Cydnabyddir yn eang eu gwerth therapiwtig i iechyd a llesiant; maent yn gallu gwella golwg ystadau tai neu eiddo mudiadau (a'u gwerth ar y farchnad); maent yn darparu man hamdden a mynediad at gynnyrch ffres, fforddiadwy; maent yn agor y drws at ddysgu pobl ynglŷn â choginio a maeth; ac maent yn helpu i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd drwy gefnogi cadwyn fwyd fwy lleol a chynaliadwy.
I'r rheini sydd am ddechrau arni, mae'r Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol yn cynnigcyflwyniad cynhwysfawr i sefydlu, datblygu a chynnal fferm, gardd neu fan tyfu arall a reolir gan y gymuned. Mae'n rhoi cyngor hawdd ei ddarllen ar y materion rydych yn debygol o'u hwynebu; gwybodaeth gyffredinol ar y meysydd allweddol a dolenni at gyngor mwy penodol ac arbenigol. Ceir hefyd y Pecyn Tyfu Cymunedol sy'n cynnwys cyfres o ffilmiau byr i fynd gyda phob un o'r camau mae'n rhoi sylw iddynt, ynghyd â straeon ac awgrymiadau da gan brosiectau sefydledig. Mae adnoddau eraill yn ymdrin â meysydd megis iechyd a diogelwch ac ennyn diddordeb gwirfoddolwyr, ysgolion a theuluoedd.
Mae'r Ffederasiwn hefyd yn rheoli'r Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol Cymru (CLAS Cymru), sy'n ceisio helpu grwpiau tyfu cymunedol a pherchnogion tir - yn ogystal â phobl eraill sy'n ymwneud â mynediad at dir - i weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod mwy o dir ar gael ar gyfer tyfu cymunedol.
Mae prosiectau Incredible Edible Wales wedi defnyddio cynhwysyddion a gwlâu blodau mewn mannau cyhoeddus gan gynnwys yr orsaf drenau a'r ganolfan hamdden.
Mae'r Ffederasiwn yn ogystal yn rhedeg prosiect Tyfu Gyda'n Gilydd, sy'n ceisio helpu prosiectau tyfu cymunedol i fod yn fwy ariannol gynaliadwy. Tyfu Gyda'n Gilydd yn fenter bartneriaeth newydd o sefydliadau sector cymunedol ac amgylcheddol a fydd yn datgloi incwm, tir a sgiliau ar gyfer grwpiau tyfu cymunedol iddynt ddod yn hunangynhaliol yn ariannol.
Tyfu Gyda'n Gilydd wedi derbyn £800,000 gan y Gronfa Loteri Fawr, a fydd yn ei alluogi i nhw poeth ffyrdd newydd, arloesol ar gyfer y gymuned leol grwpiau tyfu i gynhyrchu eu hincwm eu hunain. Dros y ddwy flynedd nesaf, byddwn yn hyrwyddo'r defnydd eang o fenter gymunedol arloesol; helpu pobl i ddatblygu cyngor a hyfforddiant busnes a sgiliau technegol ac yn cynnig ar ddulliau cyllido amgen, megis cyfranddaliadau cymunedol a chynhyrchu incwm digidol (DIG). Y nod yw cynnig cymorth wedi'i deilwra i ddarparu mentrau tyfu cymunedol gyda'r hyder, y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i symud o ddibynnu ar grantiau i fodel incwm deinamig a chytbwys.
Sefydlwyd Cymdeithas y Mannau Agored yn 1865 (Cymdeithas Gwarchod Tir Comin yn wreiddiol), ac felly hi yw corff cadwraeth cenedlaethol hynaf Prydain. Dros y ganrif ddiwethaf mae'r gymdeithas wedi gwarchod tir comin er mwynhad y cyhoedd. Mae hi hefyd wedi bod yn weithgar yn diogelu'r rhwydwaith hawliau tramwy hanesyddol a hanfodol ledled Cymru a Lloegr.
Ei phrif waith yw cynorthwyo a chynghori aelodau ar y ffordd orau o warchod tir comin lleol, meysydd trefi a phentrefi, mannau agored a llwybrau cyhoeddus. Mae'r gymdeithas yn cynghori Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn San Steffan a Chynulliad Cenedlaethol Cymru ar geisiadau am waith ar dir comin, ac yn cael gwybod gan awdurdodau lleol pryd bynnag y ceir cynnig i newid llwybr hawl dramwy gyhoeddus. Mae'r gymdeithas hefyd yn ymgyrchu dros newidiadau mewn deddfwriaeth i warchod llwybrau a mannau agored.
Deddfau Lleol ar gyfer Meysydd Pentrefi, Tir Comin a Mannau Agored
Nodiadau Canllaw ar Ymgeisio am Dir Comin
Achub Meysydd Pentrefi Cymru rhag Newidiadau yn y Gyfraith Gynllunio
Mae'r canllaw yn cwmpasu'r canlynol:
Gwneud cais am randir Dylech gysylltu â'ch awdurdod lleol a/neu'ch cyngor cymuned os hoffech gael llain o dir ar les neu i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael yn eich ardal.
Gall y Gymdeithas Randiroedd roi cymorth, canllawiau a chyngor i'r sawl sydd â diddordeb mewn garddio rhandiroedd.
Mae'r Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol yn rhoi cefnogaeth a chyngor i brosiectau tyfu yn y gymuned sy'n bodoli eisoes a phrosiectau o'r fath sydd yn yr arfaeth.
Gall y Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol ddarparu cyngor i brosiectau tyfu yn y gymuned a thirfeddianwyr ar brydlesu a phrynu tir.
Mae yna lawer o brosiectau tyfu cymunedol ysbrydoledig eraill sy'n cynnig hyfforddiant, digwyddiadau a chyfleoedd gwirfoddoli. Dyma rai ohonynt o wahanol rannau o Gymru: