Cyflwyniad

Mae Safleoedd Bywyd Gwyllt1 a Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SINC) yn ardaloedd o dir a gydnabyddir am eu pwysigrwydd i fywyd gwyllt, sydd y tu allan i amddiffyniad cyfreithiol system Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI). Ynghyd â safleoedd SSSI, y rhain yw craidd rhwydwaith pwysig o gynefinoedd sydd dan fygythiad fel coetiroedd hynafol, gweirgloddiau, gwlyptiroedd a glaswelltiroedd niwtral, sy’n darparu gofod i lawer o rywogaethau o anifeiliaid a phlanhigion yng Nghymru sy’n dirywio. Yng Nghymru, mae 4700 a mwy o safleoedd yn cwmpasu ardal o tua 800 kilometr sgwâr (sy’n cyfateb i bron i 4% o Gymru). Defnyddir yr un meini prawf cadarn ar gyfer dethol safleoedd bywyd gwyllt a safleoedd SINC ac maen nhw’n rhan annatod o ddeddfwriaeth cynllunio genedlaethol a lleol. Yr uchelgais yw monitro cyflwr safleoedd a glustnodir yn safleoedd Bywyd Gwyllt a safleoedd SINC bob ychydig o flynyddoedd a gwneud argymhellion rheoli er mwyn cynorthwyo gydag arferion rheoli sy’n gwarchod a gwella gwerth y safleoedd hyn ar gyfer bywyd gwyllt.

1 pan fo gohebiaeth â thirfeddiannwr a chynllun rheoli a gytunwyd ar gyfer bywyd gwyllt, cyfeirir at y safleoedd fel safleoedd Bywyd Gwyllt. Ar y cyfan , nid oes gan safleoedd SINC gynllun rheoli a gytunwyd gan nad yw’r cysylltiad â’r tirfeddiannwr wedi cychwyn neu ei fod yn ei ddyddiau cynnar.

Prosiect Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol - y De-ddwyrain

Roedd Prosiect Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol - De-ddwyrain Cymru yn Astudiaeth Beilot a gynhaliwyd gydol 2014 gan Ymddiriedolaeth Natur Gwent ac Ymddiriedolaeth Natur y De a’r Gorllewin (WTSWW) mewn cydweithrediad â sefydliadau cadwraeth eraill ac Awdurdodau Lleol. Cafodd ei ariannu gan y Cynulliad Cenedlaethol drwy Gronfa Ecosystemau Gwydn.

Nod y prosiect oedd cychwyn ar broses o greu rhwydwaith o Safleoedd Bywyd Gwyllt ledled y De-ddwyrain drwy hyrwyddo Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol, ymgysylltu â thirfeddianwyr, cynnal arolygon, darparu deunyddiau addysgol, prisio gwaith rheoli cynefinoedd angenrheidiol a llunio strategaeth ar gyfer rheoli’r rhwydwaith o Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol yn y tymor hir.

Gall y prosiect restru’r prif lwyddiannau canlynol yn ystod 2014:

  • Hyrwyddo Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol drwy lunio taflen, ysgrifennu 8 erthygl, darllediad radio, 5 cyflwyniad a mynychu 12 digwyddiad. Cynllunio a chaffael pebyll mawr, stondinau untro, fflagiau, byrddau arddangos er mwyn helpu gyda’r gwaith hwn.
  • Ymgysylltu â thirfeddianwyr/tenantiaid 116 o safleoedd gwahanol a chwblhau gwaith arolygu ar y rhan fwyaf ohonynt.
  • Creu 14 Pecyn Cymorth Rheoli Cynefinoedd sy’n mynd i’r afael â mathau gwahanol o gynefinoedd a materion rheoli.
  • Darparu deunyddiau addysgol i dirfeddianwyr drwy lythyrau unigol yn egluro gwerth y safleoedd ynghyd â dosbarthu Pecynnau Cymorth Rheoli Cynefinoedd a mynychu 2 Ddiwrnod i Dirfeddianwyr lle’r oedd nifer dda yn bresennol.
  • Aseswyd gofynion rheoli cynefin 64 o safleoedd unigol yn fanwl a chafodd y gofynion eu prisio hefyd.
  • Ar gyfer 7 o’r 64 o safleoedd unigol, cafodd mesurau gwarchod ymarferol eu hariannu a’u cwblhau er mwyn sicrhau bod y safleoedd hyn mewn gwell cyflwr yn ecolegol, y gellir eu cynnal yn y tymor hir ac er mwyn arddangos yr hyn y gellir ei gyflawni.
  • Lluniwyd Strategaeth Rheoli Tymor Hir ar gyfer Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol (LWS).

Gan ddilyn y gwaith hwn, aeth Ymddiriedolaeth Natur Gwent ac Ymddiriedolaeth Natur y De a’r Gorllewin ati i wneud rhagor o waith LWS yn ystod hanner cyntaf 2015. Roedd y gwaith hwn yn canolbwyntio ar ardaloedd o uwchdiroedd yng Nghymoedd Dwyreiniol y De. Paratowyd 6 Pecyn Cymorth arall i ategu’r 14 a gynhyrchwyd yn ystod 2014. At hynny, arolygwyd 20 yn rhagor o LWS a rhoddwyd cyngor i’r tirfeddianwyr ac ymgysylltwyd ymhellach â thirfeddianwyr er mwyn iddynt gyfrannu yn y dyfodol.

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gwent ac Ymddiriedolaeth Natur y De a’r Gorllewin yn parhau i wneud gwaith LWS. Ar hyn o bryd mae Ymddiriedolaeth Natur Gwent yn ail-arolygu 150 o safleoedd (50 y flwyddyn rhwng 2015-2017) a arolygwyd yn wreiddiol cyn 2008 er mwyn diweddaru’r rhestrau o rywogaethau, disgrifiadau, ffiniau a mapiau cynefinoedd yn ogystal â darparu rhagor o gyngor rheoli i berchnogion.

Ar hyn o bryd, mae Ymddiriedolaeth Natur y De a’r Gorllewin yn gwneud rhaglen o waith LWS 18 mis yn Rhondda Cynon Taf a fydd yn cynnwys y gwaith o ymgysylltu â thirfeddianwyr a hyrwyddo gwerth LWS a thechnegau rheoli sy’n arferion da. Cynhelir y prosiect mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Tân De Cymru, gyda’r nod o atal tannau mewn glaswelltiroedd drwy reoli safleoedd agored i niwed yn well.

LWS Gweirglodd Glaswelltir Niwtral yn New Grove Farm © Andy Karran /Ymddiriedolaeth Natur Gwent

LWS Gweirglodd Glaswelltir Niwtral yn New Grove Farm

© Andy Karran /Ymddiriedolaeth Natur Gwent

LWS Glaswelltir corsiog ac asid yng Nghaerffili © Andy Karran /Ymddiriedolaeth Natur Gwent

LWS Glaswelltir corsiog ac asid yng Nghaerffili

© Andy Karran /Ymddiriedolaeth Natur Gwent

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt