Lleol i chi

Mae partneriaethau natur lleol yn gweithredu ym mhob rhan o Gymru gan gynnig canolbwynt i gyflawni amcanion y Cynllun Adfer Natur a Rheolaeth Gynaliadwy o Adnoddau Naturiol ar lefel leol, yn ogystal â chyfrannu at nifer o nodau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae gan Gymru rwydwaith cryf o gydgysylltwyr bioamrywiaeth, ecolegwyr a staff cefn gwlad cysylltiedig i helpu i ateb eich cwestiynau am fioamrywiaeth a chefn gwlad yn eich ardal. Defnyddiwch y dolenni ar y dde i weld manylion cyswllt ar gyfer cysylltiadau lleol yng Nghymru.

Mae gan Warchodfeydd Natur Lleol nodweddion naturiol sydd o ddiddordeb arbennig i’w hardaloedd ac sy’n cynnig cyfleoedd i bobl astudio, dysgu neu fwynhau natur. Mae gan lawer o awdurdodau lleol Warchodfeydd Natur Lleol dynodedig. Mae mwy na 90 yng Nghymru sy’n cynnig cyfleoedd i bobl ac i fywyd gwyllt.

Camau Gweithredu Natur Lleol

Defnyddiwch y dolenni isod i weld manylion cyswllt y swyddogion bioamrywiaeth lleol yng Nghymru.

Ynys Môn

Mae nifer o gynefinoedd blaenoriaethol ar Ynys Môn gan gynnwys Rhostir Isel ac Arfordirol, Gwelyau Cyrs, Corstiroedd, Coetiroedd Collddail, Perthi Hynafol a Chyfoethog eu Rhywogaethau, Pyllau ac Ymylon Ffyrdd Llawn Blodau; a rhai o’r twyni tywod mwyaf helaeth yng Nghymru. Dyma un o gadarnleoedd rhai rhywogaethau prin, gan gynnwys y Fadfall Ddŵr Gribog, y Wiwer Goch, y Dyfrgi, Llygoden Bengron y Dŵr a’r Frân Goesgoch, gyda chynlluniau gweithredu ar gyfer pob un ohonynt.

Mae’r bartneriaeth yn cynnwys Cyngor Sir Ynys Môn, CNC, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, CNC, Menter Môn, RSPB, Ymwybyddiaeth Forol Gogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Adran Amaethyddiaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Grŵp Amffibiad ac Ymlusgiad Gogledd-orllewin Cymru ac eraill; hyd yma, mae’r Fforwm yn cyfarfod yn flynyddol.

Rhai prosiectau sy’n cynorthwyo cyflawni’r Cynllun Gweithredu Lleol ar Fioamrywiaeth hyd yn hyn: Arolwg Gwrychoedd Dwyrain Ynys Môn, symud toriadau ymylon ffyrdd blodeuog, cymorth ariannol Cronfa Cyfleoedd Newydd ar gyfer cynorthwyo diogelu coetir hynafol ar safle GNL ac adfer a chreu pyllau ar gyfer Madfallod Cribog.

Staff Ecoleg/ Bioamrywiaeth/ Bywyd Gwyll Cyngor Sir Ynys Mon:

David Cowley

Ymgynghorydd Ecolegol ac Amgylcheddol:
Arweiniad strategol/ polisi, Safleoedd/ rhywogaethau sy'n cael eu gwarchod, cyngor cynllunio/ deddfwriaeth/ cydymffurddio;

Ffôn: 01248 752470
Ebost: [email protected]

Cysylltwch â ni:Gwasanaeth Cynllunio

Cyngor Sir Ynys Mon
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW

Ffôn: Gweler staff unigol uchod
Ebost: [email protected]
Gwefan: clicwch yma

Gwynedd

Mae gan Wynedd gyfoeth o fywyd gwyllt ac amrywiaeth o gynefinoedd. Mae arfordir hardd Pen Llŷn, gyda’i greigiau meddal a’i draethau tywod, ei lonydd culion a’i gloddiau pridd cynhenid yn unigryw o ran cymeriad. Mewn cyferbyniad llwyr, mae ucheldiroedd amlwg sydd yn ein harwain i lawr at ddyffrynnoedd gwyrddion a gweddillion coedlannau hynafol.

Mae’r bywyd morol o gwmpas ein glannau a’r amrywiaeth o anifeiliaid, yn cynnwys coralau meddal, milflodau’r môr, pysgod, octopysau a chrancod, sydd yn byw ar greigresi a gwely’r môr. Mae ardal arfordirol Gwynedd a’i chwareli segur yn darparu cynefin ar gyfer y bran goesgoch sef y rhywogaethau prinnaf o fran yn y DU. Mae Pen Llŷn lle credir bod niferoedd y minc yn parhau yn gymharol isel, hefyd yn ardal bwysig i’r llygoden ddŵr. Mae gan Wynedd hefyd naw math o ystlum, gan gynnwys yr ystlum bedol leiaf sydd yn brin ac wedi diflannu o fwyafrif ei gynefinoedd yng Ngogledd Ewrop.

Natur Gwynedd ydi’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol (CGBL) dros Wynedd (oddi allan i Barc Cenedlaethol Eryri). Datblygwyd cynlluniau gweithredu penodol ar gyfer llawer o gynefinoedd a rhywogaethau e.e. porfa rhos, cloddiau, gwastadeddau lleidiog, ysgyfarnog, tylluan wen a brith y gors.

Mae gan Natur Gwynedd grŵp llywio sy’n cyfarfod o leiaf ddwywaith y flwyddyn ac mae’n cynnwys Cyngor Gwynedd, cyrff amgylcheddol a chadwraeth statudol fel CNC, sefydliadau heblaw’r llywodraeth sy’n ymwneud â bywyd gwyllt a chadwraeth fel BTCV Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, yr undebau amaeth, a chynrychiolwyr Prifysgol Cymru, Bangor.

Mae rhai o’r prosiectau sydd wedi eu cwblhau fel rhan o’r CGBL yn cynnwys arolygon a hyfforddiant brith y gors, llygoden ddŵr, ffwng glaswelltir a chwyn tir ar; digwyddiadau codi ymwybyddiaeth fel saffari pyllau glan y môr, teithiau ystlumod, a helfa ffwng; a gwaith adfer cynefinoedd yn cynnwys ffensio, plannu gwrych a chreu pyllau.

Cysylltwch â ni:

Uned BioamrywiaethGwasanaethau Amgylcheddol

Cyngor Gwynedd
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH

Ffôn: 01286 679977
Ebost: [email protected]
Gwefan: clicwch yma

Parc Genedlaethol Eryri

Dafydd Roberts - Uwch Ecolegydd

Mae Parc Cenedlaethol Eryri’n gyfystyr ag ardaloedd eang o ucheldiroedd gwyntog a chribau ond mae yno hefyd amrywiaeth o gynefinoedd naturiol a lled-naturiol ysbrydoledig. Mae llawer o’r rhain, ynghyd â’i rywogaethau, o bwysigrwydd rhyngwladol ac nid ydynt i’w cael yn unman arall yn y byd.

Daeth nifer o brosiectau o Fioamrywiaeth yn Eryri (Cynllun Gweithredu Lleol ar Fioamrywiaeth Eryri) sy’n rhoi sylw i gadwraeth rhywogaethau, cyfoethogi cynefinoedd a chynyddu ymwybyddiaeth, e.e. caiff taflen newyddion i wirfoddolwyr ei chynhyrchu bob chwarter, cynhaliwyd arolygon rhywogaethau ar gyfer y gnocell werdd a llygod pengrwn y dŵr a gweithredwyd amryw brosiectau cynefinoedd glannau afonydd.

Mae Parc Cenedlaethol Eryri hefyd yn gweithio gydag ac ochr yn ochr â chyrff ac unigolion niferus eraill i hyrwyddo gwarchod ei fioamrywiaeth unigryw, e.e. Grŵp Mamolion Glannau Afonydd Gogledd-orllewin Cymru ac arweiniadau Pysgota Cynaliadwy Gwynedd.

Cysylltwch â ni

Snowdonia National Park Authority
Swyddfa’r Parc
Penrhyndeudraeth
Gwynedd,
LL48 6LF

Ffôn:01766 772513
Ebost: [email protected]
Gwefan: clicwch yma

Conwy

Swyddog Prosiectau Bioamrywiaeth

Mae amrywiaeth cyfoethog eithriadol o gynefinoedd i'w gweld ym Mwrdeistref Sirol Conwy yn rhedeg o glogwyni arfordirol a thraethau i ddyffrynnoedd cysgodol a rhostir agored. Mae buddiant gwarchod natur yr ardal yn sylweddol ac mae'n cynnwys llawer o nodweddion pwysig fel ardaloedd o galchbalmant, coetiroedd, gwrychoedd, dolydd a thir pori, gwelyau cyrs, gweundir, pyllau a chynefinoedd aberol. Mae Conwy hefyd yn cynnal rhywogaethau prin a chlwyfadwy gan gynnwys rhai nad ydynt i'w cael yn unman arall yng Nghymru, fel y gwyfyn rhesog teg, ac eraill nad ydynt i'w cael yn unman arall yn y DU, fel Cotoneaster y Gogarth, sydd ond yn bodoli ar y Gogarth.

Cyhoeddwyd LBAP Conwy ym mis Mai 2003 ac mae'n cynnwys 4 Cynllun Gweithredu ar Gynefinoedd, 11 Cynllun Gweithredu ar Rywogaethau ac 1 Cynllun Gweithredu Pwnc. Mae tri chynllun arall i gael eu lansio'r haf hwn (Ymlusgiaid Daearol, Y Rugiar Ddu a'r Glesyn Serennog).

Cysylltwch â ni

Conwy County Borough Council
Council Offices
Colwyn Bay
Conwy
LL29 8AB

Ffôn: 01492 575123
Ebost: Cefn Gwlad
Gwefan: clicwch yma

Sir Ddinbych

Cynefinoedd a Rhywogaethau yn Sir Ddinbych

Yn Sir Ddinbych rydym yn ffodus o gael amrywiaeth o gynefinoedd pwysig ar garreg ein drws – o rostiroedd grug i dwyni tywod yr arfordir, o goetiroedd i laswelltiroedd calchfaen – ac mae’r rhain yn cynnal casgliad o rywogaethau. Mae’r prif rai’n cynnwys y grugiar ddu, y pathew, llyffant y twyni a madfall y tywod. A dyma’r unig fan yng Nghymru ble ceir blodyn y sir – briwlys y calch.

Partneriaeth y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol

Mae Sir Ddinbych yn rhan o Bartneriaeth CGBLl Gogledd Ddwyrain Cymru, sy’n dwyn ynghyd waith bioamrywiaeth yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Mae’r Bartneriaeth yn uno sefydliadau pwysig, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Ddwyrain Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru yn ogystal â sefydliadau lleol ac unigolion sydd â diddordeb. Rydym yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn.

Prosiectau Bioamrywiaeth

Rydym yn cynnal amryw o brosiectau bioamrywiaeth gyda gwahanol bartneriaid. Mae rhai prosiectau cyfredol yn cynnwys gwella cynefinoedd ar gyfer llygoden bengron y dŵr ar Afon Chwiler, adfer meryw ar Fryniau Prestatyn, rheoli jac y neidiwr a darparu blychau nythu ar gyfer y dylluan wen.

Cysylltwch â ni

Parc Gwledig Loggerheads
Fford y Ruthin
Yr Wyddgrug
CH7 5LH

Ffôn: 01352 811029
Ebost: [email protected]
Gwefan: clicwch yma

Sir y Fflint

Sarah Slater - Swyddog Bioamrywiaeth

Mae Sir y Fflint yn sir o gyferbyniadau. Yn gorwedd rhwng y siroedd gwledig i’r gorllewin o Fryniau Clwyd ac ardaloedd mwy datblygedig Sir Gaer a Glannau Mersi, mae defnydd tir yn amrywio o ddatblygu diwydiannol dwys trwodd i ardaloedd anghysbell a gwyllt. Dros yr ychydig ddegawdau diwethaf, trawsffurfiwyd ardal Sir y Fflint yn sylweddol. Mae effaith datblygu amaethyddiaeth, tai a thynnu mwnau’n arwyddocaol ond, eto, mae Sir y Fflint yn dal i gadw llawer o ardaloedd sydd o bwysigrwydd i fywyd gwyllt, o fewn cylchoedd trefol a gwledig fel ei gilydd. .

Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Sir y Fflint yn cynnwys grŵp llywio bach sy’n goruchwylio’r broses ynghyd â fforwm technegol sy’n cynghori’r grŵp llywio ar faterion rhywogaethau a chynefinoedd. Mae gweithgor hefyd sy’n edrych yn benodol ar Addysg Bioamrywiaeth, Ymwybyddiaeth a Chyfranogiad y Gymuned.

Cysylltwch â ni

Department of Transportation and Planning
Cyngor Sir y Fflint
Neuadd y Sir
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 6NF

Ffôn: 01352 703 263
Ebost: [email protected]
Gwefan: clicwch yma

Wrecsam

Emma Broad - Ecolegydd

Mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynnwys ardaloedd o dir isel ac ucheldir a rhychwant y cynefinoedd a rhywogaethau sy’n gysylltiedig â hwy.Yn y tiroedd isel mae dros 2000 o byllau gyda chyfanswm eu harwynebedd yn un cilomedr sgwâr. Mae’r pyllau hyn yn gynefin pwysig i’r rhywogaethau gwarchodedig fel y fadfall ddŵr gribog a’r chwilen blymio arian, anifail di-asgwrn-cefn anghyffredin dros ben a ddarganfuwyd ond yn ddiweddar yng Nghymru.

Mae un o’r poblogaethau magu mwyaf o fadfallod dŵr cribog yn y Fwrdeistref Sirol. Mae’r ardal yn cynnwys cors iseldirol fwyaf Cymru, sy’n cael ei hadfer ar hyn o bryd ar ôl blynyddoedd o godi mawn at ddibenion garddwriaethol a garddio. Mae’r gors yn cynnwys llawer o greaduriaid a phlanhigion prin fel rhosmari gwyllt a llygod pengrwn y dŵr. Mae’r ucheldiroedd yn cynnwys y Berwyn a Mynydd Rhiwabon gyda mignen a rhostir sy’n cynnal y rugiar ddu.

Bydd Grŵp Bioamrywiaeth Wrecsam yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn ac mae’n bartneriaeth o gyrff y llywodraeth, grwpiau, elusennau ac unigolion. Y grŵp sy’n gweithredu Cynllun Gweithredu Lleol ar Fioamrywiaeth Wrecsam, a gynhyrchwyd ganddynt yn 2002. Mae Prosiectau Bioamrywiaeth y mae’r grŵp yn ymwneud â hwy’n cynnwys cyfoethogi cynefinoedd afon ac adeiladu gwalau dyfrgwn, cynnal arolygon o byllau a’u rheoli, arolygon adar rhostir ac arolygon tir glas diffaith yn ogystal â phrosiectau addysgol a chynyddu ymwybyddiaeth niferus.

Cysylltwch â ni

Wrexham County Borough Council
Lambpit Street
Wrexham
LL11 1WL

Ffôn: 01978 298 762
Ebost: [email protected]
Gwefan: clicwch yma

Ceredigion

'Mae Ceredigion yn doreithiog o gynefinoedd a bywyd gwyllt, ac mae bioamrywiaeth yn rhan bwysig o arbenigrwydd y Sir. Yn wir, mae’r rhosydd (sydd hefyd yn gynefin i frithegion y gors prin), yr aberoedd a’r gwlyptiroedd o bwysigrwydd rhyngwladol sy’n cynnal adar dŵr ac adar hirgoes, ynghyd â’r coetiroedd derw, i gyd yn cyfrannu at fioamrywiaeth y Sir. Hefyd, mae Ceredigion yn gadarnle i farcutiaid a brain coesgoch. Mae arfordir Bae Ceredigion yn bwysig i adar, ac mae’r dyfroedd yn cynnal dolffiniaid trwyn potel, llamidyddion a morloi llwydion. Nid ymboeni am rywogaethau prin neu rywogaethau dan fygythiad yn unig sydd ynghlwm wrth warchod bioamrywiaeth. Mae bioamrywiaeth yn cynnwys popeth byw. Mae gwarchod y bywyd sydd o’n cwmpas yn fwyfwy pwysig, nid yn unig oherwydd gwerth aruthrol y planhigion a’r anifeiliaid, ond er lles ein hanghenion ni.

Cafodd Cynllun Adfer Natur Ceredigion ei lansio ym mis Mawrth 2017 yng Nghanolfan yr Urdd, Llangrannog. Mae’n pennu amcanion a chamau gweithredu Partneriaeth Natur Ceredigion ar gyfer gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth a gweithio tuag at ecosystemau iach. Partneriaeth Natur Ceredigion sydd wedi’i lunio, sef grŵp a sefydlwyd i ddisodli’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol, ac mae’n anelu at warchod a chyfoethogi bioamrywiaeth leol yng Ngheredigion.

Mae cynllunio ar gyfer bioamrywiaeth yng Ngheredigion yn broses barhaus. Bydd Partneriaeth Natur Ceredigion yn esblygu wrth i’r wybodaeth gynyddu a thrwy gyfrwng y camau a gymerir i gynnal amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau yn y Sir.

Cysylltwch â ni:

Ceredigion County Council,
Aberaeron
SA46 0PA

Ffôn: 01545 570881
Ebost: [email protected]
Gwefan: Clicwch yma

Powys

Bioamrywiaeth ym Mhowys

Mae Powys yn adnabyddus am ei natur wledig a thirweddau hardd ac amrywiol; o glytweithiau eang o dir amaeth a amgaewyd i rostiroedd awelog uwchlaw Cwm Elan a Mynyddoedd garw Cambria. Mae’r sir yn gyforiog o fioamrywiaeth, ac ynddi dros 200 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Ymysg y detholiad eang o fywyd gwyllt a chynefinoedd mae enghreifftiau o rywogaethau a gydnabuwyd gan UKBAP ac sy’n flaenoriaeth ar gyfer cadwraeth yng Nghymru, fel glöyn byw prin y fritheg berlog sy’n dibynnu ar gynefinoedd ffridd a llethrau rhedynog sy’n wynebu’r de, a’r wiwer goch, a geir yng nghoedwigoedd conwydd enfawr gogledd-orllewin Brycheiniog

Partneriaeth Natur Powys

Grŵp o sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio gyda’i gilydd i warchod bywyd gwyllt Powys ar gyfer y dyfodol yw Partneriaeth Natur Powys. Mae’r bartneriaeth bresennol yn cynnwys: Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Maesyfed, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Maldwyn, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Brycheiniog, Gwasanaeth Gwybodaeth Bioamrywiaeth, FWAG Cymru, Ymddiriedolaeth Afonydd Hafren, Coed Cymru, Sefydliad Gwy ac Wysg a Dŵr Cymru/Welsh Water, ynghyd ag arbenigwyr lleol a chofnodwyr sirol.

Cynllun Gweithredu Adfer Natur Powys

Cychwynnwyd ar adolygiad o Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol (LBAP) Powys yn 2016, a chanlyniad hwnnw fydd Cynllun Gweithredu Adfer Natur Powys (PNRAP). Bydd y PNRAP yn offeryn hanfodol ar gyfer datblygu prosiectau a gweithredu a ymgymerir gan randdeiliaid cadwraethol a’r cyhoedd i warchod a gwella bioamrywiaeth a gwella cysylltedd cynefinoedd ar lefel dirweddol.

Mae’r PNRAP yn cynnwys Cynllun Gweithredu Cyffredinol, saith Cynllun Gweithredu Cynefin a thri Chynllun Gweithredu Rhywogaeth. Mae cynlluniau gweithredu drafft wrthi’n cael eu cwblhau o ganlyniad i adolygiad o’r rhywogaethau sy’n bwysig yn lleol o fewn Powys (parhaus) a dadansoddiad gofodol o gynefinoedd i adnabod ardaloedd o bwysigrwydd allweddol ar gyfer cynnal a chadw ecosystemau sy’n gysylltiedig, yn wydn ac yn lled-naturiol. Cefnogir y cynlluniau gweithredu gan ‘fapiau cyfle’ digidol i helpu gydag adnabod a thargedu lleoliadau ar gyfer cynnal, gwella, adfer neu greu cynefin i ddarparu ar gyfer bywyd gwyllt ym Mhowys.

Prif nod y PNRAP yw gwyrdroi’r dirywiad a fu mewn bioamrywiaeth ledled canolbarth Cymru drwy gyfrwng gwarchod a gwella cynefinoedd a rhywogaethau pwysicaf Powys. Ochr yn ochr â’r gwaith hwn, nod y Bartneriaeth yw cyfathrebu neges pwysigrwydd bioamrywiaeth i bawb ym Mhowys. Beth mae bioamrywiaeth yn ei wneud i ni, pam fod gwarchod yr hyn sydd gennym eisoes mor bwysig, a sut y gall ail-greu cynefinoedd mewn lleoliadau gofodol arwyddocaol greu’r manteision mwyaf, nid yn unig i’r ecosystem drwy gyfrwng mwy o wytnwch i’r ecosystem; ond i ninnau drwy fanteision gwasanaeth yr ecosystem.

Dylai Cynllun Gweithredu Adfer Natur Powys fod wedi’i gwblhau yn ystod 2018.

Cysylltwch â ni

Cyngor Sir Powys
Y Gwalia
Ithon Road
Llandrindod Wells
Powys
LD1 6AA

Ffôn: 01597 827500
Ebost: [email protected]

Gwefan: clicwch yma

Sir Benfro

Ant Rogers - Swyddog Bioamrywiaeth

Mae Sir Benfro’n haeddiannol enwog am ei harfordir gogoneddus, sy’n orlawn o adar ac, yn y gwanwyn, dan garped o flodau gwyllt, aberoedd tawel, dyffrynnoedd coediog serth a chylchoedd llydan o weundir ar Fynydd Preseli. Rhyngddynt mae clytweithiau o gaeau a choedlannau bach o fewn terfynau cloddiau pridd a cherrig sy’n aml yn hynafol iawn. Mae’r môr a gwely’r môr o gwmpas arfordir Sir Benfro’n llawn rhywogaethau, rhai ohonynt o gryn bwysigrwydd economaidd.

Mae bioamrywiaeth yn sylfaenol i ffyniant corfforol, economaidd ac ysbrydol pawb sy’n byw ac yn gweithio yn Sir Benfro.

Aelodau Partneriaeth Natur Sir Benfro

Cymdeithas y Tirfeddianwyr, Cyfoeth Naturiol Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru, Grŵp Cynghori Ffermio a Bywyd Gwyllt, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr – Cymru, OGAM, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Cyngor Sir Penfro, Ymddiriedolaeth Afonydd Sir Benfro, Rhwydwaith Gweithredu Lleol Sir Benfro ar Fenter a Datblygiad (PLANED), Ymddiriedolaeth y Tywysog – Cymru, Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Llywodraeth Cynulliad Cymru – Adran Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, Awdurdod Datblygu Cymru, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru.

Mae Partneriaeth Natur Sir Benfro’n rhoi’r fframwaith i weithredu lleol ar fioamrywiaeth fydd yn cyfrannu at gyrraedd targedau cenedlaethol ar gynefinoedd a rhywogaethau allweddol, a gwella ymwybyddiaeth a deall perthnasedd bioamrywiaeth i bobl Sir Benfro. Mae’n cwmpasu ardal Sir Benfro, gan gynnwys Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, dyfroedd y glannau a gwely’r môr o gwmpas arfordir Sir Benfro hyd at 12 milltir o’r lan.

Nod bras LBAP Sir Benfro yw

Cydgysylltu gweithrediadau presennol a dechrau a chydgysylltu rhai newydd i warchod a chyfoethogi bioamrywiaeth yn Sir Benfro, gan ystyried blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.

Cyhoeddwyd ef yn 2000 ac mae’n cynnwys 7 Cynllun Gweithredu ar Gynefinoedd a 24 Cynllun Gweithredu ar Rywogaethau. Mae mwy o gynlluniau’n cael eu cynhyrchu ar hyn o bryd ac mae’r holl gynlluniau a gyhoeddwyd ar gael fel ffeiliau pdf o’n gwefan.

Prosiect Partneriaeth Bioamrywiaeth Sir Benfro - Diweddariad Ebrill 2012 – Ebrill 2016

Cyflwr Bywyd Gwyllt yn Sir Benfro (Diweddariad 2011 & 2016)

Prosiect Penrhyn Castell Martin (Saesneg yn unig)

Cysylltwch â ni

Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP

Ffôn: 01437 764551
Ebost: [email protected]
Gwefan: clicwch yma

Sir Caerfyrddin

Isabel Macho - Biodiversity Officer

Swyddog Bioamrywiaeth

Mae Sir Gaerfyrddin yn haeddiannol enwog am ei harfordir bendigedig, ei haberoedd tawel, ei dyffrynnoedd coediog serth a’i hucheldiroedd garw. Trwy’r holl dir amaethyddol ac o amgylch yr ardaloedd trefol ceir rhwydwaith o gynefinoedd bywyd gwyllt – gwrychoedd, coedydd, dolydd gwlyb a chyrsiau dŵr – gyda phob un yn doreithiog o rywogaethau. Dyma rywbeth sy’n dylanwadu’n fawr ar gymeriad y tir a’i harddwch naturiol. Mae bioamrywiaeth y sir yn cyfrannu at ansawdd bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin, ac mae’n elfen bwysig yn niwydiant twristiaeth yr ardal a hefyd yn y diwydiant hamdden. Ymhellach, mae’r môr a gwely’r môr o amgylch arfordir Sir Gaerfyrddin yn doreithiog o rywogaethau, gydag ambell rywogaeth yn bwysig iawn mewn termau economaidd.

Marsh Fritillary

CGBLl Sir Gaerfyrddin

Mae Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Sir Gaerfyrddin wedi’i lunio gan bartneriaeth o sefydliadau sy’n ymhél â chadwraeth a bywyd gwyllt o fewn y sir. Mae’r cynllun yn cynnwys cyfres o gynlluniau gweithredu sy’n ymdrin â’r rhywogaethau a’r cynefinoedd sydd dan fygythiad cenedlaethol neu sy’n dirywio o fewn y sir, yn ogystal â’r rhywogaethau a’r cynefinoedd sy’n peri pryder yn lleol. Er enghraifft, mae’n cynnwys cynlluniau gweithredu ar gyfer dolydd yr iseldir, coedydd derw’r ucheldir, gwiwerod coch a llygod pengrwn y dŵr. Ym mhob cynllun gweithredu ceir camau gweithredu sydd â’r nod o warchod a chyfoethogi cynefin neu rywogaeth arbennig o fewn y sir. Er mwyn i’r camau gweithredu hyn lwyddo, bydd yn rhaid i nifer o unigolion a sefydliadau gydweithio mewn partneriaeth – yn cynnwys perchnogion tir, asiantaethau’r llywodraeth, grwpiau gwarchod bywyd gwyllt, awdurdodau lleol a diwydiannau.

Partneriaeth Bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin Yr Hyn a Gyflawnwyd yn 2017 (pdf)


Afon Tywi

Farmland view

Taf Estuary

Cysylltwch â ni

Cadwraeth a Chefn Gwlad
Carmarthenshire County Council
Swyddfa'r Cynghor
Crescent Road
Llandeilo
SA19 6HW

Ffôn: 01558) 825390
Ebost: [email protected]
Gwefan bioamrywiaeth Cyngor Sir Gar: clicwch yma

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Nicola Davies - Ecolegydd

Mae bioamrywiaeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ased naturiol heb ei ail. Mae’n helpu i siapio cymeriad arbennig y Parc Cenedlaethol; yn cefnogi ffermio, coedwigaeth, twristiaeth a busnesau eraill; ac yn rhoi cyfleoedd i ymwelwyr a thrigolion lleol fel ei gilydd gael adfywiad ysbrydol ac ymarfer corff iach.

Gellir dod o hyd i amrywiaeth ryfeddol o gynefinoedd yn ein Parc Cenedlaethol, o weundiroedd grug yr ucheldir, i wlâu graeanog Afon Wysg. Mae nifer o gynefinoedd a rhywogaethau’r Parc yn rhyngwladol bwysig, a’r Parc yw’r unig le ym Mhrydain lle gellir dod o hyd i nifer o rywogaethau prin. Mae’n cynnal mwy na 75% o galchbalmentydd Cymru ac mae’n gartref i fathau gwahanol o heboglys a cherddin prin ac endemig, na welir mohonynt yn unman arall.

Mae bywyd gwyllt hynod amrywiol y Parc yn ddyledus i’w hinsawdd arbennig a’i dopograffi gwaelodol, ynghyd â natur anghysbell y safle a’r arferion ffermio traddodiadol. Tirwedd led-naturiol, ddiwylliannol yw Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Natur sydd wedi’i siapio, ond arferion pobl o reoli’r tir dros filoedd o flynyddoedd sydd wedi dylanwadu arni. Mae’r fioamrywiaeth sy’n bodoli ym Mannau Brycheiniog heddiw wedi deillio o’r prosesau cydblethedig hyn.

Fodd bynnag, mae bioamrywiaeth yn fregus, hyd yn oed yn y Parc Cenedlaethol. Oherwydd hyn, mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol a’u partneriaid wedi cynhyrchu Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol ar gyfer Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn 2001.Cafodd y cynllun a’i gamau gweithredu eu hadolygu yn 2006. Mae’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol (CGBLl) yn nodi pa gynefinoedd a rhywogaethau sydd o bwysigrwydd arbennig o safbwynt cadwraeth yn y Parc Cenedlaethol, gan amlinellu camau hollbwysig y dylai’r bartneriaeth CGBLl eu cymryd.

Mae aelodau Grŵp Llywio Craidd y CGBLl yn cynnwys: Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Ymddiriedolaeth Natur Sir Frycheiniog, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Dŵr Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru (Cyfoeth Naturiol Cymru erbyn hyn).

Mae’r CGBLl yn ddogfen sy’n esblygu, ac mae adolygiad wrthi’n cael ei gynnal ar hyn o bryd.

I gael mwy o wybodaeth am fioamrywiaeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, edrychwch ar y wefan


Rhostir tir uchel ar Grib Hatterrall (h) B. Symons

Monitro cyflwr grug (h) R. Price

Gwyfyn Gwent (h) D. Grundy

Cysylltwch â ni

BBNPA
Plas y Ffynnon
Cambrian Way
Brecon
Powys
LD3 7HP

Ffôn: 01874 620 410
Ebost: [email protected]
Gwefan: clicwch yma

Abertawe

Deb Hill - Arweinydd Tîm Cadwraeth Natur

Amgylchedd Naturiol Unigryw Abertawe

Mae amgylchedd naturiol Dinas a Sir Abertawe o ansawdd a harddwch neilltuol. Mae amrywiaeth y tirluniau a’r cynefinoedd sy’n gorchuddio dros 80% o gyfanswm ardal y Sir yn cynnwys gweundir ucheldir, clogwyni arfordirol, traethau tywod, rhostir, coetir, gwlypdiroedd, dyffrynnoedd afonydd ac aberoedd.

Mae’r cynefinoedd hyn ynghyd â’r parciau a’r gerddi hanesyddol niferus, pocedi o leoedd gwyrdd trefol ac ardaloedd mawr o dir fferm yn golygu mai dyma un o’r siroedd mwyaf deniadol ac ecolegol amrywiol yn y DU, gyda dros 50% o ardal y Sir o ddiddordeb ecolegol sylweddol. Mae’r cyfoeth hwn o gynefinoedd bywyd gwyllt yn cefnogi amrywiaeth anferth o rywogaethau. Mae ymron i 70% o’r cynefinoedd ac o leiaf 20% o’r rhywogaethau sydd wedi’u hadnabod o bwysigrwydd ar gyfer Cadwraeth Bioamrywiaeth yn y DU i’w cael yn Abertawe, ac mae tua 17% o ardal y Sir wedi’i diogelu gan ddynodiadau ar lefel Ewropeaidd (Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, AGA, RAMSAR) neu Genedlaethol (SoDdGA, GNG).

Mae’r ardaloedd dynodedig hyn a chynefinoedd blaenoriaeth yn cynrychioli ein bioamrywiaeth gorau oll yn unig. Serch hynny, nid ydynt yn cynnwys popeth sy’n unigryw ac ni allant gynnal bioamrywiaeth ar eu pennau eu hunain. Mae hyd yn oed cynefinoedd cyffredin, safleoedd bywyd gwyllt trefol a mannau gwyrdd, yn bwysig wrth gynnal rhwydwaith o safleoedd rhannol naturiol, ac ansawdd a graddau’r adnodd bioamrywiaeth yn gyffredinol.

Ar y cyd, mae’r rhinweddau naturiol unigryw hyn yn golygu bod Abertawe yn fan arbennig i fyw ac ymweld â hi ac yn cyfrannu’n sylweddol at ansawdd bywyd, ac economi’r ardal.

Partneriaeth Naturiol Abertawe

Mae’r bartneriaeth yn grŵp prysur gyda chynrychiolwyr o nifer o sefydliadau ac unigolion wedi’u huno â’u diddordeb mewn cadwraeth, cyfoethogi, a chodi ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth Abertawe. Mae’r rhain yn cynnwys adrannau awdurdod lleol perthnasol, y sector cadwraeth elusennol, tirfeddianwyr, a naturiaethwyr proffesiynol ac amatur.

Cysylltwch â ni

Nature Conservation Team
Directorate of Place
Stafell 2:6:1
Canolfan Ddinesig
Dinas a Sir Abertawe
Abertawe
SA1 3SN

Ffôn: 01792 635 777
Ebost: [email protected]
Gwefan: clicwch yma


Rebecca Sharp - Ecolegydd a Chydlynydd y Fforwm Bioamrywiaeth

Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Castell-nedd Port Talbot

Yn 2014 lansiwyd ffordd newydd o flaenoriaethu cadwraeth bywyd gwyllt yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol – CGBLl – newydd wedi ymrwymo i gyfoethogi holl fioamrywiaeth Castell-nedd Port Talbot.

Mae'r cynllun yn cynnwys taenlenni ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau unigol neu gasgliadau fel pryfed peillio. Mae'r rhain yn dangos statws cyfredol a thueddiadau yng Nghastell-nedd Port Talbot, a’r bygythiadau hysbys, ac yn cofnodi’r holl brosiectau sy'n cyfrannu at warchod a chyfoethogi cynefinoedd a rhywogaethau. Caiff yr holl waith, ni waeth pa mor fach ydyw, ei gofnodi yma. Caiff ei fapio a'i gymharu â gwybodaeth arall, fel dosbarthiad hysbys rhywogaeth arbennig. Mae'r mapiau hyn yn dangos faint o waith sy'n cael ei wneud yng Nghastell-nedd Port Talbot gan yr holl bartneriaid. Mae hefyd yn caniatáu i'r Fforwm Bioamrywiaeth ganolbwyntio adnoddau lle y mae eu hangen fwyaf.

Mae'r cynllun yn ddogfen newidiol. Ym mhob un o gyfarfodydd Fforwm Bioamrywiaeth Castell-nedd Port Talbot cesglir gwybodaeth am y prosiect. Mae’r Tîm Bioamrywiaeth yn cynnal y data ac yn tynnu sylw at unrhyw faterion y mae angen mynd i'r afael â nhw. Ni chyhoeddir y ddogfen gan ei bod yn newid yn gyson. Os hoffech unrhyw wybodaeth am rywogaethau neu gynefinoedd, cysylltwch â’r tîm yn uniongyrchol.

Cynefinoedd a rhywogaethau

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhestr o gynefinoedd a rhywogaethau pwysig iawn yng Nghymru, a elwir yn rhestr Adran 7. Mae hon yn sail i’r CGBLl. Bydd unrhyw un o'r cynefinoedd a'r rhywogaethau hyn a gaiff eu canfod yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cael eu gwarchod a'u cyfoethogi lle y bo hynny'n bosibl, yn enwedig drwy'r broses gynllunio. Ymhellach, ymdrinnir ag unrhyw gynefin neu rywogaeth nad ydynt ar y rhestr hon, ond sy’n bwysig i Gastell-nedd Port Talbot, trwy gyfrwng y CGBLl. I gael mwy o wybodaeth am y rhywogaethau yng Nghastell-nedd Port Talbot, cysylltwch â Chanolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De Ddwyrain Cymru.

Fforwm Bioamrywiaeth Castell-nedd Port Talbot

Mae’r Fforwm Bioamrywiaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o amrywiaeth eang o sefydliadau, ynghyd ag unigolion sydd â diddordeb mewn bywyd gwyllt lleol a rheoli tir. Mae'n agored i unrhyw un ymuno ag ef ac mae’n gyfrifol am gyflawni’r CGBLl. Y Tîm Bioamrywiaeth sy’n darparu’r Ysgrifenyddiaeth, a cheir Cadeirydd annibynnol.

Tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt

Rôl y Tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt yw rhoi sylw i'r pwysau ar fioamrywiaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot. Gan weithio'n agos ag adrannau eraill, sefydliadau allanol a gwirfoddolwyr, mae newidiadau cadarnhaol eisoes wedi'u gwneud. Mae'r Uned yn darparu’r ysgrifenyddiaeth ar gyfer Fforwm Bioamrywiaeth Castell-nedd Port Talbot.

Boda’r mêl © CBS (Cyngor Bwrdeistref Sirol) Castell-nedd Port Talbot
Boda’r mêl © CBS (Cyngor Bwrdeistref Sirol) Castell-nedd Port Talbot
Tomen Bryn © Maggie Elsey
Tomen Bryn © Maggie Elsey
Penigan y porfeydd © Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Penigan y porfeydd © Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Mae bodaod y mêl yn adar ysglyfaethus dirgelaidd a phrin yn y DU, a braint fawr yw eu gweld yma yn y sir. Mae bodaod y mêl yn gaeafu yn Affrica, ac anaml y maent yn bridio yn y DU. Maent yn enwog am addasu i fwyta lindys gwenyn meirch. Maent hefyd yn bwyta amffibiaid, brogaod yn bennaf, mamaliaid bach ac ymlusgiaid, a gallant ymosod ar nythod colomennod a bronfreithod. Gellir eu gweld rhwng mis Mai a mis Awst. Yng Nghastell-nedd, rydych yn fwyaf tebygol o’u gweld yn hedfan fry uwchben cwm Resolfen.

Mae penigan y porfeydd yn flodyn pinc hardd ac fel arfer mae’n tyfu mewn safleoedd agored fel tir pori, ochrau ffyrdd, ymylon caeau ac, weithiau, ar dir gwastraff. Mae'n fwyfwy prin yng Nghymru, ac mae gwaith wedi'i wneud gan Fforwm Bioamrywiaeth Castell-nedd Port Talbot i sefydlu poblogaethau newydd o benigan y porfeydd mewn lleoliadau addas yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Mae Tomen Bryn yn un o blith 4 gwarchodfa natur leol yn y sir, a dyma safle hen Bwll Glo Bryn Navigation sydd bellach wedi’i adfer yn gynefin naturiol ac yn gartref i nifer o rywogaethau prin sydd dan warchodaeth. Mae'r rhain yn cynnwys llinosiaid ac ehedyddion, gweision neidr eurdorchog, nadroedd defaid, madfallod a brithegion gwyrdd.

Rebecca Sharp - Ecolegydd

Rebecca sy'n gyfrifol am roi Cyngor ar Fioamrywiaeth yn enwedig i'r adran gynllunio o ran ceisiadau cynllunio a hi yw ysgrifennydd Fforwm Bioamrywiaeth Castell Nedd Port Talbot.

Cysylltwch â ni

Cyngor Bwideistref Sirol Castell Nedd Port Talbot
Y Ceiau
Ffordd Brunel
Parc Ynni Baglan
Castell Nedd
SA11 2GG

Ffôn: 01639 686149
Ebost: [email protected]
Gwefan: clicwch yma

Rhondda Cynon Taf

Richard Wistow - Ecolegydd

Cysylltwch â ni

Rhondda, Cynon, Taff County Borough Council
Sardis House
Sardis Road
Pontypridd
CF37 1DU

Ffôn: 01443 494825
Ebost: [email protected]

Merthyr Tudful

Cafodd Partneriaeth Bioamrywiaeth Merthyr Tudful ei ffurfio er mwyn helpu i roi’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol ar waith a chyrraedd ei dargedau. Y targed ar gyfer pob cynefin yn y cynllun hwn yw cynnal eu maint, sicrhau cyflwr ffafriol ar eu cyfer, eu hadfer, eu hymestyn, a chynnal a chynyddu’r rhywogaethau o fewn y fwrdeistref.

Mae’r bartneriaeth yn cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac amrywiaeth o unigolion, grwpiau cymunedol, mudiadau gwirfoddol, sefydliadau’r llywodraeth a sefydliadau anllywodraethol. Mae’r bartneriaeth yn cyfarfod bob tri mis. Os hoffech ymuno â’r bartneriaeth neu gael eich ychwanegu at y rhestr bostio, cysylltwch â Gill Hampson.

Mae ardal Merthyr Tudful yn doreithiog o fywyd gwyllt – mae eogiaid, dyfrgwn a gleision y dorlan yn cartrefu ar Afon Taf; mae adar eiconig fel y gwybedog brith a’r tingoch yn byw yng nghoetiroedd Taf Fechan; ac mae yna boblogaeth bwysig o fadfallod dŵr cribog ym Mharc Cyfarthfa, yn ogystal â thir parc bendigedig i’w archwilio. Oherwydd yr elfennau hyn i gyd, a threftadaeth ddiwydiannol a diwylliannol gyfoethog yr ardal, mae Merthyr Tudful yn lle gwerth chweil i ymweld ag ef.

Merthyr Tydfil

Merthyr Tydfil

Cysylltwch â ni

Merthyr Tydfil County Borough Council
Unit 5, Pentrebach
Merthyr Tydfil
CF48 4TQ

Ffôn: 01685 726251
Ebost: [email protected]
Gwefan: clicwch yma

Caerffili

Margaret Iles - Ecolegydd

Mae Bwrdeistref Sirol Caerffili yng Nghymoedd y De rhwng bwrdeistrefi sirol Caerdydd a Chasnewydd yn y de, a Phowys a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn y gogledd. Mae cynefinoedd y fwrdeistref sirol yn amrywiol, gan gynnwys porfeydd llawn rhywogaethau (dolydd rhos), darnau o goetir hynafol, gwrychoedd, afonydd a phyllau. Mae rhywogaethau pwysig a/neu brin yn cynnwys yr ystlum pedol mwyaf a’r fadfall ddŵr gribog, ond mae rhywogaethau eraill, fel deilen gron Cernyw a’r hebog tramor, yn cael eu hystyried yn bwysig yn lleol.

Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Caerffili’n cynnwys dros 40 o sefydliadau, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, CBS Caerffili a grwpiau bywyd gwyllt lleol, fel Ymddiriedolaeth Gadwraeth Rhiw’r Perrai. Bydd y bartneriaeth yn cyfarfod bob 3 mis yng Nghanolfan Ynys Hywel ym Mharc Gwledig Cwm Sirhywi. Mae prosiectau cyfredol y Cynllun Gweithredu Lleol ar Fioamrywiaeth yn cynnwys Rhaglen Cadwraeth Bioamrywiaeth o waith ymarferol a hyfforddiant arolwg, achlysuron cynyddu ymwybyddiaeth, yn arbennig Ewch yn Wyllt a chategori gardd bywyd gwyllt Caerffili yn ei Blodau, ac arolygon o’r fadfall ddŵr gribog, yr ysgyfarnog ac arolwg cyhoeddus llwyddiannus iawn o adar sy’n nythu mewn tai.

Cysylltwch â ni

Community and Leisure Services
Countryside and Landscape Services
Tredomen House
Tredomen Park
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7WF

Ffôn: 01443 866616
Ebost: [email protected]
Gwefan: clicwch yma

Blaenau Gwent

Nadine Morgan - Swyddog Prosiect Bioamrywiaeth

Cysylltwch â ni

Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent
Swyddfeydd Bwrdeistrefol
Canolfan Ddinesig
Glyn Ebwy
NP23 6XB

Ffôn: 01495 356 070
Ebost: [email protected]
Gwefan: clicwch yma

Torfaen

Steve Williams - Arweinydd Tim Ecolegydd

Ac yntau’n awdurdod lleol bach yng nghymoedd y De, mae Torfaen yn cynnal amrywiaeth ryfeddol o gynefinoedd. O dirweddau ôl-ddiwydiannol lle ceir rhostir corlwyni, glaswelltir asidig a merddwr oddi mewn i Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon, i’r cymoedd coediog lle ceir ffawydd a derw mes digoes, a’r cynefinoedd tir isel lle tyf glaswelltiroedd blodeuog a choetiroedd hynafol sy’n nodweddu seilwaith gwyrdd tref newydd Cwmbrân; mae gan Dorfaen dreftadaeth naturiol gyfoethog.

O blith y bywyd gwyllt y gellir ei weld yno, mae gan Dorfaen greaduriaid a phlanhigion sydd yr un mor amrywiol â’i gilydd. Mae’r nodweddion hollbwysig yn cynnwys nythfa o ystlumod pedol lleiaf rhanbarthol bwysig, poblogaeth bwysig o adar dŵr sy’n gaeafu yng Nghronfa Ddŵr Llandegfedd, ac un o’r poblogaethau mwyaf deheuol o rugieir coch sy’n magu yn y DU. Mae rhywogaethau nodedig eraill yn cynnwys tegeirianau’r wenynen, cornchwiglod, gwiberod, dyfrgwn, tylluanod gwynion, moch daear, madfallod dŵr cribog, cardwenyn torchfrown a buchod cwta’r dŵr.

Ceir pedwar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a gaiff eu hategu gan saith o Warchodfeydd Natur Lleol a sawl Safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur, gyda phob un yn ffurfio rhwydwaith cysylltiol o safleoedd bywyd gwyllt drwy’r fwrdeistref sirol. Gallwch lawrlwytho Taflen Gwarchodfeydd Natur Lleol, lle ceir gwybodaeth am Warchodfeydd Natur Lleol Torfaen:

torfaen.gov.uk/en/Related-Documents/Countryside/Local-Nature-Reserves.pdf

Ffurfiwyd Partneriaeth Bioamrywiaeth Torfaen yn 1999 er mwyn goruchwylio’r dasg o lunio a gweithredu’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol. Mae’r bartneriaeth yn parhau i gyfarfod bob chwarter, gan gynnwys taith faes flynyddol i weld enghreifftiau o arferion da’n ymwneud â bioamrywiaeth.


Plu’r gweunydd ym Mlaenafon(h) Steve Williams

Gwarchodfa Natur Leol Llwyncelyn (h) Adrian Reilly

Cyfarfod CGBLl Torfaen (h) Steve Williams

Cysylltwch â ni

Torfaen Ecology Team
Torfaen County Borough Council
Neighbourhood Services
Ty Blaen Torfaen
Panteg Way
New Inn
Pontypool
NP4 0LS

Ffôn: 01633 648256
Ebost: [email protected]
Gwefan: clicwch yma

Sir Fynwy

Kate Stinchcombe - Swddog Bioamrywiath ac Ecoleg

Cysylltwch â ni

Monmouthshire County Council
Innovation House
Wales 1 Business Park
Magor
NP26 3DG

Ffôn: 01633 644 684
Ebost: [email protected]
Gwefan: clicwch yma

Pen-y-bont ar Ogwr

Robert Jones - Ecolegydd

Bridgend County Borough's mosaic of habitats includes ancient woodlands, unimproved wet grasslands, chalk grassland, river valleys and rocky gorges, coastal sand dunes and saltmarsh. These habitats support an exceptionally varied flora and fauna, including many rare and declining species. The county contains a European designated Special Area of Conservation (Kenfig SAC) and two National Nature Reserves (NNRs), Kenfig on the Glamorgan coast near Porthcawl and nearby Merthyr Mawr NNR which are part of a huge dune system, which once stretched along the coast from the River Ogmore to the Gower peninsula. Kenfig Pool, the largest freshwater lake in south Wales, lies at the heart of the reserve and is particularly valuable as a stopping off point for migrating birds.

Cysylltwch â ni

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Swyddfeydd Dinesig
Stryd yr Angel
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4WB

Ffôn: 01656 643 160
Ebost: [email protected]
Gwefan: clicwch yma

Bro Morgannwg

Erica Dixon - Ecolegydd

Cafodd cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Bro Morgannwg ei baratoi yn 2002 mewn ymgynghoriaeth agos â phartneriaeth Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol y Fro. Mae 80% o Fro Morgannwg yn wledig ac mae’n cynnwys iseldir bryniog, ar y ffin â’r arfordir yn y de, sy’n cynnwys darn 19 ciolmetr o Arfordir Treftadaeth dynodedig. Er mai dir amaethyddol sydd yno’n bennaf, mae’r Fro yn cynnal bioamrywiaeth cyfoethog iawn sy’n cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau, rhai rhywogaethau sydd dan fygythiad yn genedlaethol ac yn fyd eang megis tafolen y traith, y fritheg frown a’r fadfall fawr gribog. Ar hyn o bryd mae Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol y Fro’n cynnwys cynlluniau gweithredu ar gyfer ugain o rywogaethau ac ugain o gynefinoedd. Bydd chwe chynllun gweithredu rhywogaethau ychwanegol yn cael eu hychwanegu cyn hir.

Mae enghreifftiau o weithredu gan bartneriaid dros gynefinoedd trwy’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol yn cynnwys rheolaeth adfer ar nifer o safleoedd ar ddolydd gwair ar yr iseldir a chreu gwely cyrs mawr ym Mharc Gwledig Llynnoedd Cosmeston.

Mae gweithredu’r Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol ar gyfer rhywogaethau yn cynnwys adfer pwll a gwella nifer o safleoedd bridio'r fadfall fawr gribog a rheoli cynefin ar arwynebedd eang i ddiogelu ac ehangu poblogaethau'r glöyn byw, y fritheg frown.

Rhwydwaith fawr yw partneriaeth Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol y Fro sy’n cynnwys cynrychiolwyr o dros 40 o sefydliadau lleol, yn gyrff bywyd gwyllt y llywodraeth a rhai anllywodraethol, grwpiau gwirfoddol, busnesau lleol yn ogystal â ffermwyr, tirfeddianwyr ac unigolion. Mae is-set llai o’r bartneriaeth, grŵp llywio Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol y Fro, yn cyfarfod pob dau fis i lywio a rhedeg y Cynllun Gweithredu.

Llwyddiannau Diweddar yn y Fro

Mae’r frân goesgoch yn ôl - ar ôl llawer o flynyddoedd o waith monitro a chreu cynefin, llwyddodd pâr o frain coesgoch i fridio yn y Fro y llynedd - y tro cyntaf mewn dros gan mlynedd.

Y Fritheg Frown - y Fro yw’r safle olaf yng Nghymru erbyn hyn lle mae’r glöyn byw hardd hwn i’w weld, a, diolch i lawer o waith caled gan wirfoddolwyr, Tîm Arfordir Treftadaeth Morgannwg a Chadwraeth y Glöyn Byw, a chyda chyllid y Gronfa Ardoll Agregau, mae’r boblogaeth yn y Fro yn mynd o nerth i nerth. Rydym yn bwriadu ymchwilio i sut y gallwn helpu’r Fritheg Frown i ehangu o’i safle bresennol i safleoedd eraill ar draws y Fro.

Gwobr Bioamrywiaeth y Fro - yn dair blwydd oed eleni, mae’r Wobr Bioamrywiaeth y Fro’n cydnabod prosiectau ymarferol sy’n hyrwyddo bioamrywiaeth trwy greu, gwella neu reoli safleoedd ar gyfer bywyd gwyllt.

Cysylltwch â ni

Cyngor Bro Morgannwg
Heol yr Isffordd
Y Barri
CF63 4RT
Ffôn: 01446 704855
Ebost: [email protected]
Gwefan: clicwch yma

Caerdydd

Matthew Harris - Ecolegydd

Mae amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau bywyd gwyllt yng Nghaerdydd. Mae llawer o’r rhain yn werthfawr a gwnaed dynodiadau statudol ac anstatudol i adlewyrchu hyn. Mae’r rhain yn cynnwys

2 o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA),

1 Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA)

1 Safle Ramsar

17 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a

6 o Warchodfeydd Natur Lleol (GNL)

Mae safleoedd eraill yn anstatudol, am eu bod yn cael eu rheoleiddio gan bolisi yn hytrach na deddfwriaeth. Gelwir y rhain yn Safleoedd o Bwysigrwydd ar gyfer Cadwraeth Natur (SoBCN) yng Nghaerdydd, ac mae eu manylion ar gael ar ein gwefan.

Yng Nghaerdydd, mae rhai o’r rhywogaethau mwyaf nodedig sy’n cael eu gwarchod yn cynnwys y dyfrgi sy’n bresennol ledled tair prif afon Caerdydd; 10 rhywogaeth o’r ystlum, rhai ohonynt yn bresennol ledled y ddinas; rhai poblogaethau o’r fadfall ddŵr gribog, a phoblogaeth helaeth o’r pathew, yn bennaf i’r gogledd a’r dwyrain o’r ddinas.

Rydym yn trefnu Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol (CGBLl) Caerdydd i’n helpu i warchod bioamrywiaeth planhigion ac anifeiliaid yng Nghaerdydd. Eglura hyn yn fanwl sut rydym am warchod ac amddiffyn cynefinoedd a rhywogaethau, a phartneriaeth Bioamrywiaeth Caerdydd sydd am gyflawni hyn. Dyma grŵp o bobl sy’n cynrychioli sefydliadau sydd â diddordeb mewn Bioamrywiaeth, ac mae’n cynnwys ein Swyddog Cadwraeth Parciau a’n Ceidwaid. Gyda’i gilydd, maent yn helpu gweithredu’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol (CGBLl). Cyngor Caerdydd sy’n cynnal y bartneriaeth a chynhelir cyfarfodydd dair gwaith y flwyddyn.

Cysylltwch â ni

Natural Environment Group
Cyngor Caerdydd
Stafell 223
Neuadd y Sir
Caerdydd
CF10 4UW

Ffôn: 029 223 30840
Ebost: [email protected]
Gwefan: clicwch yma

Casnewydd

Natalie Waller - Swyddog Bioamrywiaeth

Cred llawer o bobl mai awdurdod trefol yw Casnewydd, gyda’i dreftadaeth ddiwydiannol, ei ddociau a’i ganol hynod boblog. Fodd bynnag, mewn gwirionedd mae 75% o’r awdurdod yn gefn gwlad, ac mae rhannau gwledig a threfol Casnewydd fel ei gilydd yn cynnig cyfoeth o gynefinoedd i amryw byd o rywogaethau pwysig.

Dyna ichi Afon Wysg, er enghraifft, sy’n nadreddu trwy galon yr awdurdod. Mae’r afon hon yn rhyngwladol bwysig oherwydd y mathau arbennig o bysgod a geir ynddi, fel llysywod pendoll yr afon, gwangod a phennau lletwad, yn ogystal â’r dyfrgi swil. O ganlyniad, mae’n Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), a hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Gan fod Afon Wysg yn llifo i Aber Afon Hafren, mae’n bwysig i adar hirgoes, ac o ganlyniad caiff ei chydnabod yn rhyngwladol fel safle RAMSAR ac Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA). Fodd bynnag, nid yr afonydd yn unig sy’n bwysig yng Nghasnewydd. Mae Gwastadeddau Gwent yn ymestyn ar hyd yr arfordir – SoDdGA arall – ac mae’r ardal yn bwysig oherwydd y ffosydd sy’n igam-ogamu drosti, a hefyd oherwydd y dolydd blodau gwyllt a’r glaswelltir corsiog sy’n cynnal cacynen brin – sef y gardwenynen fain. Drwy deithio ymhellach tua’r tir, mae’r safleoedd tir llwyd o amgylch canol y ddinas a’r dociau yn gartref i fathau anarferol o blanhigion a chreaduriaid di-asgwrn-cefn, gydag un o’n rhywogaethau blaenllaw, gwyfyn letys, yn defnyddio planhigyn o’r enw letys pigog sy’n tyfu ar dir wedi’i droi. Ymhellach wedyn tua’r tir ceir coetiroedd hynafol sy’n cynnal poblogaethau o bathewod, tra mae’r glaswelltiroedd sydd heb eu gwella a’u lled-wella yn hafan o flodau gwyllt toreithiog i nifer o bryfed peillio. Mae Casnewydd hefyd yn gartref i amryw byd o ystlumod ledled y sir, ac mae nadroedd defaid, nadroedd y gwair, madfallod dŵr cribog a brogaod i’w gweld mewn rhai mannau hefyd.

Mae adran fioamrywiaeth Cyngor Dinas Casnewydd hefyd yn cydlynu Partneriaeth Bioamrywiaeth Casnewydd, ac yn rheoli’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol (CGBLl). Mae’r CGBLl yn tynnu sylw at y cynefinoedd a’r rhywogaethau pwysig yng Nghasnewydd, gan ein galluogi i ganolbwyntio ar warchod a chyfoethogi’r fioamrywiaeth ar gyfer y sir. Criw o bobl sy’n cynrychioli sefydliadau a chanddynt fudd mewn gwarchod a chyfoethogi bioamrywiaeth Casnewydd yw’r Bartneriaeth Bioamrywiaeth, ac maent yn cyflwyno sylwadau ar y CGBLl, yn ei ddiwygio ac yn ei roi ar waith.


Gwlypdiroedd Casnewydd © Natalie Waller

Plannu coed ysgolion Casnewydd © Natalie Waller

Cardwenynen fain © Sinead Lynch / Ymddiriedolaeth Gwarchod Cacwn

Cysylltwch â ni

Cyngor Dinas Casnewydd
Y Ganolfan Ddinesig
Casnewydd
NP9 4UR

Ffôn: 01633 210561
Ebost: [email protected]
Gwefan: clicwch yma

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt