Mae Parterniaeth Bioamrywiaeth Cymru wedi ymrwymo i warchod a pharchu eich preifatrwydd.
Mae'r polisi hwn yn esbonio pryd a pham y byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol am ymwelwyr i'n gwefan neu sy'n defnyddio ein gwasanaethau, sut rydym yn ei defnyddio, o dan ba amgylchiadau y byddwn efallai yn ei datgelu i eraill, a sut y byddwn yn ei chadw'n ddiogel.
Efallai y byddwn yn newid y polisi hwn o bryd i'w gilydd, felly gwiriwch y dudalen hon yn achlysurol i sicrhau eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau. Trwy ddefnyddio ein gwasanaethau, rydych yn cytuno i gael eich rhwymo i'r polisi hwn.
Gallwch gysylltu â Phartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru trwy anfon e-bost at walesbiodiversitypartnership@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk, trwy ffonio 0300 065 4242, neu drwy ysgrifennu atom yn y cyfeiriad canlynol: Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru, d/o Cyfoeth Naturiol Cymru, Tŷ Cambria, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 0TP.
Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru yn dod â’r prif gyfranwyr o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol at ei gilydd i hyrwyddo a monitro camau gweithredu yn ymwneud â bioamrywiaeth ac ecosystemau yng Nghymru. Cynhelir Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru ar hyn o bryd gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r rheolydd data ac mae'n ymroddedig i amddiffyn hawliau unigolion yn unol â'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).
Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru swyddog diogelu data y gallwch gysylltu ag ef drwy anfon e-bost at dataprotection@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu drwy ffonio 0300 065 3000.
Mae gweithgareddau Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru yn cynnwys diweddariadau bioamrywiaeth rheolaidd trwy ein rhestr e-bost fewnol, dros y ffôn, ac ar ffurff e-cylchlythyr sy’n defnyddio platfform MailChimp (y mae angen tanysgrifiad i’w ddefnyddio); cylchlythyrau cyfoes (fformat PDF); a threfnu cynadleddau a gweithdai. Gellir cadw lle ar gyfer cynadleddau a gweithdai trwy blatfform Eventbrite neu drwy ddefnyddio system cadw lle mewnol dros yr e-bost. Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru hefyd yn defnyddio platfform Twitter i hyrwyddo'i gweithgareddau.
Ar gyfer gweithgareddau Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru, mae angen casglu gwybodaeth megis enw, e-bost, rhif ffôn ac, yn achos cynadleddau, cyfeiriad a gofynion dietegol ac arbennig eraill. Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru hefyd yn cynnal arolygon er mwyn gwella'r hyn sydd gennym i’w gynnig. Mae'r rhain yn cynnwys arolygon gwefan Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru ac arolygon adborth cynadleddau Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru gan ddefnyddio platfform SmartSurvey.
Cynhelir gwefan Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru gan drydydd parti (WiSS).
Rheolir holl gynnwys y wefan ac ymholiadau a wneir trwy wasanaeth cyswllt y wefan gan Bartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru.
Mae gwefan Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru un defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ddienw am y nifer o ymwelwyr a'r rhannau o'r wefan a ymwelir â hwy.
Mae cwcis yn ddarnau bach o wybodaeth sy'n cael eu storio ar eich cyfrifiadur gan wefannau. Mae'r rhain fel arfer yn cael eu defnyddio gan wefannau i gofio eich dewisiadau, neu i olrhain eich hanes gwylio er mwyn targedu hysbysebion yn fwy effeithiol.
Mae'r wybodaeth ddienw yn cael ei chasglu a'i hadrodd trwy ddefnyddio Google Analytics i’n helpu ni i reoli'r wefan. Mae hyn yn ein hatal rhag gweld cofnodion unigol: dim ond crynodebau a gwybodaeth am dueddiadau y gallwn eu gweld.
Defnyddiwn gwcis er mwyn darparu gwasanaeth gwell i chi. Parhewch i bori os ydych yn hapus gyda hyn, neu cewch wybod sut i reoli cwcis.
Pan fydd rhywun yn ymweld â www.biodiversitywales.org.uk, rydym yn defnyddio gwasanaeth trydydd parti, Google Analytics, i gasglu gwybodaeth cofnodion rhyngrwyd safonol a manylion am batrymau ymddygiad yr ymwelydd.Rydym yn gwneud hyn i ddarganfod pethau fel y nifer o ymwelwyr i rannau gwahanol o'r safle. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei phrosesu mewn ffordd nad yw’n adnabod neb. Nid ydym yn ceisio darganfod, nac yn caniatáu i Google geisio darganfod, pwy sydd yn ymweld â'n gwefan.
Mae'n safle yn cynnwys dolenni i wefannau ein partneriaid a'n haelodau. Os byddwch yn dilyn dolen i unrhyw un o'r gwefannau hyn, nodwch y bydd gan y gwefannau hyn ac unrhyw wasanaethau y gellir eu cyrraedd trwyddynt eu polisïau preifatrwydd eu hun ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb neu atebolrwydd ar gyfer y polisïau hyn neu ar gyfer unrhyw ddata personol y gallai gael ei gasglu trwy'r gwefannau neu wasanaethau hyn. Gofynnir i chi wirio’r polisïau hyn cyn ychwanegu unrhyw ddata personol i'r gwefannau hyn neu’n defnyddio'r gwasanaethau hyn.
Mae'r data yn cael ei brosesu yn fewnol ac nid yw'n cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau awtomataidd.
Mae prosesu yn angenrheidiol i gyflawni tasg er budd y cyhoedd a nodir yn y gyfraith, sef deddfwriaeth bioamrywiaeth ac amgylcheddol yng Nghymru, y DU a'r UE.
Staff cymorth Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru (wedi'u cynnal gan Cyfoeth Naturiol Cymru) yw'r prif broseswyr data at ddibenion cyflawni dyletswyddau sydd wedi'u halinio â dibenion cyffredinol Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru. Gallwch gysylltu â Phartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru trwy anfon e-bost at walesbiodiversitypartnership@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu drwy ffonio 0300 065 4242.
Rydym hefyd yn defnyddio proseswyr trydydd parti ac, o'r herwydd, gallwn rannu eich gwybodaeth gyda nhw. Bydd prosesu’r wybodaeth hon yn unol â pholisi preifatrwydd y trydydd pertïon. Dyma'r proseswyr trydydd parti yr ydym yn eu defnyddio:
Ni fyddwn yn cadw eich data yn hirach nag sydd angen ar gyfer cyflawni gweithgareddau Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru.
Mae gennych hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol, i wrthwynebu i’r gwaith o brosesu eich gwybodaeth bersonol, ac i gywiro, dileu, cyfyngu a chludo eich gwybodaeth bersonol.
Dylai unrhyw geisiadau neu wrthwynebiadau gael eu gwneud yn ysgrifenedig i swyddog diogelu data Cyfoeth Naturiol Cymru: -
E-bost– dataprotection@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Swyddog Diogelu Data
Cyfoeth Naturiol Cymru
Maes y Ffynnon
Ffordd Penrhos
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Mae’r holl wybodaeth yr ydych yn ei darparu i ni yn cael ei chadw ar ein gweinyddion diogel.
Yn anffodus, nid yw trosglwyddo gwybodaeth trwy'r rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Er y byddwn yn gwneud ein gorau i ddiogelu eich data personol, ni allwn warantu diogelwch y data yr ydych yn trosglwyddo i'n safle; bydd unrhyw ddata a anfonwch ar eich risg eich hun. Unwaith yr ydym wedi derbyn eich gwybodaeth, byddwn yn defnyddio gweithdrefnau a nodweddion diogelwch llym i geisio atal mynediad diawdurdod.
Bydd unrhyw newidiadau a wnawn i'n polisi preifatrwydd yn y dyfodol yn cael eu postio ar y dudalen hon a, phan fo’n briodol, byddwn yn eich hysbysu ohonynt trwy e-bost. Gwiriwch yn aml i weld unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau i'n polisi preifatrwydd.
Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd y mae eich data personol wedi cael ei brosesu, gallwch gysylltu â swyddog diogelu data Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyntaf gan ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.
Os ydych chi'n parhau i fod yn anfodlon, mae gennych yr hawl i wneud cais uniongyrchol i'r Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad. Gellir cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth / Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF