Cyflwyniad

Mae mamaliaid wedi llenwi pob math o gilfachau sydd ar gael iddynt a gallant fod yn arbenigol ….neu’n gyffredinol …. Maent yn amrywio mewn maint o’r chwistlen leiaf i’r carw coch mawr, ac mae mamaliaid gwyllt yn cynnwys rhywogaethau sy’n cerdded, rhedeg, dringo a hyd yn oed hedfan. Mae rhai’n enigmatig ac maent yn ein mythau a’n chwedlau. Ystyriwn eraill yn bla pan fo’u hanghenion nhw’n gwrthdaro â’n rhai ni.

O’r cnofilod sy’n cynaeafu hadau, i’r porwyr, megis ceirw, cwningod ac ysgyfarnogod, i anifeiliaid cigfwytaol, rhai arbenigol (y wenci) a rhai manteisgar (y llwynog), i’r ystlumod arbenigol iawn. Ar y cyfan yng Nghymru, mae tua 45 o rywogaethau o famaliaid tir rhydd o 5 Urdd wahanol. Maent yn byw yn y rhan fwyaf o fathau o gynefinoedd o’r ucheldiroedd mwyaf anghysbell i gymoedd coediog ac amgylcheddau dyfrol megis afonydd, nentydd ac aberoedd ac mae rhai wedi addasu i rannu ein hanheddau.

Mae mamaliaid yn mabwysiadu amrywiaeth o strategaethau goroesi. Mae llygod a chwningod yn anifeiliaid sy’n magu’n gyson iawn, ond mae ystlumod yn byw am nifer o flynyddoedd ac yn rhoi genedigaeth ddim mwy nag unwaith y flwyddyn. Mae pathewod ac ystlumod yn gaeafgysgu pan fo’r cyflenwadau bwyd yn isel er nid yw gwiwerod yn gaeafgysgu, ond gallant fod yn llai actif yn ystod y gaeaf.

Nid yw nifer o’r mamaliaid sydd yng Nghymru’n frodorol ac maent wedi effeithio ar famaliaid brodorol eraill, megis y minc a ddihangodd o ffermydd ffwr ac sydd wedi cael effaith ddinistriol ar lygoden y dŵr, a’r wiwer lwyd (a ryddhawyd gan y Fictoriaid da eu bwriad, ond sy’n gyfrifol am y gostyngiad yn niferoedd y wiwer goch). Mae rhai mamaliaid yn niferus iawn (amcangyfrifir bod 75 miliwn llygoden bengron ym Mhrydain Fawr) ac maent mewn cyswllt rheolaidd â phobl mewn tai (llygod bach), gerddi, (tyrchod daear) neu yng nghefn gwlad yn fwy cyffredinol lle ystyrir rhai yn bla am ryw reswm neu’i gilydd (e.e. y llwynog). Mae eraill yn brin iawn (ystlumod duon, beleod) ac yn gostwng yn eu niferoedd (llygod y dŵr) ac felly maent yn destun pryder cadwraeth mawr neu’n unigryw i Gymru (llygod Sgomer). Mae rhai’n ddiflanedig o ganlyniad i weithgarwch dynol ac mae rhai’n dymuno iddynt gael eu hailgyflwyno (afancod).

Yr hyn sydd ganddynt i gyd yn gyffredin yw eu bod yn rhoi genedigaeth i epilod ac mae’r fam yn eu magu â llaeth tan iddynt allu ymdopi ar eu pennau’u hunain. Maent hefyd yn rhan allweddol o fioamrywiaeth Cymru. Ac maent yn ddangosydd da o iechyd ein hamgylchedd – er enghraifft, mae’r ffaith bod dyfrgwn wedi dychwelyd i’r rhan fwyaf o afonydd Cymru yn dangos bod ein cyrsiau dŵr yn lân a bod digonedd o bysgod ac amffibiaid ynddynt. Mae Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) wedi eu dynodi oherwydd poblogaethau pwysig o ddyfrgwn, llygod y dŵr a rhywogaethau o ystlumod. Mae’r dyfrgi hefyd yn brif nodwedd neu’n nodwedd gymhwysol o 13 Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA).

Hare - Alun Williams

Urddau a rhywogaethau mamaliaid yng Nghymru

Chiroptera: ystlumod – mae 15 o rywogaethau’n byw yng Nghymru

Rodentia: cnofilod – 11 o rywogaethau

Carnivora: anifeiliaid cigfwytaol &ndash 8 rhywogaeth

Artiodactyla: carnolion deugarn – 6 rhywogaeth

Insectivora: pryfysorion – 5 rhywogaeth

Lagomorpha: cwningod ac ysgyfarnogod – 2 rywogaeth

The State of Mammals in Wales

Cafwyd yr asesiad cynhwysfawr diwethaf o statws y 49 rhywogaeth o famaliaid a ganfyddir yng Nghymru yn 1995. Mae Cyflwr Mamaliaid yng Nghymru yn crynhoi ein gwybodaeth bresennol, gan adrodd ar feintiau poblogaethau, gwasgariadau daearyddol, tueddiadau ac, ar gyfer rhywogaethau cynhenid, eu statws Rhestr Goch Ranbarthol yn ôl safonau’r Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur.

Cafodd afancod a baeddod gwyllt eu heithrio o'r asesiad oherwydd ansicrwydd ynglŷn â'u statws yng Nghymru. Roedd y rhan fwyaf o rywogaethau naill ai wedi cynyddu (26%) neu’n sefydlog (43%) o ran eu niferoedd. Mae'r holl rywogaethau estron a gyflwynwyd i Gymru yn ddiweddar wedi cynyddu eu dosbarthiad daearyddol. Mae niferoedd yr holl rywogaethau sydd wedi ymsefydlu – hynny yw, pob rhywogaeth sydd wedi cyrraedd ers ffurfio'r Sianel, ond cyn diwedd y ddeuddegfed ganrif – hefyd wedi cynyddu neu'n sefydlog, ac eithrio'r llygoden ddu, sydd bellach o bosib wedi diflannu. Grwpiau ceirw a chigysyddion sydd â’r nifer fwyaf o rywogaethau â dosbarthiadau sy’n cynyddu; yn wir, mae pob rhywogaeth o geirw yng Nghymru bellach i’w canfod dros ardaloedd mwy eang nag ugain mlynedd yn ôl. I raddau helaeth, mae gan gnofilod, chwistlod, ysgyfarnogod brown a draenogod ddosbarthiadau sefydlog.Nid yw tueddiadau dosbarthiadau llygod yr ŷd a’r rhan fwyaf o ystlumod yn hysbys, o ganlyniad i newidiadau radical ym methodoleg cynnal arolygon dros amser. Yn achos nifer o rywogaethau, ceir diffyg cyffredinol o ran gwybodaeth fonitro.

Ar hyn o bryd, ceir llawer o gyfleoedd i warchod mamaliaid yng Nghymru. Mae Cymru’n
parhau i fod yn gadarnle i’r ffwlbart, er eu bod wedi diflannu bron yn gyfan gwbl o weddill y DU; mae’r ymdrechion presennol i atgyfnerthu poblogaeth y bele wedi bod yn hynod lwyddiannus; ac mae Ynys Môn yn parhau i fod yn ardal allweddol i’r wiwer goch. Ceir poblogaethau sylweddol hefyd o’r ystlum pedol mwyaf a lleiaf, gyda thystiolaeth o ledaeniad cynyddol tua'r gogledd, o bosib o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, mae bywyd gwyllt yng Nghymru hefyd yn wynebu heriau o ganlyniad i’r twf mewn poblogaethau dynol, gofynion amaethyddiaeth a choedwigaeth, a phresenoldeb rhywogaethau estron goresgynnol. Drwy gyfres o astudiaethau achos, mae Cyflwr Mamaliaid yng Nghymru, yn gosod asesiadau o statws cadwraeth yn eu cyd-destun.

Diogelu Mamaliaid yng Nghymru

Mae deddfwriaeth y DU a rhyngwladol yn amddiffyn ein mamaliaid mwyaf prin ac mae Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth (BAPs) Lleol a’r DU yn arwain y camau gweithredu ar gyfer eu diogelu. Mae nifer o sefydliadau Cymru a’r DU yn chwarae rôl bwysig o ran diogelu mamaliaid a chynrychiolir y rhan fwyaf ohonynt ar Fforwm Gweithredu Bioamrywiaeth Mamaliaid Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys Partneriaethau Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol, Canolfannau Cofnodion Lleol, Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod, y Gymdeithas Famaliaid, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Natur Vincent ac Ymddiriedolaethau Natur Cymru, Prifysgolion Cymru. Gweler y daenlen Crynodeb o’r Rhywogaethau i gael arweiniad o ran pa rai o famaliaid Cymru y mae arnynt angen camau gweithredu i’w diogelu.

Mae'r Rhestr Goch swyddogol gyntaf ar gyfer Mamaliaid Prydain , a gynhyrchwyd gan Gymdeithas Mamaliaid Lloegr Naturiol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Treftadaeth Naturiol yr Alban (NatureScot) a'r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur, yn dangos bod 11 o'r 47 mamal sy'n gynhenid i Brydain yn cael eu dosbarthu fel rhai sydd mewn perygl o fod ar fin diflannu. Ymhlith y rhywogaethau hynny a restrir fel rhai sydd mewn perygl o ddiflannu ym Mhrydain mae llygoden bengron y dŵr, y draenog, y pathew cyll, y gath wyllt a'r ystlum hirglust llwyd. Mae'r blaidd Ewropeaidd eisoes wedi diflannu.

Yng Nghymru, mae'r adroddiad yn dangos bod 1 o bob 3 rhywogaeth dan fygythiad o ddifodiant a bod angen gweithredu brys ar gyfer 51% o rywogaethau mamaliaid. Roedd gwiwerod coch a llygod pengrwn y dŵr yn arfer bod yn gyffredin yng Nghymru, ond nawr ystyrir eu bod mewn perygl a bod draenogod yn agored i niwed. I gael rhestr lawn o’r rhywogaethau ar restr Cymru a'u dosbarthiad, lawrlwythwch grynodeb o’r adroddiad.


Cysylltwch â

Ysgrifenyddiaeth Fforwm Gweithredu Bioamrywiaeth Mamaliaid Cymru

Diben y Fforwm Gweithredu Bioamrywiaeth Mamaliaid Cymru yw:

  • Darparu fforwm ar gyfer deialog rhwng sefydliadau statudol, gwirfoddol a phartneriaethau Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol sy’n ymwneud â gweithredu ynghylch cadwraeth ar gyfer rhywogaethau mamaliaid BAP Cymru
  • Codi ymwybyddiaeth o faterion cadwraeth mamaliaid a bygythiadau ledled Cymru
  • Darparu cyswllt ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth rhwng prosesau gweithredu bioamrywiaeth leol, ranbarthol, Cymru a’r DU;
  • Annog pobl i gofnodi, adrodd a rhannu asesiadau statws cadwraeth rhywogaethau mamaliaid a sicrhau bod gwybodaeth ar gael at ddibenion llywio prosesau gwneud penderfyniadau cyhoeddus a bioamrywiaeth
  • Hyrwyddo arolwg o arfer gorau a rheoli cadwraeth

  1. Cylch Gorchwyl FGBMA Ebrill 2010 (pdf)
  2. Rhaglen waith FGBMA 2013-14 (pdf)
  3. Diweddariadau FGBMA 2010-2013 (pdf) (Saesneg yn unig)

Ystlumod

Mae ystlumod yn greaduriaid hynod o ddiddorol ac maent yn chwarae rhan hanfodol yng ngweithrediad yr ecosystem ac, yn arbennig, rheolaeth pryfed nosol megis mosgitos, gwybed, gwyfynod a chwilod. Mae ystlumod yn dibynnu ar fatrics o gynefinoedd addas ac ar ansawdd yr amgylchedd- ac mae arnynt angen lleoedd i fwydo, clwydo, bridio a gaeafgysgu ac mae eu presenoldeb yn arwydd o amgylchedd iach.

Mae 15 o’r 18 rhywogaeth o ystlum sydd yn byw yn y DU i’w cael yng Nghymru a cheir yma 10 Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) lle mae ystlumod unai’n brif nodwedd neu’n ail nodwedd yr AGA. Mae pob rhywogaeth o ystlum a’u mannau clwydo yn cael eu gwarchod gan y gyfraith yn y DU ac mae pob ystlum wedi ei restru fel rhywogaeth warchodedig Ewropeaidd dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd. Hefyd, mae 8 rhywogaeth o ystlum yn ymddangos ar restr rhywogaethau sy’n cael blaenoriaeth yng Nghymru (rhestr adran 7)

Common Pipistrelle

Gweithredu dros Ystlumod yng Nghymru

Mae’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod (BCT) yn rhedeg Prosiect Ystlumod Cymru sy’n gweithio gyda grwpiau ystlumod gwirfoddol ledled Cymru, ac yn codi ymwybyddiaeth o ystlumod yng Nghymru a chydlynu prosiectau cadwraeth ystlumod megis y Rhaglen Genedlaethol i Fonitro Ystlumod.


Cysylltwch â

I gael cymorth a chyngor ar ystlumod, neu i ddarganfod mwy am Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod ewch i www.bats.org.uk

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt