Grŵp Rhywogaethau Estron Goresgynnol

Rhywogaethau Goresgynnol

Mae Rhywogaethau Estron Goresgynnol (INNS) yn blanhigion, yn anifeiliaid, yn ffyngau ac yn ficro-organebau sydd wedi’u cyflwyno i rannau o’r byd lle nad ydynt i’w gweld yn naturiol. Mae ganddynt y gallu i ledaenu gan achosi difrod i’r amgylchedd, yr economi, ein hiechyd a’n ffordd o fyw. INNS yw’r ail fygythiad mwyaf i fioamrywiaeth ar ôl colli cynefinoedd a darnio. Amcangyfrifir bod INNS yn costio o leiaf £1.8 biliwn o bunnau i economi’r DU bob blwyddyn; maen nhw’n effeithio’n bennaf ar y sectorau ffermio a garddwriaethol ond gallant hefyd effeithio ar drafnidiaeth, adeiladu, hamdden, dyframaeth a chyfleustodau.

Grŵp Rhywogaethau Estron Goresgynnol Cymru

Ffurfiwyd Grŵp Rhywogaethau Estron Goresgynnol Cymru i helpu i adnabod blaenoriaethau INNS a datrys materion sy’n berthnasol i Gymru. Mae’r grŵp yn gweithredu fel ffynhonnell arbenigedd ar INNS yng Nghymru. Yn gyffredinol, mae’r grŵp yn cwrdd tair gwaith y flwyddyn. Mae ei raglen waith yn canolbwyntio ar weithredu o dan 5 maes testun allweddol – hyrwyddo gweithredu, codi ymwybyddiaeth, rhannu arfer gorau, cyfnewid gwybodaeth ac arbenigedd. Ymhlith yr aelodau y mae cynrychiolwyr o Bartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru, Academia, Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr, Awdurdodau Lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyswllt Amgylchedd Cymru, Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chwmnïau cyfleustodau.

  1. Aelodaeth Grŵp Rhywogaethau Goresgynnol Estron
  2. Dogfen Negeseuon Allweddol

Er mwyn cysylltu â’r grŵp, cysylltwch â ni.

Himalayan Balsam

Strategaeth Rhywogaethau Estron Goresgynnol Prydain Fawr

Mae Strategaeth Rhywogaethau Estron Goresgynnol Prydain Fawr yn cynnig fframwaith ar sut i isafu ar y risgiau y mae’r INNS yn eu hachosi. Amlinella’r Strategaeth nodau a chamau gweithredu allweddol er mwyn mynd i’r afael â’r bygythiadau a achosir gan INNS.

Strategaeth Rhywogaethau Estron Goresgynnol Prydain Fawr

Mae camau yn cael eu cymryd ar draws Cymru a Phrydain Fawr gan amryw grwpiau, prosiectau a sefydliadau i helpu i ostwng y risgiau a’r effeithiau sy’n gysylltiedig â rhywogaethau estron goresgynnol.

Mae nifer o Grwpiau Gweithredu Lleol yn brysur yng Nghymru yn mynd i’r afael â rhywogaethau gan gynnwys Prosiect Rhywogaethau Estron Goresgynnol Dyfrdwy. Mae’r prosiect yn fenter partneriaeth ar draws y dalgylch sy’n anelu at gydlynu rheolaeth ar rywogaethau estron goresgynnol (INNS) a’u monitro o fewn dalgylch Dyfrdwy i sicrhau bod ymdriniaeth unedig tuag at reoli INNS yn cael ei chyflenwi.

  1. Grwpiau Gweithredu Lleol
  2. Poster Grwpiau Gweithredu Lleol yng Nghymru (PDF)

Mae’r Grŵp Rhywogaethau Estron Goresgynnol Cymru yn cynnal rhestr o Rywogaethau Blaenoriaeth i’w Gweithredu yng Nghymru. Gellir defnyddio’r rhestr hon i helpu i ganolbwyntio gweithredu ar INNS yng Nghymru. Rhestrir rhywogaethau o dan dri chategori – rhywogaethau blaenoriaeth i’w hatal (rheini nad ydynt hyd yma yn y gwyllt ond yn debyg o gyrraedd), rhywogaethau blaenoriaeth i’w rheoli (y rheini sy’n bresennol yn y gwyllt mewn niferoedd isel) a rhywogaethau blaenoriaeth i’w rheoli’n hirdymor (y rheini sydd wedi’u sefydlu yn y gwyllt)

  1. Rhywogaethau Blaenoriaeth INNS i’w Gweithredu yng Nghymru (PDF) (Saesneg yn unig)
  2. Rhywogaethau Estron Goresgynnol Morol: Rhestr Flaenoriaeth i’w Monitro a’u Gwylio yng Nghymru

Mae cofnodion rhywogaethau estron yn ein helpu ni i ddeall faint o rywogaethau INNS sy’n bresennol ym Mhrydain, a’u cyfradd ledaenu. Gall pawb ddarparu cofnodion biolegol defnyddiol o rywogaethau estron, a chyda datblygiad safleoedd cofnodi ar-lein ac apiau ffonau clyfar mae bellach yn haws nac erioed. Dylid adrodd am weld INNS yn unol ag arweiniad Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr.

Mae rhai rhywogaethau yn hynod oresgynnol ac yn cael eu categoreiddio yn 'Rhywogaethau Rhybudd'. Mae’n arbennig o bwysig adrodd am y rhain os ydych chi’n eu gweld.

Edrychwch ar ddosbarthiad Rhywogaethau Estron Goresgynnol sydd o ddiddordeb i Gymru ar wefan Atlas Rhwydwaith Bioamrywiaeth Genedlaethol Cymru - Porth Rhywogaethau Estron Goresgynnol (INNS)

Mae’r Porth Rhywogaethau Estron Goresgynnol yn cynnwys dros 300 o rywogaethau’r tir, dŵr croyw a morol sydd o ddiddordeb yma yng Nghymru, ac yn ein galluogi i chwilio am a lawrlwytho unrhyw ddigwyddiad a dosraniad o rywogaethau, unai yn unigol neu mewn rhestr. Mae’r rhywogaethau’n cynnwys y rheini sydd wedi’u rhestru dan ddeddfwriaethau UE a chenedlaethol, a’r rheini sydd o ddiddordeb polisi a diddordeb ymarferol, gan gynnwys y rheini sydd wedi’u hadnabod fel Rhywogaethau Estron Goresgynnol Cymru wedi’u blaenoriaethau am weithrediad gan Grŵp INNS Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru.

Mae bioddiogelwch yn ymwneud â gostwng risg o gyflwyno neu ledaenu INNS (ac organebau niweidiol eraill megis clefyd) yn y gwyllt.

Wrth ymweld â safleoedd gyda dŵr dilynwch y camau hyn:

  • GWIRIWCH yr holl ddillad a chyfarpar
  • GLANHEWCH yr holl ddillad a chyfarpar ar y safle
  • SYCHWCH unrhyw gyfarpar a dillad yn drylwyr
  1. Gwiriwch, Glanhewch, Sychwch
  2. Modiwl e-ddysgu bioddiogelwch

Mae WaREN yn hyrwyddo bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau drwy ddatblygu dull cydweithredol a chynaliadwy o reoli rhywogaethau estron goresgynnol (INNS) ledled Cymru.

Yn ei gyfnod datblygu, gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru, cyflawnodd WaREN sawl cam gweithredu allweddol gan gynnwys:

  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid fel Grwpiau Gweithredu Lleol i gasglu gwybodaeth am brosiectau INNS i nodi bylchau, rhwystrau a chyfleoedd i gydweithio
  • Dadansoddiad o effeithiau a dosbarthiad INNS yng Nghymru
  • Cynllunio amrywiaeth o becynnau cymorth ac offer i gofnodi camau gweithredu

Sefydlwyd Bwrdd Prosiect WaREN gyda’r aelodau’n cynnwys Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, Dŵr Cymru, Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru (y sefydliad arweiniol). Mae Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr a rheolwyr tir yn eistedd ar y Bwrdd fel cynghorwyr arbennig. Diben Bwrdd y Prosiect yw darparu strwythur llywodraethu a rhoi cymorth wrth wneud penderfyniadau.

Ariennir WaREN II gan Gynllun Rheoli Cynaliadwy Llywodraeth Cymru a bydd nawr yn adeiladu ar lwyddiant y cyfnod datblygu. Bydd y prosiect arloesol hwn yn rhoi cyfleoedd i gydweithio drwy gynyddu ymgysylltiad, cyfranogiad a chydweithrediad gydag ystod eang o randdeiliaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, gan gynnwys Grwpiau Gweithredu Lleol.

Bydd y prosiect yn cael effaith wirioneddol ar fynd i'r afael yn gadarn ag effaith INNS ar amgylchedd, economi a lles pobl yng Nghymru.


Sut i gymryd rhan? Rydym yn awyddus i ymgysylltu â sefydliadau, busnesau a grwpiau cymunedol sydd â diddordeb mewn INNS a byddwn yn cynnal cyfres o weithdai rhanbarthol. Cysylltwch â ni drwy e-bost neu am fwy o wybodaeth cliciwch yma.

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt