Cyflwyniad

Nid yw ffyngau'n blanhigion gwyrdd ac maent mewn gwirionedd yn perthyn yn agosach i anifeiliaid na phlanhigion; mae'r rhan fwyaf ohonynt yn bwydo trwy bydru gweddillion planhigion ac anifeiliaid, ond mae rhai yn barasitiaid neu'n gydfuddianwyr buddiol. Mae llawer ohonynt yn ficrosgopig, ond mae ffrwythgyrff rhai yn ddigon mawr i'w gweld yn hawdd, gan gynnwys madarch, codenni mwg, ffyngau ysgwydd a ffyngau cwpan.Maen nhw’n chwarae rhan hanfodol mewn ailgylchu deunydd marw, ac yng ngweithrediad y pridd.

Mae'r ffyngau yn ffurfio teyrnas arbennig o'r byd byw ac mae organebau a gyfrifid unwaith yn ffyngau, ac sydd yn ôl traddodiad yn dal i gael eu hastudio gan fycolegwyr, i’w cael mewn tair arall allan o'r saith teyrnas a gydnabyddir yn gyffredinol.

Mae ffyngau yn ganolog i systemau cynnal bywyd Cymru a phlaned y Ddaear. Yn gyffredinol, mae'r rôl y maent yn ei chwarae mewn ailgylchu deunyddiau yn cael ei werthfawrogi’n gyffredinol ond mae eu presenoldeb bron ym mhob man mewn ac ar blanhigion ac anifeiliaid dim ond nawr yn dod i’r golwg.Mae’r ffaith bod y perthnasoedd hyn i weld yn fuddiol i raddau helaeth i'r ddau bartner, yn rhoi her ddifrifol i’n rhagdybiaeth bod ffyngau ar y cyfan yn bethau annymunol a pharasitig.
Nid oes llawer o ddealltwriaeth chwaith o rôl ffyngau mewn ffurfio'r pridd a chadwraeth a chadw carbon.Yr hyn sy'n sicr yw bod ffyngau'n chwarae rhan arwyddocaol wrth wraidd y rhan fwyaf o ecosystemau.

Gallai gwell dealltwriaeth o'u swyddogaeth mewn cylchredau maetholion fod o fudd i amaethyddiaeth, sydd yn wynebu her cronfeydd o ffosffad sy'n lleihau a chost uchel nitrad. Mewn ecosystemau naturiol, mae ffyngau mycorhisol yn hanfodol bwysig mewn maeth planhigion ac mae’n bosib y gellid eu defnyddio mewn amaethyddiaeth.Mae'r cemegau cymhleth sydd wedi esblygu mewn ffyngau i wasanaethu'r perthnasoedd cydfuddiannol hyn eisoes wedi rhoi i ni gwrthfiotigau, ffwngleiddiaid, statinau, cyffuriau gwrthlidus ac atal imiwnedd ac asiantau ymladd canser.Ychwanegwch at hyn gyfraniad anhygoel ffwng at ein cyflenwadau bwyd (bara, cwrw, gwinoedd a gwirodydd, cawsiau, madarch, sudd ffrwythau, tofu, mycoprotein, echdynion burum ac ati)sy'n tanlinellu pwysigrwydd gwarchod ffyngau gwyllt.Gelwir yr astudiaeth o ffyngau yn fycoleg ac er bod diddordeb mewn ffyngau yn tyfu, ychydig iawn o fycolegwyr arbenigol sydd yng Nghymru neu ym Mhrydain.

Microglossum olivaceum
© Sam Bosanquet / CNC

Podoscypha multizonata
© Sam Bosanquet / CNC

Psathyrella ammophila
© David Harries

Ffyngau yng Nghymru

Mae ffyngau yn bresennol yn y rhan fwyaf o amgylcheddau ac efallai eu bod yn aml yn gysylltiedig â choetir ond mae dolydd, bryniau a thwyni tywod Cymru hefyd yn gartref i amrywiaeth helaeth o rywogaethau ffyngau. Mae’n debygol bod mwy na 12,500 o rywogaethau o ffyngau ym Mhrydain. Mae llawer o'r rhain wedi'u tangofnodi'n ddifrifol gyda dim ond ychydig o gofnodion ym Mhrydain ac nid oes fawr ddim rheswm dros ddisgwyl bod pob rhywogaeth nad yw wedi'i gofnodi yng Nghymru yn absennol.Gyda mwy o ymdrech cofnodi a datblygiadau ym maes adnabod DNA, bydd darlun mwy diweddar o amrywiaeth toreithiog ffyngau yng Nghymru yn dod i'r amlwg.

Mae coetiroedd yn cynnal y casgliadau mwyaf amrywiol o ffyngau yng Nghymru.Mae'r amantia’r gwybed (Amanita muscaria), caws llyffant sy’n adnabyddus mewn straeon tylwyth teg yn gysylltiedig â bedw, pinwydd neu sbriws i'w weld fel arfer ar briddoedd ysgafn.Mae ffyngau ysgwydd sy'n tyfu ar goed byw neu farw yn amlwg iawn mewn coetiroedd, mae enghreifftiau yn cynnwys cwnffon twrci (Trametes versicolor) a charn y fedwen (Fomes fomentarius).Ceir cymunedau ffwng ar laswelltir o ganlyniad i hinsawdd gefnforol Cymru, hanes hir o bori a thirwedd fryniog ac mae'n cynnwys y madarch parasol cyfarwydd (Macrolepiota procera) a chap inc aflêr (Coprinus comatus).Mae ffyngau cap cwyr sy'n gysylltiedig â glaswelltiroedd maethol isel yn arbennig o bwysig yng Nghymru ac maent yn cynnwys cap cwyr y ddôl (Hygrocybe pratensis) a chap cwyr duol (Hygrocybe conica). Mae cynefinoedd twyni tywod hefyd yn lle da i ddod o hyd i ffyngau sy'n gysylltiedig â mewnbwn maethol isel ac maent yn cynnwys rhywogaethau megis y coesyn brau moresg (Psathyrella ammophila). Mae’r coesyn brau moresg yn saprotroffig ar y moresg ac yn goddef halen

Gwarchod Ffyngau yng Nghymru

Mae 27 o rywogaethau o ffyngau yng Nghymru ar restr Adran 7 (S7) o rywogaethau blaenoriaeth. Ceir rhywogaethau ar y rhestr S7 mewn ecosystemau amrywiol, gan gynnwys glaswelltir (Hygrocybe spadicea cap cwyr gwinau), cynefinoedd twyni (Geastrum elegans seren ddaear gain; Hoesbuehelia culmicola wystrysen y moresg; coesyn pengrwn cennog Tulostoma melanocyclum); cynefinoedd corstir (ffwng melog y cors Armillaria ectypa); parcdir gyda choed hynafol (pigau barfog Hericeum erinaceus ac ysgwydd y dderwen Piptoporus quercinus); coetir gwlyb (menig helyg Hypocreopsis lichenoides) a ffiniau cae / coetir hynafol (nifer o rywogaethau 'stipitate hydnoid').

Mae capiau cwyr yn arbennig o sensitif i aflonyddu’r pridd a chemegau ac mae hyn yn golygu bod aredig a defnyddio gwrteithiau a chwynladdwyr yn fygythiad iddynt ac mae rhywogaethau S7 yn cynnwys tafod y ddaear dulas (Geoglossum atropurpureum), cap cwyr gwinau (Hygrocybe spadicea) a'r tafod daear melynwyrdd (Microglossum olivacewm).

Mae angen mwy o waith i ddeall rhannau ffyngau mewn ecosystemau coetir, yn enwedig coetir hynafol. Mae cynnydd yn lefelau amonia a nitrad yn debygol o arwain at golli rhywogaethau ffwng coetir arbenigol (a rhywogaethau arbenigol o grwpiau tacsonomig eraill).

Rydym yn dal i ddysgu am ffyngau ac mae gan yr ychydig o fycolegwyr sydd yng Nghymru lawer o gwestiynau yn dal heb eu hateb am eu dosbarthiad, eu hecoleg, eu patrymau ffrwytho a’u hanghenion cadwraeth manwl.

Rhan o'r anhawster sy'n gysylltiedig ag ateb y cwestiynau hyn yw mai dim ond ychydig o bobl sy'n gallu adnabod y ffyngau hyn yn y maes yn hyderus ynghyd â’r ffaith bod y ffyngau hyn yn ffrwytho’n ysbeidiol ac yn dymhorol.

Gall dadansoddiad DNA o samplau pridd ein helpu i nodi lle mae'r cymunedau ffyngau hyn yn bresennol.Mae Prifysgol Aberystwyth, dan arweiniad Dr Gareth Griffith, wedi bod yn ymgymryd â rhaglen bwysig o waith ymchwil DNA.Mae'r gwaith hwn yn ein helpu i wella ein gwybodaeth am gapiau cwyr Cymru yn raddol, fodd bynnag, nid yw hyn yn ddigon ar ei ben ei hun, mae angen llawer o lygaid o hyd a all adnabod y ffrwythgyrff yn y maes.

Ble allwn ni weld ffyngau yng Nghymru

Mae'r rhan fwyaf o is-siroedd yng Nghymru wedi cofnodi rhwng 1500 a 2000 o rywogaethau o ffyngau, ac mae rhywogaethau newydd i bob sir, a hyd yn oed i Gymru, yn parhau i ymddangos bob blwyddyn. Gallwch weld ffyngau ar unrhyw adeg o'r flwyddyn mewn amrywiaeth o amgylcheddau ond gan amlaf yn yr hydref pan fo'r ffrwythgyrff i’w gweld, a’r rheini’n lliwgar yn aml.

Mae Niwbwrch yn Ynys Môn yn arbennig o bwysig ac ystyrir mai yno ceir y casgliad ffyngau twyni cyfoethocaf ym Mhrydain. Ar y glaswelltiroedd ucheldirol ger y Fenni ceir amrywiaeth rhagorol o ffyngau glaswelltir.Mae Mere Pool Valley ar GNG Stagbwll yn Sir Benfro yn safle da ar gyfer ffyngau ac ambell i flwyddyn ceir arddangosiadau da o fenigau cyll (Hypocreopsis rhododendri).Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coedmor ger Aberteifi yn safle ardderchog ar gyfer ffyngau coetir.

Ambarelo’r bwgan’ © Sean McHugh

Amantia’r gwybed © Alun Williams

Ysgwydd felen © Alun Williams

Cofnodi ffyngau

Mae sawl ffordd o ddathlu byd anhygoel ffyngau, boed drwy gymryd rhan mewn taith ffyngau ar gyfer grŵp, neu’n syml ddigon drwy nodi ffyngau ar daith gerdded ar eich pen eich hun neu gyda theulu neu ffrindiau

Ceir nifer o grwpiau yng Nghymru sy'n gwneud gwaith adnabod ac ymchwilio i ffyngau, ac ymweliadau maes yng Nghymru. Beth am ymuno ag un o'r grwpiau hyn a helpu i gyfrannu at ein gwybodaeth am fyd difyr ffyngau.

Cymdeithas Mycoleg Prydain

Grŵp Ffyngau Morgannwg

Grŵp Ffyngau Gwent

Grŵp Ffyngau Gogledd Orllewin

Rhwydwaith Cofnodi Ffyngau Sir Benfro


Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt