Diogelu 30% o Dir, Dŵr Croyw a Moroedd Cymru erbyn 2030

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i nod uchelgeisiol: diogelu 30% o'n tir, dŵr croyw a'n moroedd erbyn 2030. Mae'r targed hwn yn rhan o'r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang (GBF) ac mae'n gam hanfodol tuag at fynd i'r afael â heriau amgylcheddol dybryd, gan gynnwys colli bioamrywiaeth a newid yn yr hinsawdd.

Trwy ddiogelu ac adfer cynefinoedd naturiol, ein nod yw creu ecosystem wydn a ffyniannus yng Nghymru sydd o fudd i natur a phobl. Drwy feithrin cydweithio ymhlith cymunedau lleol, sefydliadau cadwraeth a llunwyr polisi, ein nod yw sicrhau bod ein bioamrywiaeth gyfoethog yn cael ei ddiogelu a'i wella ar gyfer llesiant cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Roedd yr Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth, sy'n canolbwyntio ar gamau weithredu, yn archwilio cynnydd Cymru o ran cyflawni'r targed 30 erbyn 30. Datblygwyd cyfres o gamau gweithredu ar y cyd i gefnogi adferiad natur yng Nghymru.

Ym mis Gorffennaf 2024, cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Ddatganiad Ysgrifenedig yn amlinellu'r cynnydd ar gamau’r Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth.


Grwpiau Arbenigol 30 erbyn 30

Er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflawni’r targed 30 erbyn 30 yng Nghymru, sefydlwyd tri grŵp arbenigol:

  1. Grŵp Arbenigol Mesurau Cadwraeth Effeithiol Eraill yn Seiliedig ar Ardal (OECMs) ac Ardaloedd Enghreifftiol Adfer Natur (NREAs): Mae'r grŵp hwn wedi cael y dasg o argymell prosesau a meini prawf ar gyfer adnabod, monitro ac adrodd ar NREAs presennol ac sy’n ymgeisio ac OECMs.
  2. Grŵp Arbenigol Tirweddau Dynodedig: Mae'r grŵp hwn yn gyfrifol am nodi ffrydiau gwaith â blaenoriaeth i ddatblygu'r fenter. Mae eu tasgau'n cynnwys datblygu cyfres o fapiau Gweithredu Adferiad Natur â Blaenoriaeth ar gyfer pob Tirwedd Ddynodedig, gan dynnu sylw at flaenoriaethau a chyfleoedd ar gyfer cadwraeth ac adfer natur ar raddfa tirwedd.
  3. Grŵp Arbenigol Monitro a Thystiolaeth: Mae'r grŵp hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu fframweithiau monitro a thystiolaeth cadarn a phriodol ar gyfer y targed 30 erbyn 30 a nodau adfer natur ehangach.

Mae pob grŵp arbenigol wedi cynhyrchu adroddiad argymhellion cychwynnol. Mae crynodeb gweithredol pob adroddiad ar gael isod.

I gael mynediad i'r adroddiadau llawn, anfonwch e-bost atom ar MarineandBiodiversity@gov.wales a nodwch pa adroddiad(au) sydd eu hangen arnoch.

Mesurau Cadwraeth Effeithiol Eraill yn Seiliedig ar Ardal (OECMs) ac Ardaloedd Enghreifftiol Adfer Natur (NREAs)

Darganfod mwy


Tirweddau
Dynodedig

Darganfod mwy


Monitro a
Thystiolaeth

Darganfod mwy

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt