Grwpiau Bioamrywiaeth Rhanbarthol

Ynghyd â chydweithio gydag awdurdodau lleol cyfagos, mae 3 ardal o Gymru yn cwrdd yn rheolaidd i gydlynu prosiectau natur rhanbarthol, i rannu gwybodaeth ac arfer gorau. Y tair ardal yw Morgannwg, Gwent a gogledd-ddwyrain Cymru ac yn yr ardaloedd hynny mae’r grwpiau a ganlyn:

Grŵp Ymgynghorol Morgannwg

Mae partneriaethau bioamrywiaeth lleol y De yn cyfarfod â phartneriaid strategol rhanbarthol i ddatblygu prosiectau bioamrywiaeth, cronni arbenigedd, cyfnewid syniadau a chynnal cyfathrebu a rhwydweithio da ledled y De. Mae Grŵp Gweithredu ar Fioamrywiaeth Morgannwg yn cwmpasu siroedd Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili a Merthyr Tudful.

Grŵp Ymgynghorol Bioamrywiaeth Gwent Fwyaf

Mae partneriaethau bioamrywiaeth lleol y De-ddwyrain yn cyfarfod â phartneriaid strategol rhanbarthol i ddatblygu prosiectau bioamrywiaeth, cronni arbenigedd, cyfnewid syniadau a chynnal cyfathrebu a rhwydweithio da ledled y De. Mae’r Grŵp hwn yn cwmpasu ardaloedd Casnewydd, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen a Sir Fynwy.

Rhwydwaith Bioamrywiaeth Gogledd-ddwyrain Cymru

Mae Rhwydwaith Bioamrywiaeth y Gogledd-ddwyrain yn cwmpasu gweithredu dros fioamrywiaeth yn siroedd Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Mae’r rhwydwaith yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, sefydliadau cadwraeth, cyrff statudol, tirfeddianwyr a gwirfoddolwyr y Gogledd-ddwyrain er mwyn gwarchod a gwella ein treftadaeth naturiol gyfoethog. Mae’r rhwydwaith yn cyfarfod bob chwe mis i drafod prosiectau a rhannu syniadau ac arbenigedd.

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt