'Mae Ceredigion yn doreithiog o gynefinoedd a bywyd gwyllt, ac mae bioamrywiaeth yn rhan bwysig o arbenigrwydd y Sir. Yn wir, mae’r rhosydd (sydd hefyd yn gynefin i frithegion y gors prin), yr aberoedd a’r gwlyptiroedd o bwysigrwydd rhyngwladol sy’n cynnal adar dŵr ac adar hirgoes, ynghyd â’r coetiroedd derw, i gyd yn cyfrannu at fioamrywiaeth y Sir. Hefyd, mae Ceredigion yn gadarnle i farcutiaid a brain coesgoch. Mae arfordir Bae Ceredigion yn bwysig i adar, ac mae’r dyfroedd yn cynnal dolffiniaid trwyn potel, llamidyddion a morloi llwydion. Nid ymboeni am rywogaethau prin neu rywogaethau dan fygythiad yn unig sydd ynghlwm wrth warchod bioamrywiaeth. Mae bioamrywiaeth yn cynnwys popeth byw. Mae gwarchod y bywyd sydd o’n cwmpas yn fwyfwy pwysig, nid yn unig oherwydd gwerth aruthrol y planhigion a’r anifeiliaid, ond er lles ein hanghenion ni.
Cafodd Cynllun Adfer Natur Ceredigion ei lansio ym mis Mawrth 2017 yng Nghanolfan yr Urdd, Llangrannog. Mae’n pennu amcanion a chamau gweithredu Partneriaeth Natur Ceredigion ar gyfer gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth a gweithio tuag at ecosystemau iach. Partneriaeth Natur Ceredigion sydd wedi’i lunio, sef grŵp a sefydlwyd i ddisodli’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol, ac mae’n anelu at warchod a chyfoethogi bioamrywiaeth leol yng Ngheredigion.
Mae cynllunio ar gyfer bioamrywiaeth yng Ngheredigion yn broses barhaus. Bydd Partneriaeth Natur Ceredigion yn esblygu wrth i’r wybodaeth gynyddu a thrwy gyfrwng y camau a gymerir i gynnal amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau yn y Sir.
Cyngor Sir Ceredigion
Aberaeron
SA46 0PA
Ffôn: 01545 570881
Ebost: biodiversity@ceredigion.gov.uk
Gwefan: ceredigion.gov.uk