Dechrau arni gydag adran 6 Dyletswydd Bioamrywiaeth

Camau Rhagarweiniol

Darllenwch y Cflwyniad i Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau a’r canllawiau Cwestiynau Cyffredin a phenderfynwch ym mha ffordd y mae bioamrywiaeth yn berthnasol i’ch sefydliad chi yn ei weithgareddau dyddiol, yn ei bolisïau, cynlluniau, rhaglenni a’i brosiectau. Bydd y camau cyntaf hyn o gymorth wrth egluro pam y mae bioamrywiaeth yn bwysig i’ch sefydliad a sut y gall yr hyn y mae unigolion a’r sefydliad cyfan yn ei wneud gyfrannu at gynnal a gwella bioamrywiaeth.

Mae’r Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru yn rhestru chwe amcan y dylid eu defnyddio i’ch helpu i sefydlu eich blaenoriaethau ynglŷn â bioamrywiaeth a chamau gweithredu ynghyd â’r rhestrau adran 7 o gynefinoedd a rhywogaethau sydd wedi eu blaenoriaethu yng Nghymru, Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol ( SoNaRR) a’r Datganiadau Ardal (pan fyddant wedi eu cyhoeddi).

Mae arweiniad pellach i’w weld ar y Dudalen Arferion Da

Pwy ddylai arwain?

Y corff sy’n gwneud y penderfyniadau, neu bennaeth yr awdurdod cyhoeddus sy’n gyfrifol am gydymffurfio â’r mater hwn. Yna, drwy eu harweiniad hwy, fe ddylai fod yn bosib annog ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth gan gymryd y camau priodol drwy’r sefydliad cyfan.

Bydd hyn o gymorth i gyfuno bioamrywiaeth â gwaith creiddiol eich sefydliad a gwreiddio gwerthoedd a buddiannau bioamrywiaeth yn y penderfyniadau a gymerir.

Cynnwys y bobl iawn

Yn ddelfrydol, byddwch angen unigolyn neu dîm o fewn eich sefydliad i gydlynu’r cynllunio a’r camau gweithredu. Gallwch ddefnyddio camau, dulliau o ddarparu a chapasiti ar gyfer cynllunio bioamrywiaeth sy’n bodoli’n barod o fewn eich sefydliad gan wneud yn siŵr bod hyn wedi ei wreiddio’n llwyr ac yn addas ar gyfer ei bwrpas yn ôl dyletswydd s6. Er hyn, mae’n bwysig nodi mai un o brif fwriadau’r ddyletswydd yw gweld ystyriaethau bioamrywiaeth yn cael eu gwreiddio drwy bob awdurdod cyhoeddus fel bod pob gweithiwr yn gallu cyfrannu.

Gallwch gysylltu â Phartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru yma: ac fe allant roi cyngor neu eich cyfeirio at wybodaeth bellach.

Cyfathrebu

Mae hybu a gwreiddio bioamrywiaeth drwy’r awdurdod cyhoeddus yn hanfodol er mwyn cydymffurfio â dyletswydd adran 6. Ceisiwch gynnwys cydweithwyr yn yr hyn sy’n digwydd, gofynnwch am eu barn a chodwch ymwybyddiaeth am y materion.

Dyma rai o’r mathau o wybodaeth y gallech ei rannu’n rheolaidd er mwyn hybu ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth a chynnal diddordeb yn y maes:

1.Polisi, nod ac amcan a thargedau bioamrywiaeth eich sefydliad.

2.Gwybodaeth sy’n egluro mwy am fioamrywiaeth yn eich dull o gyfathrebu’n fewnol ac ar daflenni gwybodaeth.

3.Hanesion am lwyddiannau, cynnydd a chyflawniad allweddol.

4.Rhannu gwybodaeth am y modd y gall pobl gymryd rhan ac atgoffa pobl am y pethau bach sy’n helpu i gyflawni llawer ym maes cadwraeth bioamrywiaeth leol.

Gallwch weld enghreifftiau o’r uchod i gyd ar y Dudalen Arferion Da.

Adran 6 - Cynlluniau ac Adroddiadau

Dan delerau dyletswydd adran 6, mae'n ofyniad cyfreithiol i awdurdodau cyhoeddus gyhoeddi cynllun sy'n nodi'r hyn y maent yn bwriadu ei wneud i gynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau. Y dyddiad cau ar gyfer y rownd adrodd gyntaf oedd diwedd 2019, y dyddiad cau ar gyfer yr ail rownd adrodd yw diwedd 2022.

Yn ôl brif dudalen Adran 6

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt