Cofnodi bywyd gwyllt

Gallwch gyfrannu at bob math o arolygon bywyd gwyllt ar hyd a lled y DU, boed eich diddordeb mewn pryfed, planhigion, amlusgiaid, amffibiaid, adar neu famaliaid.

Mae modd creu cofnodion defnyddiol heb wybodaeth arbenigol. Os nad ydych chi’n berffaith sicr o ryw rywogaeth arbennig, gall eich Canolfan Cofnodion Lleol eich rhoi ar ben ffordd gydag arbenigwr lleol. Mae Canolfannau Cofnodion Lleol yn falch o dderbyn cofnodion am bob rhywogaeth,waeth pa mor gyffredin ydynt.

Wenvoe- S McHugh

Cyrsiau Ecoleg ac Adnabod Bywyd Gwyllt

Mae nifer o sefydliadau yng Nghymru yn cyflwyno hyfforddiant ecolegol. Mae’r cyrsiau’n berthnasol i ddatblygiad proffesiynol a diddordeb personol. I gael mwy o wybodaeth cliciwch ar y cysylltau.

Helfa Coed Hynafol

Mae coed hynafol yn greiriau byw eithriadol o hen sy’n deffro ymdeimlad o ryfeddod a dirgelwch ynom. Cronfa ddata fyw o goed hynafol yw’r Helfa Coed Hynafol. Cafodd ei rhoi ar waith yn 2004, a hyd yn hyn mae wedi cofnodi mwy na 100,000 ledled y DU. Gellir defnyddio’r wybodaeth a gofnodir yn lleol neu’n genedlaethol er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd coed, hyrwyddo’u gwerth ac annog eu cadwraeth. I ddod o hyd i fanylion am goed hynafol ger eich cartref neu lefydd rydych yn mynd am dro iddynt yn aml, defnyddiwch y Map Coed Hynafol

Mae yna lawer o goed hynafol rhyfeddol i’w darganfod a’u cofnodi o hyd. Os gwelwch goeden sydd ddim ar y map, gallwch ei hychwanegu a llwytho llun i fyny yn ogystal. Mae’r gronfa’n tyfu’n barhaus, a bydd yn rhoi gwell syniad inni faint o goed hynafol sydd i’w cael ar draws y DU. Eu cofnodi yw’r cam cyntaf tuag at eu diogelu a’u gwarchod.

Mae a wnelo Gwyddoniaeth Dinasyddion â phartneriaeth: dwyn ynghyd gwyddonwyr, cofnodwyr amatur a grwpiau diddordeb lleol o amryw gefndiroedd, er mwyn gweld a chofnodi cyflwr ein hamgylchedd.

Arolygon

Mae sawl arolwg y gallwch fod â rhan ynddynt, gan edrych ar amrywiaeth eang o rywogaethau, a rhai cynefinoedd. Rhestrir rhai ohonynt isod: mae gan eich Canolfan Cofnodion Lleol yng Nghymru restr gynhwysfawr o arolygon yn eich bro chi, yn ogystal ag arolygon cenedlaethol.

Mae Bugs Matter yn helfa trychfilod genedlaethol er mwyn helpu BugLife i ymchwilio i sut y mae’r amgylchedd adeiledig yn effeithio ar anifeiliaid di-asgwrn-cefn.

Arolwg BeeWalk

BeeWalk yw’r cynllun cofnodi cenedlaethol sy’n cael ei redeg gan y Bumblebee Conservation Trust (BBCT) er mwyn monitro nifer y cacwn ledled y DU.

Dysgwch fwy, yn cynnwys sut gallwch chi gymryd rhan yma

Arolwg Great British Hedgerow

Mae'r arolwg wedi'i gynllunio ar gyfer rheolwyr tir sydd am wella cyflwr strwythurol eu gwrychoedd eu hunain, ond hefyd ar gyfer grwpiau bywyd gwyllt â diddordeb sydd am asesu ansawdd cynefin mewn unrhyw ardal benodol.
Gallwch ddysgu mwy yma

Amcana arolwg pryfed tân y DUhel gwybodaeth am bryf rhyfeddol nad yw’r mwyafrif ohonom hyd yn oed yn sylweddoli ei fod yn bodoli ym Mhrydain.

Adnoddau

  1. AmgueddfaByd Natur
Adnoddau, arweiniadau a dolennau cyswllt ag arolygon bywyd gwyllt cenedlaethol i’r cyhoedd ymuno ynddynt
  1. Helfa Coed Hynafol
  1. Canolfannau Cofnodion Lleol

Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol

Mae gan Gymru bedair Canolfan Cofnodion Amgylcheddol Lleol (CCALlau) ac mae pob un ohonynt yn rhan o’r rhwydwaith cenedlaethol cyntaf o CCALlau (LERC Wales ) yn unman yn y DU. Mae CCALlau yn adlewyrchu pwysigrwydd sylwi ar fywyd gwyllt a chofnodi’r hyn y sylwir arno, gyda chreu cofnod yn fan cychwyn yr holl ddata.Yna bydd CCALlau yn dod â’r holl gofnodion unigol hyn i gronfa ddata sy’n cynnwys tua 9 miliwn o gofnodion, gan ganiatáu gwell dealltwriaeth o’r amgylchedd a dylanwadu ar benderfyniadau rydyn ni’n eu gwneud yn ein cynefin. Er mwyn cael gweld crynodeb o fywyd gwyllt a welwyd yn eich ardal wedi eu coladu gan CCALl Cymru neu weld map dosbarthiad rhywogaeth, ewch i’r Ganolfan Adrodd Gwybodaeth Bioamrywiaeth (Aderyn)

Rhwydwaith Bioamrywiaeth Prydain (NBN)

Mae’r Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol (RhBC) sy’n bartneriaeth gydweithredol, yn cefnogi rhannu data biolegol yn y DU. Mae’r RhBC yn coladu ac yn cydgasglu data am rywogaethau a chynefinoedd oddi wrth ystod eang o bartneriaid, gan gynnwys Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol Cymru. Mae’r data sy’n cael ei rannu drwy’r RhBC ar gael yn atlasau’r RhBC

Atlas RhBC Cymru

Arf ar-lein rhad ac am ddim yw Atlas RhBC sy’n darparu platfform i gysylltu, addysgu a hysbysu pobl am yr amgylchedd naturiol. Mae’n dod â data rhywogaeth a chynefin at ei gilydd er mwyn darparu sail tystiolaeth ar gyfer llunio penderfyniadau amgylcheddol yn y DU. Mae Atlas RhBC Cymru, is-safle’r Atlas RhBC sy’n ymdrin ag Ynysoedd Prydain, yn darparu arolwg Cymreig. Gellir defnyddio Atlas RhBC i archwilio a dadansoddi gwybodaeth am rywogaethau a chynefinoedd yng Nghymru – gellir edrych ar fapiau dosbarthiad rhywogaethau, archwilio ardal, edrych ar ddelweddau a llawer mwy.

Dolenni

  1. Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol
  2. Aderyn
  3. Atlas RhBC Cymru
  4. Rhwydwaith Bioamrywiaeth Prydain
  5. Cymdeithasau a chynlluniau cofnodi
  6. Apiau cofnodi rhywogaethau anfrodorol ymledol

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt