Edrychwn ymlaen at ymuno â chi i ddathlu Wythnos Natur Cymru 2025!
Bydd rhywbeth i bawb – digwyddiadau i unigolion, teuluoedd a'r rhai sy'n newydd i fyd natur, ac i'r naturiaethwr mwy profiadol.
Cynhelir digwyddiadau Wythnos Natur Cymru bob blwyddyn yng ngwarchodfeydd yr Ymddiriedolaeth Natur a'r RSPB, gwarchodfeydd natur lleol a chenedlaethol, parciau a mannau gwyrdd cymunedol, ysgolion a safleoedd addoli, traethau ac ardaloedd arfordirol.
Mae digwyddiad nodweddiadol yn cynnwys taith gerdded wedi’i thywys ar safle natur. Bydd arweinydd arbenigol yn tynnu sylw at blanhigion ac anifeiliaid a phwysigrwydd y cynefin ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Mae'r mwyafrif helaeth o'r digwyddiadau yn rhad ac am ddim*
*Efallai y codir tâl mynediad i ychydig o ddigwyddiadau. Mae hyn yn cefnogi'r gwaith gwerthfawr mae'r sefydliad yn ei wneud ar ran natur.