Fresh water

Ar ôl chwe blynedd a hanner, mae Prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE wedi dod i ddiweddglo buddugoliaethus ar ôl adfer cannoedd o hectarau o fawndir mewn chwe chyforgors ledled y wlad.

Mae cyforgorsydd yn un o gynefinoedd prinnaf a phwysicaf Cymru ac, oherwydd eu pwysigrwydd amgylcheddol, maent wedi'u dynodi'n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA).

Mae canrifoedd o ddifrod trwy dorri mawn, rheolaeth wael, a draenio wedi arwain at ddirywiad o ran bywyd gwyllt prin ac o ran cyflwr cynefinoedd ar y mawndiroedd hyn. Mae’r mawn wedi sychu hefyd, sydd wedi arwain at ollwng carbon, yn hytrach na’i storio fel y mae cyforgorsydd iach yn ei wneud.

Bu i’r prosiect - oedd werth cyfanswm o £4.5m - adfer cyforgorsydd yng Nghors Caron ger Tregaron; Cors Fochno ger y Borth; Cors Goch ger Trawsfynydd; Rhos Goch ger Llanfair-ym-Muallt, Esgyrn Bottom & Cernydd Carmel. Fe’i hariannwyd gan raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, a chafodd y prosiect ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Mae’r prosiect wedi cyflawni llawer, gan gynnwys:

  • Clirio gwerth 736 o gaeau Stadiwm y Principality o blanhigion ymledol. Mae hyn yn cynnwys gwellt y gweunydd, bedw, helyg a rhododendron.
  • Gosod 150 o argaeau mawn ar y corsydd i atal dŵr rhag llifo i ffwrdd.
  • Gosod gwerth 114 cilomedr o fyndiau mawn i gadw dŵr ar gyforgorsydd - sef yr un pellter â gyrru o Gaerdydd i Gaerfyrddin!

Rhagor o fanylion yma

Cors Caron © CNC

Mae coedwigoedd glaw tymherus i’w canfod ar lai nag 1% o arwyneb y blaned, sy’n eu gwneud

yn rhan unigryw o dreftadaeth ddiwylliannol a naturiol Cymru, ac yn flaenoriaeth ryngwladol ar

gyfer cadwraeth. Mae lefelau lleithder uchel, tymereddau sefydlog ac aer glân

yn darparu’r amodau perffaith ar gyfer amrywiaeth syfrdanol y cennau, mwsoglau a llysiau’r afu. Mae cynefinoedd coedwigoedd glaw yn arbennig o bwysig ar gyfer ystlumod prin arbenigol y coetiroedd megis ystlumod du ac ystlumod pedol lleiaf a rhywogaethau arbenigol o adar coetir fel gwybedog brith, telor y coed a thingoch cyffredin. Mae union gymunedau o rywogaethau yn amrywio yn dibynnu ar orchudd coed, daeareg leol, topograffeg, microhinsawdd a defnydd tir, sy’n golygu nad oes dwy goedwig law yr un peth.

Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd gan Gynghrair Coedwigoedd Glaw Cymru yn sefydlu gwaelodlin ecolegol ar gyfer cyflwr coedwigoedd glaw yng Nghymru.

Drwy ddadansoddi setiau data biolegol presennol, cynhyrchu data newydd, a chyfuno ein

harbenigedd ar y cyd, rydym yn amlinellu’r camau gweithredu sydd eu hangen i adfer coedwig law dymherus Cymru a chreu tirwedd fforest law iachach, wedi’i chysylltu’n well ac yn fwy gwydn.

Cynghrair Coedwigoedd Glaw Cymru (CCGC)

Mae Cynghrair Coedwigoedd Glaw Cymru (CCGC) yn bartneriaeth o sefydliadau sy'n ymroddedig i ddiogelu'r cynefinoedd gwerthfawr hyn. Trwy gydweithio, mae'r Gynghrair yn gweithio i amlygu pwysigrwydd ecolegol, amgylcheddol a diwylliannol coedwigoedd glaw tymherus Cymru a hyrwyddo eu rheolaeth a'u hadferiad cadarnhaol i'r dyfodol.

Testun yn seiliedig ar ffynhonnell CCGC

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ceunant Llennyrch © CNC

Afanc © David Parkyn / Cornwall Wildlife Trust

Cymerodd dros 4,300 o gyfranogwyr ran yn yr arolwg cyhoeddus mewn ymateb i'r cwestiwn a oeddent yn cefnogi neu beidio â chefnogi afancod yn byw'n wyllt yng Nghymru.

Roedd mwyafrif llethol yr ymatebwyr (88.70%) yn cefnogi afancod yn byw'n wyllt yng Nghymru.

Roedd y prif resymau a roddwyd dros gefnogaeth yn cynnwys (ymhlith eraill) y canlynol: gwella bioamrywiaeth a chynefinoedd gwlyptir; rheoli dyfrffyrdd (e.e. lliniaru llifogydd); a gweld afancod fel rhywogaeth frodorol.

Roedd y prif resymau a roddwyd dros wrthwynebu yn cynnwys (ymhlith eraill) y canlynol: effeithiau negyddol ar bysgod mudol; tarfu ar ecoleg gyfredol; ac effeithiau negyddol ar systemau afonydd a llifogydd.
Ni chafodd y tîm ymchwil y dasg o wneud y penderfyniad a ddylai afancod fod yn byw'n wyllt yng Nghymru ai peidio. Fodd bynnag, fe wnaethant gynnig tri myfyrdod yn seiliedig ar yr ymatebion a dderbyniwyd.

Myfyrdod 1: Mae canlyniadau'r arolwg hwn yn gyson â rhai arolygon blaenorol tebyg a gynhaliwyd mewn cyd-destunau eraill ledled Prydain Fawr.

Myfyrdod 2: Mae polareiddio gweladwy yn y canfyddiadau a fynegir yma. Gallai trin dyfodol afancod yng Nghymru fel penderfyniad 'ie neu na' deuaidd gynyddu tensiynau cymdeithasol presennol.

Myfyrdod 3: P'un a fydd afancod yn bresennol neu'n absennol yn y dyfodol, bydd angen i'r drafodaeth fod yn sensitif a symud y tu hwnt i ddadl ddeuaidd, gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer gwrando a deialog drawsbleidiol.

Gallwch ddarllen yr adroddiad yma

Comisiynwyd yr astudiaeth hon gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru gyda chyllid a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru drwy linyn Cymunedau Gwledig Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Ymgymerwyd â'r prosiect gan ymchwilwyr annibynnol o Brifysgol Caerwysg; nid oedd gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru arolygiaeth o'r dadansoddiad.

Afanc © David Parkyn / Cornwall Wildlife Trust

Mae adroddiad diweddaraf UK State of Nature 2023 yn rhoi darlun manwl o sefyllfa byd natur ar hyn o bryd ac yn datgelu graddfa ddinistriol colli natur ledled y DU, y pwysau sy'n effeithio ar natur, a beth sydd angen ei wneud i fynd i'r afael â cholli natur. Cyflwynir ffigurau yn yr adroddiad fel canfyddiadau'r DU yn y rhan fwyaf o achosion. Lle nad oes gwybodaeth am y DU, cyflwynir canlyniadau ar gyfer Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ar wahân.

Mae Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2023 yn datgelu bod y nifer o 753 o rywogaethau a astudiwyd wedi gostwng 19% ar gyfartaledd ledled y DU ers 1970. Gan ddefnyddio meini prawf ar y Rhestr Goch, gwelodd asesiad o 10,008 rhywogaeth fod 16% (bron i 1,500 o rywogaethau) bellach mewn perygl o ddiflannu yng ngwledydd Prydain.

Mae'r adroddiad Sefyllfa Byd Natur yn ymgorffori data o 60 o sefydliadau ymchwil a chadwraeth sy'n defnyddio cynlluniau monitro a chanolfannau cofnodi biolegol, i ddarparu meincnod ar gyfer statws bywyd gwyllt y DU. Cyhoeddwyd argraffiadau blaenorol yn 2013, 2016 a 2019. Ynghyd ag adroddiad y DU, cyhoeddir adroddiadau ar wahân ar gyfer pob gwlad - gan gynnwys Cymru.

Yn ôl yr adroddiad, newidiadau yn y ffordd o reoli ein tir ar gyfer ffermio, a newid hinsawdd oedd achosion mwyaf dirywiad bywyd gwyllt ar ein tir, afonydd a llynnoedd. Mae rheoli tir, llygredd a rhywogaethau estron goresgynnol hefyd yn ysgogwyr allweddol dirywiad rhywogaethau. Ar y môr, ac o amgylch ein harfordiroedd, roedd hynny o ganlyniad i bysgota anghynaliadwy, newid hinsawdd a datblygiadau morol.

Mynegai Cyfanrwydd Bioamrywiaeth (BII)
Mae'r Mynegai Cyfanrwydd Bioamrywiaeth yn mesur cyfran y rhywogaethau sy'n dal yn bresennol mewn ardal a'u cyflenwad neu ddigonedd, er gwaethaf effeithiau dynol. Yr amcangyfrif mwyaf diweddar o'r BII byd-eang yw 77% sydd gryn dipyn yn is na'r lefel 90% a awgrymir fel un sydd ei hangen i gadw o fewn ffiniau planedol sy'n ofynnol i gynnal ecosystemau iach. Mae gan y DU BII o 42%, sydd o gryn dipyn yn is na'r cyfartaledd byd-eang. Hefyd, mae mynegai’r DU yn is na gwledydd bach, ôl-ddiwydiannol, hynod boblog eraill gorllewin Ewrop, fel Gwlad Belg a'r Iseldiroedd.

Gobaith at y dyfodol
Ond mae yna obaith. Mae'n bosibl gwyrdroi colledion bioamrywiaeth drwy adfer cynefinoedd, arferion amaethyddol cynaliadwy a lliniaru newid hinsawdd. Mae'r DU yn rhan o gyfres newydd o dargedau bioamrywiaeth rhyngwladol o dan y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD): y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang. Er mwyn helpu i gyflawni'r rhain, mae pob gwlad yn y DU (gan gynnwys Cymru) wedi ymrwymo i ddatblygu a gweithredu strategaethau bioamrywiaeth cenedlaethol. Mewn llawer o achosion, mae gwledydd wedi datblygu (neu wedi ymrwymo i ddatblygu) targedau cyfreithiol rwymol i adfer natur (Cymru - erbyn diwedd tymor y Senedd hon yn 2026). Yn yr adroddiad maent wedi grwpio'r targedau CBD i bum maes eang:

  • Gwella statws rhywogaethau
  • Cynyddu ffermio, coedwigaeth a physgodfeydd sy'n gyfeillgar i natur
  • Ehangu a rheoli ardaloedd gwarchodedig
  • Cynyddu gwaith adfer ecosystemau
  • Cydlynu ein hymateb

Fodd bynnag, does dim modd sicrhau adferiad natur gan lywodraethau, sefydliadau statudol ac elusennau natur yn unig. Rhaid i bob sector o gymdeithas chwarae ei ran os ydym am adfer digonedd o rywogaethau a lleihau'r risg o fynd i ddifancoll, ac mae'r adroddiad yn tynnu sylw at bethau allwn ni fel unigolion ei wneud i helpu byd natur.

Mae'r adroddiad hefyd yn cydnabod ymdrechion aruthrol miloedd o wirfoddolwyr i gynhyrchu'r adroddiad Sefyllfa Byd Natur gan roi o'u hamser i helpu i gofnodi a monitro bywyd gwyllt.

Sefyllfa Byd Natur 2023 - adroddiad ar fioamrywiaeth gyfredol y DU

Sefyllfa Byd Natur Cymru 2023

Mae Sefyllfa Byd Natur Cymru 2023 yn dangos, ers i waith monitro gofalus ar 380 o rywogaethau Cymreig ddechrau'n 1994, bod nifer y rhywogaethau hynny wedi gostwng 20% ar gyfartaledd. Rhywogaethau o wyfynod ddangosodd y dirywiad mwyaf, sef 43%. Hefyd, cafodd risg difodiant 3,897 o rywogaethau ei hasesu gan ddefnyddio meini prawf y Rhestr Goch a gwelwyd bod 18% (un o bob chwech) mewn perygl o ddiflannu gan gynnwys planhigion ac anifeiliaid fel tegeirian y figyn galchog, llygoden y dŵr a madfall y twyni a bod mwy na 2% eisoes wedi diflannu yng Nghymru. Mae rhywogaethau adnabyddus fel yr Eog a'r Gylfinir hefyd wedi dirywio’n ddifrifol yng Nghymru.

Mae ystlumod yn dangos cynnydd cyfartalog o 76% ers 1998, wedi'i yrru'n bennaf gan y cynnydd mawr mewn dwy rywogaeth ystlumod sydd wedi gwella o ddirywiad hanesyddol diolch i fwy o waith gwarchod eu cynefin. Mae rhai rhywogaethau gloÿnnod byw yn dangos arwyddion o adferiad hefyd

37% yw Mesur Mynegai Cyfanrwydd Bioamrywiaeth Cymru. Er ei fod yn debyg i rannau eraill o'r DU, mae gyda'r isaf yn fyd-eang.


Gobaith i’r Dyfodol

Yng Nghymru, mae nifer o brosiectau a mentrau sydd â'r potensial i wneud gwahaniaeth go iawn i fyd natur. Natur am Byth - mae rhaglen adfer rhywogaethau flaenllaw Cymru a phrosiectau cynefinoedd mawr sy'n adfer afonydd, corsydd a ffeniau a thwyni tywod wedi cychwyn.

Mae enghreifftiau o brosiectau rhywogaethau llwyddiannus yn yr adroddiad yn cynnwys gwarchod y Môr-wenoliaid Bach yn Sir Ddinbych sydd wedi galluogi'r brif nythfa fridio Gymreig i fod gyda'r pwysicaf ym Mhrydain, ac adfer mawndiroedd yng Ngheredigion sydd wedi cynnal poblogaeth Gweirlöyn Mawr y Waun.

Mae cynlluniau cenedlaethol fel Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, Rhwydweithiau Natur, Prosiect Mawndir Cenedlaethol a chynllun y Goedwig Genedlaethol yn cyflawni ar gyfer natur ledled Cymru.

Bydd Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd ar waith o 2025 yn gwobrwyo ffermwyr am gynnal a chreu cynefin bywyd gwyllt, gyda grantiau hefyd i ffermydd gydweithio ar waith ar raddfa tirwedd i hybu bioamrywiaeth.

Mae mudiadau bywyd gwyllt yng Nghymru yn poeni nad ydym eto ar y trywydd i fynd i'r afael â'r argyfwng natur yma. Er ein bod yn cydnabod rhai llwyddiannau a chamau a gymerwyd tuag at adeiladu dyfodol llawn natur yng Nghymru, mae newid trawsnewidiol yn dal yn bell iawn ar y gorwel.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai'r llywodraeth yn ystyried yn ofalus y syniadau ar gyfer camau gweithredu pellach at natur sydd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad pwysig hwn. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i roi targedau newydd ar adfer natur yn gyfraith erbyn diwedd tymor y Senedd hon yn 2026.

Cymru - Sefyllfa Byd Natur

Mae’n bleser gan Bartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru gyflwyno gwefan ddiweddaraf Natur a Ni.

www.natureandus.wales/cy/ yn dangos canlyniadau'r rhaglen Natur a Ni, sef sgwrs genedlaethol a gynhaliwyd am flwyddyn gron i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer yr amgylchedd naturiol yn 2050. Hwyluswyd y sgwrs gan CNC a gwahoddwyd llawer o sefydliadau a chymaint o wahanol bobl â phosibl o bob cwr o Gymru i gymryd rhan, er mwyn creu gweledigaeth a rennir. Mae'n disgrifio’r dyfodol yng Nghymru lle mae cymdeithas a natur yn ffynnu gyda'i gilydd, a'r camau sydd angen eu cymryd er mwyn gwireddu hynny.

Ar y wefan fe welwch weledigaeth Natur a Ni ar gyfer 2050, a'r data a'r adroddiadau sylfaenol ar yr holl gyfranogiad a’r sgyrsiau sydd wedi helpu i lunio'r weledigaeth. Mae rhan newydd o’r wefan, sef AILolwg, yn dangos yr holl sgyrsiau creadigol a gynhelir fel rhan o'r rhaglen a'r ymatebion creadigol i'r weledigaeth Natur a Ni. Mae'n adnodd gwych i ysbrydoli eich sgyrsiau eich hun am ddyfodol ein hamgylchedd naturiol ac ar gyfer annog camau gweithredu yn y dyfodol lle mae cymdeithas a natur yn ffynnu gyda'i gilydd.

Bwrwch olwg ar y wefan i ddysgu mwy am Natur a Ni. Neu e-bostiwch natureandus@naturalresources.wales i gael gwybod y diweddaraf am ddatblygiadau’r rhaglen.

Ariannu Cyfalaf Lleoedd Lleol i Natur

Rhagor o wybodaeth yma

Y Gronfa Rhwydweithiau Natur

Rhagor o wybodaeth yma

Cronfa Gymunedol Achub ein Hynysoedd Gwyllt / Save Our Wild Isles

Mae Aviva, mewn partneriaeth â WWF a’r RSPB, yn rhoi £1 miliwn i gefnogi grwpiau cymunedol ar draws y DU i ddiogelu ac adfer natur yn eu hardal leol.

Gallwch ddarllen mwy a gwneud cais yma

Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
Ydych chi eisiau trawsnewid ardal sydd wedi ei hesgeuluso yn ardd hardd lle gall natur ffynnu? Ydych chi eisiau creu hyb cymunedol neu helpu pobl i dyfu eu ffrwythau a’u llysiau eu hunain? Dyma eich cyfle!

Mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ôl, ac mae gennym gannoedd o becynnau gardd i’w rhoi am ddim i grwpiau a sefydliadau cymunedol.

Sut i wneud cais a rhagor yma.

Grantiau Plannu Coed Cymunedol y DU
Gallai eich syniad fod yn rhywbeth bach, fel coetir cymunedol neu berllan. Neu gallai fod yn brosiect ar raddfa fwy fel adfer tirwedd neu ailwylltio. Mae’r Sefydliad yn agored i bob math o syniadau a mathau o brosiectau felly cysylltwch â ni!
Darganfyddwch fwy a gallwch wneud cais yma

Grant Buddsoddi mewn Coetir
Mae’r Grant Buddsoddi mewn Coetir yn rhaglen newydd i berchnogion tir i greu coetiroedd i gymunedau lleol i’w defnyddio a’u mwynhau, fel rhan o fenter y Goedwig Genedlaethol.
Am fwy o wybodaeth a chanllawiau ymgeisio ewch i’r wefan.

Grant Cyflenwi Mawndiroedd CNC

Gweler gwybodaeth am Rownd 3 y Grant Datblygu Mawndiroedd.

Mae’r holl fanylion a’r broses ymgeisio ar gael ar dudalen we Rhaglen Gweithredu Mawndiroedd Cymru.

Cynllun Grantiau Gwirfoddoli Cymru
Cynllun sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo a gwella gwirfoddoli yng Nghymru yw Grantiau Gwirfoddoli Cymru.
Mae cyllid am hyd at £25,000 y flwyddyn ar gael i fudiadau nid-er-elw sy’n cynnig prosiectau hyd at ddwy flynedd o hyd.

Mwy o wybodaeth am y cynllun yma

Cronfa Amgylcheddol Dŵr Cymru Welsh Water

Mae gwarchod a gwella’r amgylchedd o’n cwmpas yn un o’r cyfrifoldebau pwysicaf sydd gan Dŵr Cymru. Nod Cronfa’r Amgylchedd yw darparu cymorth ariannol i brosiectau a fydd o fudd i fioamrywiaeth yn ein safleoedd neu’n agos atyn nhw, ac a fydd yn eu gwella.
Cewch wybod rhagor yma

Cyllido Cymru

Croeso i blatfform newydd Cyllido Cymru ar gyfer cefnogi’r Trydydd Sector yng Nghymru i chwilio am gyllid. Dewch o hyd i gyllid i’ch elusen, eich grŵp cymunedol neu eich menter gymdeithasol gan ddefnyddio ein chwilotwr ar-lein am ddim.

Bydd dau brosiect newydd yn adfer ac yn gwella byd natur a'r amgylchedd yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf - newyddion ardderchog i fynd i'r afael â'r Argyfwng Natur.

Bydd y prosiectau, a ariennir trwy Raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru, yn sicrhau y bydd cyfanswm o £13.8 miliwn yn rhoi hwb sylweddol i heriau cadwraethol dros y pum mlynedd nesaf.
Bydd mwy na naw miliwn o bunnoedd yn cael eu buddsoddi i wella cyflwr pedair afon - y Teifi, y Cleddau, y Tywi a’r Wysg - 500km o’n hafonydd.
Bydd ychydig dros £4.5 miliwn yn gwarchod corsydd crynedig - sy’n cael eu henw oherwydd y ffordd mae'r mawndir yn crynu, yn llythrennol, o dan eich traed! Y mwyaf o'r corsydd crynedig sydd ar ôl yng Nghymru yw Cors Crymlyn, ar gyrion Abertawe.
Bydd ardaloedd eraill o gorsydd crynedig hefyd yn cael eu gwella, gan gynnwys yn Nhyddewi, Sir Benfro ac ym Mhen Llŷn. Mae angen gofal dwys ar bob un ohonynt oherwydd difrod a wnaed yn y gorffennol o ganlyniad i ddraenio, llygredd neu esgeulustod. Ond mae rhywogaethau prin iawn yn llechu yno o hyd - gan gynnwys pry cop mwyaf Prydain sef corryn arnofiol y gors galchog yng Nghrymlyn a glöyn byw brith y gors yn Sir Benfro a Gwynedd.
Yr allwedd i lwyddiant fydd gweithio'n agos gyda thirfeddianwyr, cymunedau a phartneriaid eraill.

Bydd Prosiect Pedair Afon yn:

  • Gwella cynefinoedd ac amodau afonydd ar gyfer pysgod mudol - yn arbennig yr eogiaid, llysywod pendoll y môr a'r afon, pennau lletwad a herlod. Disgwylir i ddyfrgwn a misglod perlog dŵr croyw elwa hefyd;
  • Adfer rhannau o afonydd sydd wedi’u sythu yn y gorffennol, fel eu bod yn ymdroelli unwaith eto - newyddion rhagorol i fywyd gwyllt. Ond bydd pobl yn cael budd o hyn hefyd oherwydd bydd arafu'r llif yn lleihau’r risg o lifogydd i gymunedau islaw yn y dyffryn;
  • Gweithio gyda ffermwyr i amddiffyn coridorau afonydd a sicrhau fod llai o waddodion a maetholion yn mynd i mewn i afonydd. Bydd hyn hefyd yn diogelu cyflenwadau dŵr yfed.
Bydd prosiect Corsydd Crynedig yn adfer saith Ardal Cadwraeth Arbennig – gyda phedwar o’r rhain yn Warchodfeydd Natur Cenedlaethol, trwy:
  • Sicrhau bod lefel y dŵr yn addas ar gyfer corsydd crynedig er mwyn iddyn nhw gynnal eu planhigion a’u creaduriaid arbenigol
  • Rheoli prysgwydd a rhywogaethau goresgynnol estron sy’n gallu mygu'r cynefin naturiol;
  • Ailgyflwyno pori traddodiadol;
  • Gwella mynediad fel y gall mwy o bobl fwynhau natur ar ei gorau.

Bydd Prosiect Pedair Afon yn cael ei redeg gan CNC mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Ymddiriedolaeth Adfer Afonydd, Coleg Sir Gâr a Coed Cadw, gyda chefnogaeth ariannol ychwanegol gan Dŵr Cymru.

Partneriaid CNC ar brosiect Corsydd Crynedig yw’r Ymddiredolaeth Genedlaethol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Eryri ac Arfordir Sir Benfro.

Testun trwy garedigrwydd CNC

Llun © Sean McHugh

Mae’r Conservation Partnership | Curlew Wales yn cynnwys manylion o Ardaloedd Pwysig ar gyfer y Gylfinir sy’n cynnig ffocws ar gyfer gweithgareddau cadwraethol i’r dyfodol. Lluniwyd Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Adfer y Gylfinir gan Gylfinir Cymru / Curlew Wales yn dilyn argymhelliad Llywodraeth Cymru i hybu cadwraeth y Gylfinir Ewrasiaidd yng Nghymru. Mae angen dybryd am weithredu cadwraethol ar y cyd ar gyfer y DU a Chymru am fod yr aderyn ar y rhestr Goch o Adar sy’n achos Pryder Cadwraethol yng Nghymru.

Curlew

Y Gylfinir © Ymddiriedolaeth Adar Prydain (BTO)


Cyhoeddi argyfwng natur yng Nghymru

Ar 30 Mehefin 2021, datganodd y Senedd argyfwng natur yng Nghymru a chydnabuwyd ganddi fod yr argyfyngau natur a hinsawdd wedi'u cysylltu'n annatod. Mae hyn yn atgyfnerthu'r datganiad o argyfwng hinsawdd gan y Senedd yn 2019. Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru yr oedd yn bwriadu sefydlu corff gwarchod amgylcheddol annibynnol i Gymru ac y bydd yn edrych ar dargedau bioamrywiaeth yng nghyd-destun fframwaith bioamrywiaeth byd-eang y Cenhedloedd Unedig a fframwaith y DU, sydd wrthi'n cael eu datblygu, ac i sicrhau bod targedau'n ysgogi camau gweithredu i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Cofnod Cyfarfod Llawn y Senedd (wedi'i restru o dan Eitem 7 yn y Cyfarfod Llawn)




hedgehog

Cafwyd yr asesiad cynhwysfawr diwethaf o statws y 49 rhywogaeth o famaliaid a ganfyddir yng Nghymru yn 1995. Mae Cyflwr Mamaliaid yng Nghymru yn crynhoi ein gwybodaeth bresennol, gan adrodd ar feintiau poblogaethau, gwasgariadau daearyddol, tueddiadau ac, ar gyfer rhywogaethau cynhenid, eu statws Rhestr Goch Ranbarthol yn ôl safonau’r Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur.

Cafodd afancod a baeddod gwyllt eu heithrio o'r asesiad oherwydd ansicrwydd ynglŷn â'u statws yng Nghymru. Roedd y rhan fwyaf o rywogaethau naill ai wedi cynyddu (26%) neu’n sefydlog (43%) o ran eu niferoedd. Mae'r holl rywogaethau estron a gyflwynwyd i Gymru yn ddiweddar wedi cynyddu eu dosbarthiad daearyddol. Mae niferoedd yr holl rywogaethau sydd wedi ymsefydlu – hynny yw, pob rhywogaeth sydd wedi cyrraedd ers ffurfio'r Sianel, ond cyn diwedd y ddeuddegfed ganrif – hefyd wedi cynyddu neu'n sefydlog, ac eithrio'r llygoden ddu, sydd bellach o bosib wedi diflannu. Grwpiau ceirw a chigysyddion sydd â’r nifer fwyaf o rywogaethau â dosbarthiadau sy’n cynyddu; yn wir, mae pob rhywogaeth o geirw yng Nghymru bellach i’w canfod dros ardaloedd mwy eang nag ugain mlynedd yn ôl. I raddau helaeth, mae gan gnofilod, chwistlod, ysgyfarnogod brown a draenogod ddosbarthiadau sefydlog.Nid yw tueddiadau dosbarthiadau llygod yr ŷd a’r rhan fwyaf o ystlumod yn hysbys, o ganlyniad i newidiadau radical ym methodoleg cynnal arolygon dros amser. Yn achos nifer o rywogaethau, ceir diffyg cyffredinol o ran gwybodaeth fonitro.

Ar hyn o bryd, ceir llawer o gyfleoedd i warchod mamaliaid yng Nghymru. Mae Cymru’n
parhau i fod yn gadarnle i’r ffwlbart, er eu bod wedi diflannu bron yn gyfan gwbl o weddill y DU; mae’r ymdrechion presennol i atgyfnerthu poblogaeth y bele wedi bod yn hynod lwyddiannus; ac mae Ynys Môn yn parhau i fod yn ardal allweddol i’r wiwer goch. Ceir poblogaethau sylweddol hefyd o’r ystlum pedol mwyaf a lleiaf, gyda thystiolaeth o ledaeniad cynyddol tua'r gogledd, o bosib o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, mae bywyd gwyllt yng Nghymru hefyd yn wynebu heriau o ganlyniad i’r twf mewn poblogaethau dynol, gofynion amaethyddiaeth a choedwigaeth, a phresenoldeb rhywogaethau estron goresgynnol. Drwy gyfres o astudiaethau achos, mae Cyflwr Mamaliaid yng Nghymru, yn gosod asesiadau o statws cadwraeth yn eu cyd-destun.

melyn

Mae Buglife Cymru wedi lansio ei Adroddiad Gwenyn dan Fygythiad Cymru, yr adroddiad cyntaf o’i fath i archwilio iechyd ein rhywogaethau gwenyn gwyllt sydd dan y bygythiad mwyaf. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at rai o wenwyn gwyllt mwyaf prin Cymru a’r rhai sydd dan y bygythiad mwyaf a’r pethau positif y gallwn ni ei wneud i helpu’r rhywogaethau hyn, gan sicrhau na fyddant yn marw allan yng Nghymru. Mae’r adroddiad wedi canfod bod saith math o’n gwenwyn wedi diflannu yng Nghymru, ac mae pump arall, fel y Wenynen durio fechan eddi hir (Andrena niveata) – ar fin diflannu’n llwyr. Mae mwyafrif y rhywogaethau gwenyn gwyllt a aseswyd gan yr adroddiad wedi dioddef dirywiad sylweddol, yn cynnwys y Gardwenynen feinlais (Bombus sylvarum) y mae ei phoblogaethau craidd bellach eu cyfyngu i Dde Cymru, gan godi pryderon ynghylch rhagolygon y rhywogaethau hyn i’r dyfodol.





Llun Buglife

Mae Ymddiriedolaeth y Bobl ar gyfer Rhywogaethau sydd mewn Perygl (PTES) wedi cynhyrchu canllaw newydd defnyddiol i ecolegwyr, rheolwyr tir ac ymgynghorwyr sy'n chwilio am gyngor ar sut i reoli mannau gwyrdd yn well i gefnogi poblogaethau draenogod yn lleol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw fannau gwyrdd gan gynnwys parciau, meysydd hamdden, clybiau golff, mynwentydd, rhandiroedd a thiroedd ysgolion.

hedgehog

Hedgehog © David Cooper / PTES

Cynlluniauard roed i at gyfnerthu'r bob logaeth belaod coed yng Nghymru

Mae Ymddiriedolaeth Natur Vincent yn anelu at ailgyflwyno poblogaeth iach o felaod coed i Gymru, sy'n famal brodorol i'r wlad. Mae bele'r coed (Martes martes), sydd tua maint cath ac yn aelod o deulu'r gwencïod, yn ffafrio byw yng nghoetiroedd. Roedd belaod coed yn arfer bod yn gyffredin ac yn byw ledled Cymru, ond mae'r boblogaeth wedi dirywio'n ddifrifol, ac mae wedi mynd mor isel nad yw'n debygol o wella heb ymyrraeth. Mae Ymddiriedolaeth Natur Vincent yn bwriadu atgyfnerthu'r boblogaeth drwy ddod â rhai belaod coed o boblogaeth iach yn yr Alban. Bydd hyn yn hybu'r niferoedd ac yn cynyddu'r amrywiaeth enynnol. Mae'r ymddiriedolaeth wedi cynnal astudiaeth ddichonoldeb, a rhan o hyn oedd dod o hyd i safleoedd a allai fod yn addas ar gyfer eu rhyddhau. Dewiswyd ardal yn y canolbarth fel safle ar gyfer eu rhyddhau, gan fod ganddi gynefinoedd coetir helaeth, mae dwysedd ei rhwydwaith ffyrdd yn isel, a phrin y ceir gwrthdaro â gweithgareddau dynol, megis saethu helwriaeth. Bydd nifer fach o felaod coed yn cael eu cymryd o safleoedd yn yr Alban, ac unwaith iddynt gael eu rhyddhau yng Nghymru, byddant yn cael eu holrhain yn fanwl â radio. Bydd hyn yn ein galluogi i fonitro lle maent yn sefydlu tiriogaethau, a byddwn yn asesu pa mor llwyddiannus oedd y rhyddhad. Bydd adfer poblogaeth iach o felaod coed yn cynnig posibiliadau sylweddol ar gyfer twristiaeth natur, drwy ddenu ymwelwyr i Gymru i weld belaod coed, fel sy'n digwydd yn yr Alban. Gallai coetiroedd a rheolwyr coetiroedd elwa hefyd, os yw belaod coed yn lleihau poblogaeth wiwerod llwyd, fel sydd wedi digwydd yn Iwerddon.

I ddarganfod mwy am y prosiect, ewch i wefan y prosiect adfer belaod coed.


Delwedd © Ymddiriedolaeth Natur Vincent

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt