Mae’r 15 miliwn o erddi sydd ym Mhrydain yn cyfateb i ardal sy’n fwy na’n holl Warchodfeydd Natur Cenedlaethol; gerddi yw’r bysedd gwyrdd sy’n ymestyn drwy’r dirwedd. Maen nhw’n fwy gwerthfawr fyth gan eu bod wedi’u trefnu’n rhwydweithiau o lecynnau glas, yn aml yn mynd i galon ein dinasoedd mwyaf, gan ffurfio ‘coridorau bywyd gwyllt’ y gall anifeiliaid a phlanhigion symud ar eu hyd.Rydym yn adnabyddus fel cenedl o arddwyr brwd. Gan eu bod ar garreg y drws cefn, dyma’r agosaf y gallwn fod at fyd natur.
Bydd yr awgrymiadau canlynol yn eich helpu i ddenu gwenyn, adar a gloÿnnod byw i’ch gardd.A chofiwch, mae peillio’n gwbl hanfodol ac yn rhywbeth y mae natur yn ei roi am ddim … ychwanegwch dipyn o liw a rhoi help llaw i fywyd gwyllt!
Rhowch gynnig ar y dolenni hyn i gychwyn garddio er lles bywyd gwyllt:
Garddio er lles bywyd gwyllt | Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Garddio er lles Pryfed - Buglife
Plannu er lles Pryfed - Buglife
Garddio | Gwarchod Gloÿnnod Byw
Awgrymiadau ar arddio er lles bywyd gwyllt ar gyfer y flwyddyn | Gwarchod Gloÿnnod Byw