"Fe fyddwn ni ar ein colled yn gorfforol, yn feddyliol ac yn ysbrydol pe bai ein plant yn cael eu hamddifadu o gyswllt â byd natur. Ni ddylai cyswllt â byd natur fod yn rhywbeth i'r breintiedig yn unig. Mae'n hanfodol i ddatblygiad personol ein plant." Syr David Attenborough
Eco-Sgolion - Cadwch Gymru'n Daclus
Rhaglen wobrwyo ryngwladol yw Eco-Sgolion sy'n arwain ysgolion ar eu taith tuag at gynaliadwyedd, gan ddarparu fframwaith i helpu i wneud yr egwyddorion hyn yn rhan annatod o fywyd ysgol. Mae ymuno ag Eco-Sgolion yn syml; gall ysgolion gofrestru am ddim arlein.
'Mae Cadwch Gymru'n Daclus yn credu'n gryf fod ein rhaglen Eco-Sgolion yn ysbrydoli a grymuso disgyblion i fod yn arweinwyr o fewn eu cymunedau. Mae'n lledaenu'r profiadau addysgol y tu hwnt i'r dosbarth, er mwyn datblygu agweddau ac ymrwymiad cyfrifol ac ystyrlon yn y cartref a'r gymuned ehangach.' Cadwch Gymru'n Daclus
Every Child Wild - Yr Ymddiriedolaethau Natur
Mae tystiolaeth wedi bod yn tyfu ers sawl blwyddyn sy'n pwysleisio'r buddion o ran iechyd a'r buddion cymdeithasol a geir o gyswllt â byd natur i bob oed. Mae plant yn hapusach, yn iachach ac yn fwy creadigol pan maent wedi'u cysylltu â byd natur. Dylai hyn fod ar gael nid i ambell un yn unig, ond i bob plentyn ym Mhrydain. Mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn cyrraedd tua hanner miliwn o blant y flwyddyn drwy eu haelodaeth ieuenctid a'u gwaith gydag ysgolion.
Gallwch ganfod yr Ymddiriedolaeth Natur yn eich ardal chi yma a gweld y map o glybiau natur i blant a phobl ifanc yma.
Mae ystod eang o adnoddau ar gael i aelodau, gan gynnwys taflenni gwybodaeth ar weithgareddau, gemau, ryseitiau a sut i greu crefftau amrywiol yn eich sesiynau. Ceir hefyd nifer o ddogfennau defnyddiol a ddatblygwyd gan arweinwyr Ysgol Goedwig profiadol ac yn ystod sesiynau hyfforddi CPD - gan gynnwys Rheoli Coetiroedd, Asesiadau o Effaith Amgylchedd a Llawlyfr Polisïau a Gweithdrefnau.
Dysgu Drwy Dirweddau Cymru yw rhaglen LTL (Learning Through Landscapes) yng Nghymru. Elusen ar gyfer Prydain gyfan yw LTL sy'n mynd ati i gyfoethogi'r cyfleoedd i blant ddysgu a chwarae yn yr awyr agored. Ble bynnag y mae'n bosib rydym yn annog pobl ifanc i ddweud eu dweud ar y ffordd y mae eu tir yn cael ei ddefnyddio a'i wella. O ganlyniad maent yn dysgu i greu rhywbeth gwerthfawr a gofalu amdano; mae eu hunanbarch yn cynyddu a'u hymddygiad yn gwella, ynghyd â'u potensial i ddysgu a llwyddo.
Plant2Plate Campaign - WWF
Mae Plant2Plate yn canolbwyntio ar yr hyn y gellir ei wneud i gynhyrchu a phrynu bwyd mewn ffordd gynaliadwy nad yw'n niweidio ein planed. I gefnogi ysgolion yn yr ymgyrch, datblygodd WWF adnoddau a gweithgareddau gwych, yn gysylltiedig â'r cwricwlwm, ar gyfer disgyblion cyfnod allweddol 1 a 2, a'u pwrpas oedd helpu i gyflwyno disgyblion i faterion yn ymwneud â bwyd a chynaliadwyedd.
Mae tyfu bwyd yn yr ysgol yn weithgaredd gwych i ddisgyblion o bob oed. Mae ein canllawiau Food for Thought a Growing Guide yn cynnig syniadau ymarferol, gan gynnwys calendr tyfu bwyd ardderchog, gan gynnwys y prif agweddau ar dyfu bwyd.