Cyflwyniad

Mae cynefinoedd amrywiol Cymru yn cynnal nifer o’r adar cyffredin a geir ym Mhrydain. Mae tingochion a gwybedogion brith yn nodweddiadol o goetiroedd derw Cymru a gellir gweld brain coesgoch yn bridio o amgylch yr arfordir lle y ceir glaswelltir arfordirol byr a chlogwyni creigiog. Un o lwyddiannau Cymru yw’r barcud coch (Milvus milvus) ac, fel y bwncath, mae wedi ymledu tua’r dwyrain i rannau eraill o Brydain. Mae nythfeydd Cymru o adar môr yn genedlaethol ac yn rhyngwladol bwysig. Gyda’i gilydd, mae nythfeydd adar môr Sgomer, Sgogwm, Enlli a Gwales yn cynnal palod, gwylogod, llursod, huganod ac oddeutu 165,000 pâr o adar drycin Manaw sy’n bridio – y boblogaeth fridio fwyaf yn y byd.

Mae rhywfaint o wyddau talcenwyn yr Ynys Las yn gaeafu yn Aber Afon Dyfi o fis Hydref ymlaen – mae gwarchodfa Ynys Hir yr RSPB yn lle da i’w gweld. Mae aberoedd Dyfi a Glaslyn yn cynnal gweilch y pysgod sy’n bridio. Ceir cyfleusterau gwylio adar ar gyfer y cyhoedd ar y ddau safle, gyda’r cyntaf o’r rhain yng Nghors Dyfi, sef gwarchodfa natur Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn.

Gwelir bod niferoedd rhai o adar tir fferm Cymru yn gostwng, gan adlewyrchu’r dirywiad yng ngweddill Prydain. Er enghraifft, dim ond yn nyffrynnoedd Nant Ffrancon ac Ogwen yng ngogledd Eryri y mae llinos y mynydd i’w chael, gydag oddeutu 16 pâr sy’n gwasgaru i’r arfordir yn ystod y gaeaf. Mae dirywiad tebyg o ran niferoedd a thiriogaeth i’w weld yn nifer o’n rhywogaethau tir fferm eraill, fel golfan y mynydd, y bras melyn a’r ddrudwen.

Adar o Bryder Cadwraethol yng Nghymru 4
Mae’r adolygiad diweddaraf o statws cadwraeth adar yng Nghymru wedi’i gyhoeddi, gyda’r rhywogaethau ar y rhestr Goch wedi mwy na dyblu mewn nifer ers cynnal yr asesiad cyntaf 20 mlynedd yn ôl ac mae bellach yn nodi 60 o rywogaethau.
Mae un o’r ffeithiau mwyaf trawiadol am yr asesiad diweddar yn gyffredin ar un adeg a bellach mae adar cyfarwydd yng Nghymru yn prinhau’n ddifrifol. Mae'r Llinos werdd, Corhedydd y waun, y Dryw Eurben, y Wennol Ddu a'r Wylan Gefnddu Leiaf yn symud i'r Rhestr Goch a Gwennol y Bondo i'r Rhestr Ambr.

Darllenwch yr adroddiad yma

Gwarchod Adar yng Nghymru

Caiff 51 o fathau o adar eu cynnwys ar y rhestr o rywogaethau â blaenoriaeth ar gyfer Cymru (rhestr adran 7). Mae sefydliadau’r sector gwirfoddol yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac asiantaethau statudol, fel Cyfoeth Naturiol Cymru, i warchod adar yng Nghymru. Mae gan gynlluniau amaeth-amgylcheddol y potensial o fod o fudd i adar gan gynnwys petris, breision melyn, llinosiaid a golfanod y mynydd. Mae’r sefydliadau yn y sector gwirfoddol sy’n gysylltiedig â gwarchod adar Cymru yn cynnwys Ymddiriedolaeth Adareg Prydain, yr RSPB, Ymddiriedolaethau Natur Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir, yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adar Hela a Bywyd Gwyllt a Chymdeithas Adaregol Cymru. Enghraifft o’r dull hwn o weithio mewn partneriaeth yw Fforwm Cadwraeth Adar Cymru, sef grŵp gwirfoddol sy’n dwyn ynghyd arbenigedd o CNC a phartneriaid mewn Sefydliadau Anllywodraethol er mwyn hyrwyddo cadwraeth adar yng Nghymru.

Mae’r adroddiad o Gyflwr Adar y DU yn dwyn ynghyd ganlyniadau arolygon blynyddol, cyfnodol ac unigryw gan gynnwys yr Arolwg Blynyddol o Adar sy’n Bridio er mwyn cynnig golwg gyffredinol gyfamserol ar iechyd poblogaethau adar yn y DU. Mae cyfraniad cofnodwyr gwirfoddol yn hollbwysig wrth gasglu’r data. Yng Nghymru, dengys canlyniadau arolygon adar sy’n bridio fod telorion Cetti bellach wedi ymledu o amgylch arfordir de Cymru ac wedi cytrefu yn Ynys Môn ac ar arfordir cyfagos gogledd Cymru. Fodd bynnag, mae’r gnocell werdd, yr arferid ei gweld dros ardal eang yng ngorllewin Cymru, wedi diflannu i raddau helaeth yn ystod y deugain mlynedd ddiwethaf, gan adlewyrchu’r golled mewn cornchwiglod, cudyllod coch a drudwennod sy’n bridio. Ymhellach, mae niferoedd gylfinirod sy’n bridio wedi gostwng yn sylweddol yng ngorllewin Cymru.

Pied flycatcher NRW

Adroddiadau Arolwg Adar Bridio

Yng Nghymru, gydag ychwanegiadau at yr adroddiadau am y Pila Gwyrdd a Bras y Cyrs, mae cyfanswm nifer tueddiadau poblogaeth adar wedi cynyddu i 56 yn adroddiad 2016. O’r rhain, mae 28 yn dangos newidiadau ystadegol arwyddocaol yn y tymor hir. I gael rhagor o fanylion, gweler yr adran Gymraeg yn yr adroddiad.


Mae gwybedogion brith wedi dirywio 48% yn y DU ac yn awr maent ar y Rhestr Goch o Adar o Bryder Cadwraethol

Gwybedog brith © CNC

Môr-wennol bigddu © Mike Hammett/CNC

Môr-wennol bigddu © Mike Hammett/CNC

Cornchwiglen © CNC

Cornchwiglen © CNC

Pâl Sean McHugh/PBC

Pâl Sean McHugh/PBC

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt