuwe ymhlith mathau eraill o redyn a bryoffytau sy’n hoffi’r awyrgylch llaith. Yn is i lawr mae’r afonydd hyn, fel Gwy ac Wysg, yn llifo’n arafach ac yn droellog. Yma mae graean afon a glannau tywodlyd / mwdlyd yn gallu bod yn gartref i’r dinboeth ddi-flas (Persicaria mitis) sydd dan fygythiad. Mae’r rhwydwaith o ffosydd ar Wastadeddau Gwent yn bwysig ar gyfer bywyd y dŵr. Mae prif safleoedd y dyfrllys blewynnaidd (Potamogeton trichoides) a’r llinad mawr (Spirodela polyrhiza) yng Nghymru yma, ymysg amrywiaeth o blanhigion eraill y dŵr.

Mae’r tabl isod yn dangos bod 72% o holl rywogaethau Prydain i’w cael yma yng Nghymru (Walker 2023). Mae canlyniadau llawn prosiect Atlas 2020 i’w gweld ar-lein (gweler y ddolen i Atlas Ar-lein 2020) ac yma gallwch weld y tueddiadau tymor hir (1930 – 2019) a thymor byr (1987 – 2019).

Nifer y rhywogaethau brodorol a’r rhai a gyflwynwyd a gofnodwyd mewn gwaith maes ar gyfer Atlas Planhigion 2020 (2000–2019) ym Mhrydain o’i gymharu â Chymru, Lloegr a’r Alban. (Walker et al. 2023)

Prydain

Lloegr

Cymru

Yr Alban

Brodorol

1692

1562

1319

1341

Cyflwynwyd - archeoffytau

157

156

138

136

Cyflwynwyd - neoffytau

1596

1564

1029

1078

Cyfanswm

3445

3282

2486

2555

Mae nifer o’r 25 rhywogaeth a welodd y cynnydd mwyaf dros y tymor hir yng Nghymru yn neoffytau fel coed conwydd o blanhigfeydd, er enghraifft, Sbriws Sitca, neu’n rhai sydd wedi dianc o erddi fel y trewyn brych (Lysimachia punctata). O ran y tymor byr, mae llawer o’r rhywogaethau yn rai sydd wedi dianc o erddi, er enghraifft y bachgen llwm (Leycesteria formosa) neu glychau’r clawdd (Tellima grandiflora). I’r gwrthwyneb, mae’r rhan fwyaf o’r rhywogaethau sydd wedi dirywio fwyaf dros y tymor hir a’r tymor byr yn rhai brodorol neu’n archeoffytau fel y clefryn (Jasione montana) a briwlys y tir âr (Stachys arvensis).


Cadwraeth planhigion fasgwlaidd yng Nghymru

SoDdGA ac ACA

SoDdGA

ACA

Nifer y nodweddion rhywogaethau unigol

664

5

Cyfanswm y safleoedd gwarchodedig sydd
â nodweddion planhigion fasgwlaidd

296

17

Ar hyn o bryd mae 88 rhywogaeth o blanhigion fasgwlaidd ar restr S7 o rywogaethau pwysig iawn yng Nghymru, gan gynnwys y benboeth gulddaill (Galeopsis segetum). Er bod y rhywogaeth hon wedi diflannu yng Nghymru ers 1975, mae dymuniad i’w hadfywio o’r banc hadau.

Y rhestr goch: Niferoedd y rhywogaethau o bob categori bygythiad yng Nghymru yn 2023 (gan gynnwys rhywogaethau Hieracium ond nid grwpiau cymhleth Rubus na Taraxacum). Cyfeiriadau: Rhestr Goch Cymru, Dines 2008 a Rhestr Goch Prydain 2021 (gwefan BSBI). Ddim yn cynnwys croesiadau na rhywogaethau sydd wedi’u difa’n ddiweddar.


Rhestr Goch Prydain
(2022)

Rhestr Goch Cymru
(2008)

Mewn Perygl Difrifol

19

42

Mewn Perygl

35

57

Dan Fygythiad

74 89

Mae’n bosibl na fydd rhai o’r ffigurau uchod yn cyfateb os bydd rhywun arall yn ceisio gwneud chwiliad sylfaenol neu syml, heb ei ddehongli. Rwyf wedi eithrio rhywogaethau yr ystyrir eu bod wedi’u cyflwyno i fflora Cymru a’r rhai sydd wedi diflannu neu wedi difa’n llwyr yn ddiweddar fel Daphne mezereum.

Cofnodi planhigion fasgwlaidd yng Nghymru

Mae hanes hir o gofnodi planhigion blodeuol yng Nghymru ac yn ehangach ym Mhrydain Fawr gydag enwau mor amlwg â John Ray ac Edward Llwyd yn yr 17eg Ganrif; Augustin Ley a John Griffiths yn y 19eg Ganrif ac Eleanor Vachell a Mary Gilham yn ddiweddarach. Tua diwedd y 19eg Ganrif crëwyd Clwb Cyfnewid Botanegol Prydain ac Iwerddon a dechreuodd cofnodi botanegol o ddifrif. Yn ddiweddarach daeth hon yn Gymdeithas Fotaneg Ynysoedd Prydain ac yn fwy diweddar yn Gymdeithas Fotaneg Prydain ac Iwerddon (BSBI). Bu tri atlas cenedlaethol o Brydain ac Iwerddon, a’r mwyaf diweddar o’r rhain yw Atlas 2020 (gweler y ddolen isod).

Mae gan lawer o’r Is-siroedd Fflora Sirol modern, yn fwyaf diweddar Sir Fynwy a Cheredigion. Adnodd arall yw Cofrestri Planhigion Prin yr Is-siroedd. Mae modd lawrlwytho llawer o’r rhain neu ofyn amdanynt o’r tudalennau sirol yma Wales – Botanical Society of Britain & Ireland (bsbi.org).

Heddiw mae’n hawdd ymuno yn y gwaith o chwilio a chofnodi planhigion. Mae Prydain ac Iwerddon wedi’u rhannu’n Is-siroedd ac yng Nghymru mae 13 (mae Morgannwg wedi’i rhannu’n Ddwyrain a Gorllewin). Mae gan bob un gofnodwr anrhydeddus ac mae gan rai fwy nag un. Gweler Local Botany – Botanical Society of Britain & Ireland (bsbi.org) am fanylion. Mae llawer o grwpiau botaneg lleol yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd a gellir dod o hyd i gynlluniau ar gyfer gwibdeithiau drwy ddilyn y ddolen uchod ar gyfer tudalennau’r Is-siroedd. Mae’r BSBI hefyd yn trefnu cyfarfodydd maes dydd a chyfarfodydd preswyl hirach gweler Field meetings and indoor events – Botanical Society of Britain & Ireland (bsbi.org) a Wales Annual Meeting & AGM – Botanical Society of Britain & Ireland (bsbi.org).

Mae pedair canolfan gofnodi leol yng Nghymru ac mae’r rhain hefyd yn ffyrdd gwych o gymryd rhan mewn cofnodi a dysgu am blanhigion fasgwlaidd a grwpiau eraill. Maent hefyd yn adnodd defnyddiol ar gyfer cofnodi planhigion fasgwlaidd ac mae’r canolfannau cofnodi hyn yn aml yn cysylltu â chofnodwyr Is-siroedd y BSBI.

Dylid anfon cofnodion planhigion fasgwlaidd at gofnodwr lleol eich Is-sir neu at eich Canolfan Cofnodion Leol.

Natur Am Byth

Mae hon yn rhaglen flaenllaw ar gyfer adfer rhywogaethau. Dechreuodd y gwaith yn 2023 a bydd yn rhedeg tan 2027, mewn 11 ardal prosiect ar dir a môr. O fewn ardaloedd y prosiect daearol mae 23 o’r rhywogaethau targed yn blanhigion fasgwlaidd neu’n Charoffytau.

Antenarria dioica female: Julian Woodman

Fen Orchid at Kenfig gan Clive Hurford

Goldilocks buttercup gan Julian-Woodman

Campanula patula gan Julian Woodman

Dune Gentian gan Clive Hurford

Hordeum marinum gan Julian-Woodman

Herb Paris gan Julian-Woodman

Shepherds needle gan Julian Woodman

Fioled welw (Viola lactea) gan Julian Woodman

Cyswllt

Julian Woodman: Arbenigwr ar blanhigion fasgwlaidd, Cyfoeth Naturiol Cymru

E-bost: julian.woodman@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt