Natur yn Merthyr Tudful

Cafodd Partneriaeth Bioamrywiaeth Merthyr Tudful ei ffurfio er mwyn helpu i roi’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol ar waith a chyrraedd ei dargedau. Y targed ar gyfer pob cynefin yn y cynllun hwn yw cynnal eu maint, sicrhau cyflwr ffafriol ar eu cyfer, eu hadfer, eu hymestyn, a chynnal a chynyddu’r rhywogaethau o fewn y fwrdeistref.

Mae’r bartneriaeth yn cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac amrywiaeth o unigolion, grwpiau cymunedol, mudiadau gwirfoddol, sefydliadau’r llywodraeth a sefydliadau anllywodraethol. Mae’r bartneriaeth yn cyfarfod bob tri mis. Os hoffech ymuno â’r bartneriaeth neu gael eich ychwanegu at y rhestr bostio, cysylltwch â Gill Hampson.

Mae ardal Merthyr Tudful yn doreithiog o fywyd gwyllt – mae eogiaid, dyfrgwn a gleision y dorlan yn cartrefu ar Afon Taf; mae adar eiconig fel y gwybedog brith a’r tingoch yn byw yng nghoetiroedd Taf Fechan; ac mae yna boblogaeth bwysig o fadfallod dŵr cribog ym Mharc Cyfarthfa, yn ogystal â thir parc bendigedig i’w archwilio. Oherwydd yr elfennau hyn i gyd, a threftadaeth ddiwydiannol a diwylliannol gyfoethog yr ardal, mae Merthyr Tudful yn lle gwerth chweil i ymweld ag ef.

Cyswllt

Gill Hampson - Swyddog Bioamrywiaeth

Merthyr Tydfil County Borough Council
Unit 5, Pentrebach
Merthyr Tydfil
CF48 4TQ

Ffôn: 01685 726251
Ebost: Gillian.Hampson@merthyr.gov.uk
Gwefan: clicwch yma

Mae Merthyr Tudful yn aelod gwerthfawr o Rwydwaith Partneriaeth Natur Lleol Cymru gyfan

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt