Crynodeb Gweithredol
Mae'r Cytundeb ar Amrywiaeth Biolegol (CAB) yn cydnabod ardaloedd gwarchodedig fel conglfaen cadwraeth sy'n ymwneud â bioamrywiaeth. Mae'r Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol (a arferai fod yn Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol) yn ffurfio rhan o rwydwaith ardaloedd gwarchodedig y DU ac maent yn allweddol i gyflawni targed CAB, sef bod o leiaf 30 y cant o dir, dŵr croyw a moroedd yn cael eu gwarchod a'u rheoli'n effeithiol erbyn 2030. Mae gan yr ardaloedd hyn rôl bwysig i'w chwarae yn ymateb Cymru i'r ymrwymiad byd-eang hwn.
Fel rhan o Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth Llywodraeth Cymru, mae'r adroddiad interim hwn yn amlinellu cynnydd tuag at yr ymrwymiad i ddatgloi potensial Tirweddau Dynodedig i gyflawni mwy dros natur a 30 erbyn 30. Roedd gan ein gwaith saith thema a oedd yn gwneud y canlynol:
Caiff Tirweddau Cenedlaethol a Pharciau Cenedlaethol gyda'i gilydd eu hadnabod yng Nghymru fel Tirweddau Dynodedig. Mae gan y term “tirwedd”, o safbwynt rheoli amgylcheddol, ystyron gwahanol a chaiff ei ddefnyddio mewn sawl gwahanol ffordd. Mae'n derm nad yw bob amser yn cael ei gymhwyso mewn ffordd gydlynol ac fel rheol mae'n destun dadl. Mae'r uchelgais i warchod a gwella harddwch naturiol, ac i'r nod hwn ddod yn sylfaen ar gyfer ein ffordd o ddiffinio diben rheoli Tirweddau Dynodedig, yn cymhlethu pethau fwy byth.
Er eu bod yn ffisegol ac yn synhwyrol, yn yr ystyr y gellir eu hamgyffred drwy'r synhwyrau, ffrwyth prosesau yw tirweddau, sydd wedi'u cymell, eu diffinio a'u deall yn ddiwylliannol gan bobl. Maent wedi'u gwreiddio mewn ymwybyddiaeth gymdeithasol a gall grwpiau cymdeithasol gwahanol briodoli'r un gofod mewn ffyrdd gwahanol. Mae Tirweddau Dynodedig yn fannau sy'n cael eu herio, y mae ymdrechion i arfer pŵer drostynt yn creu tiriogaethau amlwg, ar lefel materol a symbolaidd. Mae Tirwedd yn gyfrwng mynegiant diwylliannol a all atgyfnerthu gwerthoedd ac ymdeimlad o hunaniaeth. Ond gall hefyd greu anesmwythder, ymddieithriad ac unigedd. Felly, mae cryn gyfrifoldeb ar y rhai sy'n gyfrifol am reoli tirweddau.
Mae tirwedd yn fan cyfarfod rhwng natur a diwylliant, daeareg a daearyddiaeth, y gorffennol a'r presennol, a rhwng gwerthoedd diriaethol ac anniriaethol. Felly, mae ei mynegi o safbwynt polisi yn gymhleth, ond yn y pen draw, mae'n cynnig llawer o gyfleoedd blaengar.
Wrth i ni weithio i fynd i'r afael ag argyfyngau dirfodol newid yn yr hinsawdd, colli natur a diraddiant amgylcheddol ehangach, mae'r cydberthnasau rhwng polisïau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd wedi dod yn glir. Nid yn unig y mae ‘tirwedd’ fel cysylltiad yn cynnig ateb effeithiol i'r dull rhydwythiadol o reoli'r amgylchedd sydd wedi gwaethygu'r problemau a wynebwn heddiw, ond gallai gynnig mecanwaith ganolog i bobl ei defnyddio i ymgysylltu â'r byd naturiol.
Mae ymgais i adlewyrchu cymhlethdod ‘tirwedd’ yn fframio'r adroddiad cychwynnol hwn. Mae'n bwysig bod yn gryno, ond mae'n bwysig hefyd cydnabod bod y problemau a wynebwn yn rhai 'drwg', bod polisïau yn gyd-ddibynnol, a bod y systemau y maent yn gymwys iddynt yn gydgysylltiedig.
Bydd ardaloedd gwarchodedig Cymru yn hanfodol i adferiad natur.
Caiff Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol eu cydnabod yn fyd-eang fel ardaloedd gwarchodedig Categori V Yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUCN)1. Maent yn ffurfio rhan o gyfres fyd-eang o ardaloedd gwarchodedig. Er ei bod yn bwysig diffinio amcanion ardaloedd gwarchodedig a deall y rôl y gallant eu chwarae wrth gyfrannu at dargedau byd-eang ehangach, eu heffeithiolrwydd wrth warchod ac adfer bioamrywiaeth yw'r canolbwynt. Mae Tirweddau Dynodedig yng Nghymru mewn sefyllfa ddelfrydol i ddysgu o'r ffordd o feddwl sy'n sail i ddwy raglen gan y Cenhedloedd Unedig – y CAB a'r Nodau Datblygu Cynaliadwy, y daw'r ddwy ynghyd yn naturiol drwy'r Dull Gweithredu Tirwedd2 a fframiwyd yng Nghymru gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac y mae canllawiau rheoli Ardaloedd Gwarchodedig Categori V IUCN3 yn darparu'r mecanwaith llywodraethu ar eu cyfer.
Mae sawl menter fyd-eang a all helpu naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol i wireddu uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer Tirweddau Dynodedig. Mae'r cyfeiriadau yn yr adroddiad hwn at waith yr IUCN, a'r gwaith sy'n gysylltiedig â'r CAB a'r Nodau Datblygu Cynaliadwy yn bwysig ond nid ydynt yn gynhwysfawr. Bydd ehangu ein safbwynt byd-eang ar reoli ardaloedd gwarchodedig yn cefnogi arloesedd, yn herio tueddiadau diwylliannol ac, yn y pen draw, yn gwella effeithiolrwydd Tirweddau Dynodedig yng Nghymru.
Mae gan CAB dri phrif amcan: cadwraeth amrywiaeth fiolegol; defnydd cynaliadwy o elfennau amrywiaeth fiolegol; a rhannu'r manteision sy'n codi yn sgil defnyddio adnoddau genetig mewn modd teg. Mae'r dull integredig o gynllunio rheoli a fabwysiadwyd gan y Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol yn gweddu'n ddelfrydol i ddatblygu'r amcanion hyn mewn ffordd sy'n adlewyrchu eu rhyngddibyniaethau.
Mae cynllunio rheoli yn broses gyfranogol sy'n integreiddio blaenoriaethau strategol cenedlaethol ag anghenion lleol. Cynlluniau ar gyfer yr ardal ydynt, yn hytrach na'r awdurdodau, a chânt eu hadolygu bob pum mlynedd.
Tynnodd y grŵp arbenigol sylw at bwysigrwydd dwy ddogfen oedd ar ddod – canllawiau cynllunio rheoli arfaethedig Cyfoeth Naturiol Cymru a fframwaith strategol Cymru gyfan, sy'n cael ei ddatblygu gan Tirweddau Cymru Landscapes Wales (TCLW), sy'n archwilio set o nodau integredig a ddyluniwyd i gynyddu cyflymder y gwaith cyflawni a dylanwadu ar newidiadau ar lefel systemau. Bydd y dogfennau hyn yn helpu i fframio'r gwaith o wneud penderfyniadau yn ystod y cyfnod hwn o newid.
Yn ogystal, tynnodd y grŵp sylw at bwysigrwydd adroddiadau Cyflwr y Dirwedd. Byddai'r rhain yn cynnig ciplun o'r cyflwr sylfaenol presennol, adborth ar effeithiolrwydd y polisïau sy'n bodoli eisoes, ac yn modelu senarios i'r dyfodol.
Yng Nghymru, mae Adran 62 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 ac Adran 85 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau perthnasol i “ystyried” y dibenion y caiff Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol (Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol) eu dynodi ar eu cyfer, yn y drefn honno. Mae'r “Ddyletswydd Sylw” yn biler statudol canolog o ran cyflawni amcanion Tirweddau Dynodedig
Mae'r Ddyletswydd Sylw yn golygu bod angen i awdurdodau perthnasol, e.e. cwmnïau cyfleustodau ystyried canllawiau, a ‘chael a rhoi rhesymau clir’ ar gyfer unrhyw achos o wyro oddi wrthynt. Mae’r Ddyletswydd Sylw yn berthnasol i bob swyddogaeth, nid dim ond y rheini sy'n ymwneud â chynllunio, ac mae’n berthnasol, p’un a yw swyddogaeth yn un statudol neu ganiataol.
Mae’n bwysig nodi bod y Ddyletswydd Sylw yn seiliedig ar broses yn hytrach na chanlyniadau, e.e. mae’r ffocws ar b’un a yw awdurdod perthnasol wedi meddwl am ddibenion dynodiad ai peidio, yn hytrach na sut y gall weithio mewn partneriaeth i’w hyrwyddo trwy ei benderfyniadau. Mae'r grŵp o'r farn nad yw'r ddyletswydd hon yn ddigon effeithiol ar hyn o bryd.
Mae'r grŵp yn argymell sefydlu Fforwm Awdurdodau Perthnasol Cenedlaethol i weithio ar y cyd ar raddfa genedlaethol strategol i ysgogi newid systemig, a darparu’r cyd-destun ar gyfer cynlluniau rheoli ar gyfer Tirweddau Dynodedig unigol.
Gan gydnabod bod y Ddyletswydd Sylw wedi’i chryfhau’n ddiweddar yn Lloegr, gyda gofyniad i fod yn fwy rhagweithiol, byddai'n werth monitro effaith y newid hwn, gyda'r bwriad o asesu’r angen am newid i'r ddeddfwriaeth yn ystod tymor nesaf y Senedd.
Fel ardaloedd gwarchodedig Categori V IUCN, mae tirweddau dynodedig yn “areas where the interaction of people and nature over time has produced an area of distinct character with significant ecological, biological, cultural and scenic value”4. Mae cydnabod a pharchu’r rhyngweithio hwn yn hollbwysig o ran eu rheoli mewn modd effeithiol. Mae ystyried mynediad, cynhwysiant, tegwch a chyfiawnder yn rhan annatod o'r broses o wneud penderfyniadau amgylcheddol. Mae hyn yn hanfodol o ran datgloi’r cymhelliant, yr arloesedd a’r camau gweithredu ymarferol sydd eu hangen i ysgogi adferiad natur mewn Tirweddau Dynodedig. Mae'r grŵp yn cefnogi'r dull a nodwyd yn nogfen ymgynghori'r Fframwaith Pontio Teg5.
Cydnabuwyd bod dull Tîm Cymru yn allweddol i ddatgloi potensial Tirweddau Dynodedig. Mae llawer o gydweithredu’n digwydd eisoes, ond mae gweithio tuag at greu prosesau a chysylltiadau symlach, cyflymach, a mwy effeithlon gyda phartneriaid cyflawni allweddol ym maes cadwraeth yn hanfodol. Mae mynd i’r afael â materion o ran trwyddedu a chydsynio yn flaenoriaeth. Mae dull Tîm Cymru mewn perthynas â llywodraethu ar y cyd, sicrhau dulliau cyflawni symlach, a rheoli risg yn hanfodol er mwyn i ni ddatgloi potensial Tirweddau Dynodedig i gyflawni mwy dros natur a 30 erbyn 30.
Drwy TCLW, archwiliodd y grŵp y defnydd o setiau data oedd ar gael yn rhwydd er mwyn deall yn well sut mae modd i dimau Tirweddau Dynodedig ddefnyddio dulliau mapio adferiad natur i dargedu gweithgareddau adfer natur mewn ffordd mor effeithlon â phosibl.
Drwy'r gwaith hwn, a dreialwyd dros gyfnod llunio'r adroddiad hwn, cynhyrchwyd mapiau adferiad natur ar gyfer dwy Dirwedd Ddynodedig. O ganlyniad i'r broses ailadroddus a hynod gydweithredol hon, lluniwyd cyfres derfynol o fapiau Gweithredu â Blaenoriaeth ar gyfer Adfer Natur a oedd yn amlygu blaenoriaethau o ran cadwraeth, cyfleoedd a blaenoriaethau i adfer natur ar raddfa tirweddau, a ble i dargedu atebion seiliedig ar natur. Bydd mabwysiadu’r dull hwn ar gyfer pob Tirwedd Ddynodedig yn allweddol er mwyn gallu adfer natur yn gyflym ac ar raddfa fawr.
Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n datblygu deddfwriaeth newydd ar gyfer targedau bioamrywiaeth statudol.Ymhlith y cyrff cyhoeddus y byddai'r targedau hyn yn berthnasol iddynt, mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Lleol. Bydd y mapiau gweithredu â blaenoriaeth ar gyfer adfer natur ar gyfer Tirweddau Dynodedig yn ffordd allweddol i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol a thimau Tirweddau Cenedlaethol dargedu'r gwaith o gyflawni a dangos cynnydd yn erbyn unrhyw dargedau statudol newydd.
Ers eu creu, mae'r partneriaethau rhwng yr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol wedi cydweithio â ffermwyr, gan gydnabod mai amaethyddiaeth yw’r prif fath o ddefnydd tir a'i bod yn cynnig mecanwaith cyflawni allweddol o ran mynd i’r afael ag argyfyngau byd natur a’r hinsawdd mewn modd effeithiol. Felly mae system gymhellion gadarn a chynaliadwy i gefnogi ffermwyr a thyfwyr yn hanfodol.
Mae cynlluniau rheoli Tirweddau Dynodedig yn darparu asesiadau strategol, wedi'u harwain yn lleol o gymeriad a rhinweddau lleoedd y cydnabyddir eu bod yn asedau cenedlaethol. Mae'r cynlluniau yn mynegi nodweddion tirwedd werthfawr a gaiff ei gwerthfawrogi, ar sail mewnbwn arbenigol a barn gyhoeddus. Mae'r cynllun rheoli Tirweddau Dynodedig yn darparu fframwaith integreiddio allweddol er mwyn cyflawni ar draws yr amrywiaeth o argymhellion sydd wedi'u nodi yng nghynllun gweithredu'r Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth Tirweddau Dynodedig.
Mae datblygu Cynllun Ffermio Cynaliadwy i Gymru yn darparu cyfle i integreiddio dibenion Tirweddau Dynodedig â chymhellion ar gyfer arferion agro-ecolegol cadarnhaol, adlewyrchu pwysigrwydd a gwerth buddsoddi yn eu rhinweddau arbennig, a chefnogi camau i gyflawni’r dyletswyddau economaidd-gymdeithasol a llesiant.
Drwy gynllunio gwaith rheoli mewn modd cyfranogol, gall cyrff sy’n ymwneud â Thirweddau Dynodedig hwyluso sgyrsiau lleol gyda ffermwyr, tyfwyr a rheolwyr tir er mwyn creu gweledigaeth rymus ar y cyd ar gyfer cynhyrchu bwyd a ffermio ar raddfa tirweddau yn y dyfodol. Gall timau gynnig dull strategol o gyflawni’r weledigaeth hon, gan gydweddu dulliau rheoli tir cadarnhaol â chamau i adfer natur, ynghyd ag elfennau eraill o harddwch naturiol. Mae eu dealltwriaeth fanwl o’r ardal, ynghyd â chydberthnasau cryf ar lefel leol, yn darparu’r gallu i arwain y gydberthynas rhwng canlyniadau'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a manteisio i’r eithaf arnynt a chyflawni'r targed 30 erbyn 30.
Mae'r timau Tirweddau Dynodedig hefyd mewn sefyllfa dda i nodi sut y gallai galluogwyr fel y Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig (INRS), Y Gronfa Rhwydweithiau Natur, rhoddwyr hael a chyfleoedd am gyllid cyfunol gefnogi a datblygu'r momentwm dros newid ymhellach.
Felly, gwnaeth y grŵp argymell rhoi cymorth i gynghorwyr arbenigol, sydd wedi'u hymsefydlu o fewn Tirweddau Dynodedig ond yn gweithio mewn partneriaeth trwy TCLW, er mwyn galluogi dull cyson o ymgysylltu â ffermwyr a rheolwyr tir. Byddent yn hwyluso'r broses o rannu gwybodaeth ac arbenigedd er mwyn gallu teilwra camau gweithredu i dirweddau unigol. Mae gwybodaeth leol, cymorth wedi'i deilwra, rhagnodi ac ymyrraeth sy'n trosi blaenoriaethau cenedlaethol yn gyfleoedd sy'n berthnasol ar lefel leol yn allweddol i gyflawni rheolaeth ac adfer natur yn effeithiol.
Ar ddechrau 2025, sicrhawyd cyllid i ddechrau cynllun penodol, Ffermio Bro: Ffermio mewn Tirweddau Dynodedig, a fydd yn dechrau ym mlwyddyn ariannol 2025/26. Bydd y cynllun hwn yn ceisio cyflawni'r cyfleoedd a amlinellir uchod.
Mae cyfranogiad cyhoeddus mewn cynllunio a gwneud penderfyniadau yn hanfodol i reoli Tirweddau Dynodedig yn effeithiol. Nid yn unig y mae hyn yn helpu i feithrin consensws ynghylch cynlluniau gweithredu a grëwyd ar y cyd, ond gall hefyd helpu i fynd i'r afael â materion o ran cyfiawnder a thegwch. Mae deialog cyfranogol yn rhagflaenydd hanfodol i gyrraedd targedau argyfwng yr hinsawdd a byd natur. Bydd yn helpu i gymell y newid mewn ymddygiad angenrheidiol i ategu'r ddeddfwriaeth ac yn sicrhau bod natur ddiwylliannol Tirweddau Dynodedig Cymru yn cael ei hadlewyrchu mewn cynlluniau ac wrth wneud penderfyniadau.
Mae'r penderfyniadau y mae pobl yn eu gwneud, a'r ymddygiadau sy'n cael eu mabwysiadu ganddynt, yn greiddiol i ddatgloi potensial Tirweddau Dynodedig i gyflawni mwy dros natur a 30 erbyn 30.
Mae’r grŵp yn gwneud 9 argymhelliad allweddol ar hyn o bryd:
Mae'r grŵp yn bwriadu parhau i adeiladu ar y gwaith a wnaed hyd yma, drwy ganolbwyntio ar sawl ffrwd waith sydd wedi'u hamlinellu isod. Bydd y grŵp yn ystyried a oes angen cynrychiolaeth ar raddfa ehangach i ymgymryd â'r ffrydiau gwaith a bydd yn parhau i weithio'n agos gyda'r grwpiau arbenigol eraill sy'n gysylltiedig â'r Archwiliad Dwfn.
1. Diffinio rôl ar gyfer Tirweddau Dynodedig yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Gan gydnabod pwysigrwydd hanfodol cefnogi ffermwyr a rheolwyr tir i gyflawni ar gyfer natur a'r hinsawdd, mae Tirweddau Dynodedig yn bwriadu diffinio'u rôl yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a gweithio i fanteisio i'r eithaf ar eu mewnbwn. Bydd hyn yn cynnwys cais cydweithredol i'r Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig.
2. Ail-alinio Cynlluniau Rheoli'r Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol â'r argyfwng natur a hinsawdd
Mewn ymateb i'r canllawiau Cynlluniau Rheoli arfaethedig, mae'r grŵp yn bwriadu edrych ar y ffordd y gall y broses Cynllunio Rheoli adlewyrchu'r argyfyngau natur a hinsawdd yn well, sut y gall adroddiadau Cyflwr y Dirwedd hysbysu'r gwaith o bennu amcanion yn well, a sut orau i ddiffinio a hyrwyddo rheoli effeithiol, monitro cadarn a mecanweithiau adrodd.
3. Mapio Natur
Mae'r grŵp yn bwriadu parhau i weithio'n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i archwilio sut orau i gyflwyno gwaith mapio natur ar draws pob Tirwedd Ddynodedig. Bydd gwaith yn cynnwys ystyriaeth bellach o setiau data, mapio cyflwr SoDdGA, targedu a blaenoriaethu.
4. Meithrin Cydweithrediad
Gan adeiladu ar ddull gweithredu Tîm Cymru, bydd y grŵp yn archwilio sut i hyrwyddo Tirweddau Dynodedig fel ‘Tirweddau i Bawb’, er mwyn cynnwys cyfathrebiadau rhagweithiol strategol a thactegol yn ymwneud â natur a'r hinsawdd i gefnogi newid cadarnhaol mewn ymddygiad. Bydd y gwaith yn cynnwys hyfforddiant a dysgu ym maes llythrennedd yr hinsawdd a natur a rhaglen waith i godi ymwybyddiaeth ymhlith Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus a chyrff strategol eraill.
5. Camau i sicrhau adnoddau
Bydd gwaith yn cynnwys archwilio cyfleoedd Cyllid Gwyrdd a pharatoi i'w cynnwys fel rhan o ffrydiau adnoddau. Darparu tystiolaeth a dadl i Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau y caiff cyrff Tirweddau Dynodedig eu hariannu'n ddigonol, a hynny mewn modd cynaliadwy a hyblyg er mwyn cyflawni adferiad natur.
6. Gwella prosesau
Bydd gwaith yn parhau gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i ystyried materion yn ymwneud â chydsynio a chaniatáu, a gyda Llywodraeth Cymru yn ymwneud â diweddaru canllawiau polisi cynllunio cenedlaethol a datblygiadau a ganiateir.
7. Gweithio'n deg
Bydd y grŵp yn ystyried sut gallai'r cysyniad ‘Pontio Teg ym myd Natur’ gael ei ymgorffori'n fwy ffurfiol i'r fframwaith Pontio Teg i ddatgarboneiddio sero net ehangach. Yn ogystal, bydd y grŵp yn archwilio sut caiff y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol arfaethedig ar gyfer yr amgylchedd, newid hinsawdd a materion gwledig ac asesiadau, camau gweithredu neu ofynion adrodd ehangach eraill, eu hintegreiddio'n well a'u symleiddio.
8. Ystyried deddfwriaeth
Bydd y grŵp yn ystyried yr angen am ddeddfwriaeth yn y Senedd nesaf er mwyn diwygio'r dibenion statudol, y dyletswyddau a'r trefniadau llywodraethu ar gyfer cyrff Tirweddau Dynodedig i'w paratoi'n well i ysgogi adferiad natur
1Crofts, R., Dudley, N., Mahon, C., Partington, R., Phillips, A., Pritchard, S., a Stolton, S. (2014). Putting nature on the map: A report and recommendations on the use of the IUCN system of protected area categorisation in the UK. Gland, Y Swistir: IUCN. Ar gael yn: https://portals.iucn.org/library/node/44891.
2Sayer, J., Sunderland, T., Ghazoul, J., Pfund, J.-L., Sheil, D., Meijaard, E., Venter, M., Boedhihartono, A. K., Day, M., Garcia, C., van Oosten, C., a Buck, L. E. (2013). Ten principles for a landscape approach to reconciling agriculture, conservation, and other competing land uses. Proceedings of the National Academy of Sciences, 110(21), 8349-8356. Ar gael yn: https://www.pnas.org/doi/abs/10.1073/pnas.1210595110.
3Phillips, A. (2002). Management guidelines for IUCN category V protected areas: protected landscapes/seascapes. Gland, Y Swistir: IUCN. Ar gael yn: https://portals.iucn.org/library/node/8170.
4Dudley, N., Stolton, S., a Shadie, P. (2013). Guidelines for applying protected area management categories including IUCN WCPA best practice guidance on recognising protected areas and assigning management categories and governance types. Gland, Y Swistir: IUCN. Ar gael yn: https://portals.iucn.org/library/node/30018.
5Llywodraeth Cymru. (2024). Fframwaith Pontio Teg. Ar gael yn: https://www.llyw.cymru/crynodeb-or-fframwaith-pont...
Awduron:
G. Berry1 | T. Cosson2 | H. Davies3 | K. Davies4 | T. Johnstone5 | A. Jones6 | R. Lovell7 | R. Owen8 | P. Sinnadurai5 | E. Story8
1 Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
2 Llywodraeth Cymru, Tirweddau Dynodedig
3 Cynghorydd Amgylcheddol Annibynnol
4 Tirweddau Dynodedig, Cyfoeth Naturiol Cymru
5 Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
6 Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
7 Tirweddau Cymru
8 Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Argymhellion cychwynnol y Grŵp Arbenigol Tirweddau Dynodedig ar gyfer Cymru
PDF 142 KB Iaith: Cymraeg
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol. Cais am fformat gwahanol.