Mae ein gerddi'n hafan i fywyd gwyllt, a chan fod llawer ohonom wedi ein cyfyngu i’r cartref, dyma gyfle gwych i ddarganfod trigolion diddorol a lliwgar ein gerddi. Dim gardd gennych? Mae adar, gloÿnnod byw a gwenyn yn dal i ddilyn eu rhythmau beunyddiol – pam na welwch beth y gallwch sylwi arno a'i glywed o'ch ffenestr? Peidiwch ag anghofio cadw llygad yn agored am ystlumod pan fo’n nosi - gwelir ystlumod lleiaf (pipistrelle) yn aml mewn cynefinoedd trefol.
Mae llawer o weithgareddau y gallwch eu gwneud gartref, o ychydig o arddio bywyd gwyllt, gweithgareddau natur gyda'r plant, cynnal arolwg o fywyd gwyllt gardd, i gynllunio'r prosiectau hynny a fyddai'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd gwyllt yn ein gerddi, fel creu pwll, neu gartref i bryfed neu ddraenog.
wildlifetrusts/flowers, bees and pollinators
wildlifetrusts.org/attract-butterflies-to-your-garden
buglife.org.uk/gardeninging for Bugs
Butterfly-conservation.org/education
Hyfforddiant Bitesize (am ddim) i unrhyw un sy’n ymddiddorimewn amffibiaid ac ymlusgiaid
Anifeiliaid, cynefinoedd a bioamrywiaeth
Canolfan y Dechnoleg Amgen -Gweithgareddau Teulu
Digwyddiadau yn eich ardal chiYn ogystal ag addysgu, mae digwyddiadau natur yn dod â phobl ynghyd, yn eu hysbrydoli a'u hannog i gysylltu â'r awyr agored - ac i goroni'r cyfan, mae'n hwyl! Mae addysg a chodi ymwybyddiaeth o faterion bioamrywiaeth yn dasg hollbwysig i bawb sy'n gysylltiedig â gwarchod a gwella bioamrywiaeth. Er bod bioamrywiaeth yn bwnc byd-eang, mae pobl yn fwy tebygol o uniaethu â negeseuon lleol. Mae planhigion ac anifeiliaid lleol yn creu cyswllt cyfarwydd a pherthnasol, ac yn rhoi teimlad o berthyn i le arbennig. Heriwch eich hun – ewch allan i ddarganfod byd natur yn eich bro! |
Tweets by @WBP_wildlife |