Adran 6 – Y ddyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau

Mae natur yn dirywio – drwy sicrhau ymroddiad y sector cyhoeddus i’r amgylchedd naturiol, fe allwn ysbrydoli pobl drwy Gymru gyfan i ofalu am ein byd natur gwerthfawr, a’i wella, er mwyn pob un ohonom.

Yn ôl adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 mae gan awdurdodau cyhoeddus sy’n gweithredu yng Nghymru ddyletswydd i gynnal ac i wella bioamrywiaeth ac i annog cryfder ecosystemau. Tra bod ein safleoedd a’r rhywogaethau a warchodir yn bwysig, mae gofynion s6 yn ymwneud â chymryd camau i warchod natur yn ein trefi, dinasoedd, mannau cyhoeddus a’r dirwedd ehangach, drwy weithredu ymarferol, ac yn y modd y mae’r holl weithredoedd cyhoeddus yn cael eu trefnu.

I gyflawni hyn, ac i gydymffurfio â’r ddyletswydd, dylai awdurdodau cyhoeddus angori’r ystyriaeth am fioamrywiaeth ac ecosystemau yn eu gweithredoedd o ddydd i ddydd, yn eu polisïau, eu cynlluniau, rhaglenni a’u prosiectau. Mae angen newid y ffordd yr ydym yn meddwl am weithredu dros fioamrywiaeth.

Nid y mentrau tirwedd ar raddfa fawr yn unig sy’n bwysig, ond hefyd y gweithredoedd llai, lleol, bob dydd sy’n gallu gwneud gwahaniaeth ac yn gallu cyfrannu i helpu bioamrywiaeth. Os nad ydych chi na’ch sefydliad yn ymwneud â rheolaeth tir, hyd yn oed, fe all eich penderfyniadau ddal gael effaith ar fioamrywiaeth drwy, er enghraifft, fabwysiadu polisi caffael sy’n fwy lleol a chynaliadwy, neu drwy benderfyniadau cyllido ac amodau.

Er mwyn cydymffurfio â’r ddyletswydd, rhaid i awdurdodau cyhoeddus baratoi a chyhoeddi cynllun yn amlinellu’r hyn maent yn bwriadu ei wneud i gynnal a gwella bioamrywiaeth ac annog gwytnwch.

Rhaid cyhoeddi adroddiad am yr hyn y mae’r awdurdod cyhoeddus wedi ei wneud er mwyn cydymffurfio â’r ddyletswydd erbyn diwedd 2019 ac yna bob tair blynedd ar ôl y dyddiad hwn.

Mae dogfen Cwestiynau Cyffredin i’w gweld yma.



Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt