Cyflwyniad

Mae amffibiaid ac ymlusgiaid yn cael eu galw’n gyfunol yn herpetofauna ac maen nhw’n ddangosyddion allweddol o iechyd ein hamgylchedd. Mae tri ar ddeg o rywogaethau o ymlusgiaid daearol yn byw yn y DU ac un ar ddeg o’r rhywogaethau hynny yng Nghymru.

Mae amffibiaid ac ymlusgiaid i'w canfod mewn amrywiaeth eang o gynefinoedd yng Nghymru ac mae'u dosbarthiad yn cael ei ddiffinio'n bennaf gan yr hinsawdd a chan strwythur llystyfiant. Hefyd, mae pyllau a chyrsiau dŵr sy’n symud yn araf yn safleoedd bridio pwysig i amffibiaid ac yn fannau bwydo y neidr lwyd, y fadfall a phenbyliaid brogaod, llyffantod a madfallod. Mae’r fadfall fawr gribog (Triturus cristatus), madfall y twyni (Lacerta agilis) a llyffant y twyni (Epidalea calamita) wedi’u rhestru’n rhywogaethau o dan warchodaeth Ewropeaidd o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd ac mae’n anghyfreithlon lladd, anafu neu gwerthu amffibiaid ac ymlusgiaid brodorol o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Yn ogystal, mae wyth o rywogaethau o amffibiaid ac ymlusgiaid wediu rhestru ar y rhestr rhywogaethau â blaenoriaeth i Gymru (rhestr Adran 7).

Gweithredu dros amffibiaid ac ymlusgiaid yng Nghymru

Mae llai o gryn dipyn erbyn hyn o ymlusgiaid yng Nghymru ac ar draws y DU; maen nhw’n dioddef yn arbennig drwy golli cynefin, darnio cynefin a newid mewn amodau. Mae gwaith ar y gweill yng Nghymru i adfer poblogaethau o ymlusgiaid ac amffibiaid trwy fentrau lleol a rhai mwy cyffredinol.

Prosiect Cysylltu’r Dreigiau

Mae Cysylltu’r Dreigiau yn brosiect mawr pedair blynedd a ddechreuodd yn 2019 drwy Dde a Gorllewin Cymru a’i fwriad yw adfer a chodi ymwybyddiaeth o’u poblogaethau tameidiog o amffibiaid ac ymlusgiaid (herpetoffawna) sy’n dirywio. Darllenwch fwy yma

Prosiectau blaenorol

Mae Cysylltu’r Gymuned â Chadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid Ledled Cymru’n brosiect a ddechreuodd yn 2012 ac sy’n rhoi cyfle i bobl gysylltu ag amffibiaid ac ymlusgiaid, mae’n annog y cyhoedd i gofnodi gweld amffibiaid ac ymlusgiaid ac yn eu cael i gymryd rhan mewn adfer a chreu cynefinoedd ar eu cyfer yng Nghymru. Mae’r Prosiect Miliwn o Byllau wedi helpu i greu dros 1,000 o byllau yn ystod y 5 mlynedd diwethaf er budd amffibiaid ledled Cymru a Lloegr. Bu Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid yn cynnal gwaith modelu, gyda chefnogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, i nodi mannau lle na byddai datblygu yn effeithio cymaint ar boblogaethau’r fadfall fawr gribog ac i feintioli effeithiau ar y fadfall ac ar ystod y rhywogaethau yng ngogledd a chanolbarth Cymru. Mae’n bosibl defnyddio’r dulliau hyn ar gyfer rhywogaethau eraill a’r bwriad yw ymestyn y gwaith ledled de Cymru.

Common lizard

Rhestr o rywogaethau brodorol yng Nghymru

Broga cyffredin (Rana temporaria); Llyffant du (Bufo bufo); Llyffant y brwyn (Epidalea calamita); Madfall fawr gribog (Triturus cristatus); Madfall ddŵr balfog (Lissotriton helveticus); Madfall ddŵr gyffredin (Lissotriton vulgaris); Madfall (Zootoca vivipara); Madfall y twyni (Lacerta agilis); Neidr ddefaid (Anguis fragilis); Neidr lwyd (Natrix helvetica); Gwiber (Vipera berus).

Llyffant y twyni yw amffibiad prinnaf Cymru. Dim ond ychydig o gytrefi ohono sydd i’w cael ac maen nhw’n byw yn nhwyni arfordir y Gogledd-ddwyrain. Mae’n llyffant bach, dim ond 6-7cm o hyd, gyda streipen felen amlwg i lawr ei asgwrn cefn. Maen nhw’n gadael eu grifft ar ffurf llinynnau mewn pyllau twyni bas, ac mae’r llyffantod bach yn datblygu’n gyflym ac yn symud i’r twyni oddi amgylch.

Mae gwaith ailgyflwyno rhywogaethau a wnaed dan arweiniad Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid mewn partneriaeth â CNC, Awdurdodau Lleol a rheolwyr tir eraill wedi adfer llyffant y twyni a madfall y tywod i lawer o’u cynefinoedd blaenorol ac yn bwrw ymlaen â rhagor o gynlluniau ailgyflwyno arfaethedig ar fwy o safleoedd.

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt